
 |  | Trafod Trons
Ditectif brith ar drywydd cyfrinach trons budur
Dydd Iau, Rhagfyr 5, 2002
| Ydy Trons yn pants?
Trons gan Dafydd Meirion.
 Adolygiad: Alun Lenny
Nawr dyma lyfr lliwgar. Hiwmor du mewn iaith goch yn son am aelod o'r glas yn canfod llofrudd drwy ddadansoddi stwff brown (wel beth 'y chi'n ddisgwyl mewn llyfr hiwmor ty bach ?).
Stori Agatha Christie Mae'r senario'n debyg i'r hyn geir gan Agatha Christie. Ledi Margaret Gwynne yn cael ei chanfod yn farw. Fe allai'r llofrudd fod yn un o hanner dwsin o bobol - ond dyna lle ma'r tebygrwydd 'da'r hen Agatha'n gorffen.
Arwr (gan ddefnyddio'r gair yn yr ystyr ehangaf bosib) y nofel (ditto) yw Sarjant Dic Huws o Arfon CID - cymeriad sydd wedi camu'n syth o'r hen gyfres deledu Glas y Dorlan dybiwn i.
Plisman o'r 'hen deip' yw Huws - neu Dic Bonc i'w ffrindiau. Sef un sy ddim yn cydnabod awdurod ac yn treulio mwy o'i amser mewn tafarn na gorsaf heddlu.
Yr unig gliw Yno, mae'n cadw cwmni i Llew'r Hack, gohebydd o'r un anian. Gyda chymorth Hanna Banana (peidiwch gofyn) mae'r tri'n mynd ati i geisio canfod pwy laddodd Lady Margaret.
Yr unig gliw yw pâr o drons oedd wedi'i wthio i geg y corff.
"Trons, myn uffar i...ac un posh hefyd. Un sidan...' edrychodd Huws i mewn iddo ' ond dydy o ddim yn un glân....ma na sgidmarc arno fo".
Y sgidmarc hwnnw fydd yn darparu'r dystiolaeth DNA allweddol i ganfod y llofrudd.
Ond wrth gwrs, bydd yn rhaid i Ddic a'i ffrindiau gasglu deunydd cyffelyb gan y bobl mae nhw'n eu hamau - a hynny heb iddyn nhw wybod.
Hiwmor ty bach yn llythrennol.
Nid dros frecwast Dyw Trons ddim yn llyfr i'w ddarllen dros frecwast ! R'oedd llyfr cyntaf Dafydd Mei - Pi Ar - yn wreiddiol ac yn ddigri ond ofnaf nad yw'r fformiwla wedi gweithio cystal yn Trons er bod yna ambell i gic fach gomic ynddo : "Trons jentlman ydy hwn. Un silc. Does 'na ddim rhai fel'ma i'w cael yn Sir Fôn."
Sy'n atgoffa rhywun o'r slyr enwoca erioed at bobol yr ynys gan Daniel Owen - "Mab llwyn a pherth oedd Enoc Huws, ond nid yn Sir Fôn y ganwyd ef."
Yn anffodus, prin yw'r dychan yn Trons ac yr ‘odd rhywun yn disgwyl mwy gan gymeriadau fel Derfel Dafydd, y cyflwynydd teledu a Deiniol Jones, yr aelod Cynulliad. Collwyd cyfle.
Mae'r llyfr yn fyr iawn - dim ond 123 tudalen ond, ar y llaw arall, mae gormod o bwdin yn tagu ci.
Chwilio am anrheg Mae'n llyfr hawdd i'w ddarllen. Y brawddegau'n fyr, a geiriau'r cymeriadau'n plethu'n rhwydd gyda geiriau'r awdur ac ar ôl chwarter canrif o Radio Cymru ni ddylai’r un Cymro na Chymraes gael gormod o drafferth gyda’r dafodiaith.
Bwysicaf oll, fe allai Trons - o ran testun, iaith ac arddull - apelio at bobol ifanc na fyddai byth yn darllen Cymraeg.
Os ydych chi'n chwilio am anrheg rhad i'ch nai pymtheg oed, fe allai prynu hwn iddo ddatrys problem a rhoi tipyn o street cred i chi'r un pryd.
Os 'y chi'n bymtheg oed - prynwch e eich hun. tair seren
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfraua'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan
|  | 
|