
 |  | Gwefr diwygiad
Pwyso a mesur 04-05 a meddwl am heddiw
Dydd Iau, Rhagfyr 19, 2002
| Diwygiad 04-05 gan Eifion Jones. Gwasg Bryntirion. £3.95.

Dydi rhywun ddim yn clywed y peth gymaint â hynny y dyddiau hyn ond yr oedd yna, rai blynyddoedd yn ôl fynegi barn mai "Diwygiad arall fyddai'n dod â'r wlad yma yn ôl i drefn."
Ai arwydd o faint y dirywiad mewn safonau a moesau cymdeithasol yw'r ffaith nad yw hynny'n cael ei ddweud gymaint y dyddiau hyn?
Fod pobl o'r farn fod pethau wedi mynd yn rhy bell ac nad oes ateb . . .
Ynteu arwydd yw na chredant mai gan Gristnogaeth mae'r ateb?
Diau y byddai awdur y llyfryn bach hwn - gan wasg a oedd yn cael ei hadnabod tan rai blynyddoedd yn ôl fel Gwasg Efengylaidd Cymru - yn anghydweld gan ddadlau y daw gwaredigaeth os dyna yw ewyllys Duw.
Cario pobol Efallai fod y syniad o ddiwygiad crefyddol gyda rhyw angerdd crefyddol yn sgubo a thwymo'r wlad yn rhywbeth digon estron heddiw.
Ond ddylai o ddim bod gan i ninnau weld mwy nag un enghraifft - hyd yn oed yn ystod y blynyddoedd diweddar - o'r elfennau hynny oedd yn bresennol mewn diwygiad crefyddol yn cael eu hamlygu a phobl yn cael eu cario gan rhyw angerdd teimladol.
Tebyg mai'r enghraifft amlycaf oedd yr ymateb cyhoeddus i farwolaeth y Dywysoges Diana gyda rhai pobl yn darogan yng nghanol gwres yr ymateb hwnnw ein bod ar drothwy trobwynt yn ein hanes.
Ond os oeddem ar groesffordd o gwbl, go brin inni gymryd y ffordd gywir. Dychwelyd at ei hen hunanoldeb a wnaeth cymdeithas wedi'r gwewyr munud awr.
Yn hanes Cristnogaeth, gellid dadlau mai'r un peth a ddigwyddodd yn dilyn ymchwydd diwygiad enwog 04-05.
Teimlo'r effaith Ond y mae awdur y gyfrol hon yn dadlau, hyd yn oed cyn waethed ag yw cyflwr crefyddol Cymru heddiw, y byddai'n waeth heb yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y ddwy flynedd ryfeddol yma.
"Nid dweud gormod yw honni na fyddai Cymru'r ugeinfed ganrif yr un pe na byddai ddiwygiad yn 1904. Byddai gwacter mewn crefydd a'r dirywiad moesol a chymdeithasol a'n daliodd y blynyddau diwethaf wedi 'u hamlygu eu hunain dipyn cynt hebddo," meddai.
Yn Gristion neu beidio y mae'r syniad o Ddiwygiad yn yr ystyr gynnwrf crefyddol yn un eithriadol o ddiddorol ac ni ellir ond rhyfeddu at rai o'r straeon a adroddir yn y gyfrol hon wrth i'r Dr Eifion Evans geisio "gosod Diwygiad 1904-05 mewn cyd-destun beiblaidd."
Safbwynt efengylaidd Yn 'arbenigwr' yn y maes ac yn awdur nifer o lyfrau ar y pwnc, y mae gan Eifion Evans ei safbwynt Cristnogol pendant ei hun ac o'r safbwynt efengylaidd hwnnw y mae'n sgrifennu. Nid oes dim o'i le yn hynny.
Mae'n cychwyn trwy ddarlunio'r cyfnod a'r dyheadau a ragflaenai'r Diwygiad ei hun.
"Efallai mai pinacl y dyhead am adfywiad oedd geiriau David Howell, Deon Tyddewi. Ychydig cyn ei farw yn Ionawr 1903, addefodd mai angen pennaf Cymru oedd adfywiad ysbrydol a fyddai yn 'gorlifo yr holl wlad'," meddai wedi tynnu sylw at gyflwr cymdeithasol y wlad ar y pryd gyda'i thlodi a'i meddwdod a'i gorthrwm a'i rhagrith Victoraidd.
Ac yn yr eglwysi collwyd, meddai, yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg sawl cynulleidfa "trwy gynnig rhyw fath o gandi fflos yn lle maeth gwirionedd Duw" wrth i bregethwyr ganolbwyntio ar berfformiad yn hytrach na chynnwys.
Enghreifftiau rhyfeddol Dan y fath amgylchiadau dim rhyfedd fod pobl yn hiraethu am 'well' ac fe gafwyd hynny yng ngwres y Diwygiad.
Disgrifir y Cardigan Pleasure Fair yn cael ei throi yn Gyfarfod Diwygiad: "Wrth i Maud Davies ganu'r pennill, Marchog Iesu yn llwyddiannus, holltodd y ffair yn ddwy".
Yng Nghaerfyrddin, gorymdeithiodd pobl drwy'r strydoedd yn canu a moli.
Meddiannwyd Bethesda, Arfon, gan "hurricane yr Ysbryd Glân".
"O Fôn i Fynwy yr oedd arwyddion o wanwyn ysbrydol."
Ac ymhlith y mwyaf blaenllaw o lafurwyr y gwanwyn hwnnw yr oedd llanc 26 oed o Gasllwchwr a fu'n gweithio mewn pwll glo ac wedyn yn ofaint, Evan Roberts.
Mor allweddol ac amlwg oedd ef y mae'n cael pennod gyfan yn y llyfryn 55 tudalen.
Beth am heddiw Er difyrred y straeon hyn - i ble maen nhw’n dod â ni ac a ydyn nhw yn berthnasol heddiw?
Mae'r llyfryn yn cloi gyda phennod "Diwygiad a'r sefyllfa heddiw" lle mae'r awdur yn trafod yr anghenion ysbrydol sy'n bodoli heddiw mewn cyfnod arall o argyfwng crefyddol.
"Trist yw cyflwr pobl Dduw," meddai Eifion Evans wrth gyfleu'r argyfwng hwnnw a'r her mae'n ei gynnig, "Oeraidd a chyndyn ydym yn ein gweddïau. Arwynebol yw cymdeithas y saint. Mae caledrwydd yn ein calonnau a styfnigrwydd yn ein hagwedd."
Mae'n cloi trwy drafod y cwestiwn: "A oes gennym le i gredu y cawn ddiwygiad arall?"
Holi'r awdur
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfraua'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan
|  | 
|