
 |  | Beirdd a'u cerddi
Cyfrol sy'n tafoli beirdd - a chyfle i'w clywed ar CD hefyd
Dydd Iau, Rhagfyr 5, 2002
| Mae’n Gêm o Ddau Fileniwm - Cyflwyno beirdd a barddoniaeth. Gol. Iwan Llwyd a Myrddin ap Dafydd. (Gwasg Carreg Gwalch, £12.00)
 Adolygiad: Eiry Miles
Trwy gyfrwng sioeau hwyliog megis ‘Cicio Ciwcymbers’ a ‘Thaith y Saith Sant’, mae Iwan Llwyd a Myrddin ap Dafydd wedi ymdrechu’n ddiflino ers blynyddoedd i’n hargyhoeddi nad peth sych i ddeallusion yw barddoniaeth.
Gellid gweld y gyfrol hon fel estyniad o’u gwaith cenhadol.
Cyflwynir ynddi amrywiaeth eang o farddoniaeth, o ganu gwerinol, hiraethus Twm Morys i ddelweddau cignoeth a modern Bryan Martin Davies – rhywbeth at ddant pawb.
Beirdd newydd Y mae’r gyfrol hefyd yn rhoi sylw haeddiannol i feirdd ‘newydd’ megis Elinor Wyn Reynolds a Grahame Davies. Prin yw’r astudiaethau arnynt, er eu bod wedi cyfrannu’n fawr at fwrlwm y sîn farddonol Gymraeg yn ddiweddar.
Felly, bydd y gyfrol hon yn eu cyflwyno i gynulleidfa ehangach, ac yn gymorth i bobl werthfawrogi eu gwaith.
Er mwyn cael gwir ddealltwriaeth o waith y beirdd, cyflwynir hwy mewn parau.
Mae deg bardd cyfoes yn cyflwyno’u cerddi, ac yn trafod bardd arbennig a gafodd ddylanwad arnynt. Cawn hefyd ddadansoddiad gan y golygyddion o’u gwaith, ynghyd â geirfa, dyfyniadau a phwyntiau i’w hystyried, a chlywn y beirdd yn darllen eu cerddi eu hunain mewn CD a amgëir yn y llyfr.
Clywed clec a rhythm Hyfryd yw clywed clec y gynghanedd a rhythm hypnotig cerddi megis ‘Far Rockaway’ Iwan Llwyd, ac mae’r cerddi vers libre yn gweithio lawn cystal a’r cerddi caeth o gael eu perfformio.
Mae’r hiwmor sych yn llais Grahame Davies a sioncrwydd afieithus Elinor Wyn Reynolds yn sicr ychwanegu at ein mwynhâd o’r cerddi.
Wrth gwrs, nid yw’r CD yn cyfleu’r wefr o glywed bardd yn perfformio’n fyw, ac ni all CD gyfleu’r stumiau a’r egni corfforol aruthrol a ddefnyddia Ifor ap Glyn yn ei berfformiadau. Ond mae’n atodiad gwych i’r gyfrol, a rhyfedd nad yw’n beth llawer mwy cyffredin.
Traddodiad llafar oedd y traddodiad barddol Cymraeg am ganrifoedd, wedi’r cyfan, ac er mor wahanol yw’r beirdd i’w gilydd, dengys y CD eu bod oll wedi ffoli ar swn yr iaith Gymraeg.
Esgeulus weithiau Hoffais ddull y golygyddion o drin a thrafod y cerddi, er iddynt fod braidd yn esgeulus ar brydiau.
Ail-adroddus yw’r drafodaeth ar ‘Y Trip’ gan T.H. Parry-Williams, er enghraifft, a gellid cymoni llawer o wallau teipio. Serch hynny, mae eu dadansoddiadau yn dreiddgar, heb fod yn rhy ysgolheigaidd, a’u mynegiant sgwrsiol, agos-atoch yn fy atgoffa o ryddiaith Gwyn Thomas.
Go brin y byddai’n beirniaid llên mwyaf traddodiadol yn defnyddio geiriau megis ‘zoom-io’ wrth drafod cerddi, ond llwydda’r ddau olygydd i ddod a’r cerddi yn fyw, a’u hesbonio’n glir ac yn drylwyr heb fod yn nawddoglyd.
Hawdd ei ddeall Bydd y llyfr felly yn ddealladwy i bobl nad ydynt wedi darllen llawer o farddoniaeth Gymraeg, ac yn anhepgor i athrawon a darlithwyr.
Bydd y gwaith o baratoi gwersi yn sicr yn rhwyddach o droi at y llyfr hwn, a’r dyfyniadau yn fanna o’r nefoedd i fyfyrwyr diog sydd am lenwi tipyn ar eu traethodau!
Dysgwn gryn dipyn am ddigwyddiadau’r ugeinfed ganrif o ddarllen y gyfrol.
Yng ngeiriau’r golygyddion, "Anodd yw cyfeirio at yr un bardd Cymraeg yn ystod y ganrif heb gyfeirio at ddigwyddiadau a thueddiadau gwleidyddol cyfnod ei ganu".
Felly, clywn am gysgod y ddau ryfel byd ar y beirdd cynharaf a drafodir, dylanwad y mudiad iaith ar y don nesaf o feirdd, ac ymateb Myrddin ap Dafydd i ddigwyddiadau Medi’r unfed ar ddeg 2001.
Rhyfeddod y goroesi Rhyfeddwn wrth feddwl sut y bu i farddoniaeth Gymraeg oroesi ac esblygu trwy gyfnodau mor gythryblus yn y mileniwm diwethaf.
Cloir y gyfrol gyda gwaith Meirion MacIntyre Huws a Gerallt Lloyd Owen – beirdd sydd yn pontio’r gorffennol a’r presennol, trwy ganu am ddigwyddiadau cyfoes o fewn ffiniau’r canu caeth hynafol.
Diweddglo priodol iawn i’r gyfrol ddifyr hon. Fe’n hargyhoeddir yn llwyr fod barddoniaeth Gymraeg yn berthnasol i’r oes fodern, ac y bydd yn parhau i’n gwefreiddio yn yr ail fileniwm hefyd.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfraua'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan
|  | 
|