
 |  | Yn iaith y Cofi
Straeon mawr y Co Bach
Dydd Iau, Tachwedd 28, 2002
| Y Co Bach a Hen Fodan a Wil. Gan Gruffudd Parry. Gwasg Carreg Gwalch. £5.50. .

Adolygiad gan Ioan Mai Evans
Ar un cyfnod perthyn i dref Caernarfon yn unig roedd ymadroddion fel niwc, yn golygu ceiniog, a dyma'r dref lle roedd pobol yn dweud sgramio am fwyta, stagio am edrych, crinc am rywun gwirion - a thros drigain o ddywediadau Ilafar cyffelyb sydd wedi eu rhestru ar ddechrau'r gyfrol hon.
Cawn wybod sut y daeth cymaint a boblogeiddio ar hyn oll yn y cyflwyniad gan John Roberts Williams, cyn-bennaeth y B.B.C ym Mangor.
Ymddengys i Richard Huws, neu y Co Bach, glywed yr odrwydd ieithyddol hwn yn ei dref enedigol Caernarfon .
Yna clywodd Sam Jones, pennaeth BBC Bangor ar y pryd, am y dafodiaith a gweld fod yma ddefnydd ar gyfer y rhaglen Noson Lawen a oedd mor boblogaidd ar y radio yn y pedwar a'r pum degau.
Trefnwyd i'r diweddar Gruffudd Parry roi trefn ar y cyfan a'r diweddar Richard Huws, i lefaru yn union fel 'pobol dre ond mewn mydr ac odl gan amlaf.
Yr oedd yma elfen gref o drefgarwch - hyd yn oed wedi ymweld â gwesyll Butlins - tre y Cofis oedd orau.
On i'n falch cal dwad'n ôl i dre rywsut O ganol y twrw a'r swn, A 'dan ni ddim yn meddwl awn ni'r ha' nesa', Dim and i Caeathro i weld rasus cwn.
Daw y trefgarwch i'r golwg yn aml gan hoelio'r sylw fwy-fwy ar y dywediadau fel ar achlysur ymweliad Wil Bach, yr Hen Fodan a Co Bach â Lerpwl ac i weld stesion awyrennau yn -lâd - sef y wlad.
Odd stesion eroplêns reit yn 'lad ia, A euso ni i mewn i gal gweld nhw am sei, Oeddan nhw'n landio hyd cae yn bob man ia, Fatha gwlanods rmôr ar ben wal yn cei.
Y mae rhywfaint o sylwadaeth gymdeithasol anuniongyrchol hefyd ac ym mlynyddoedd blinion y diwaith yr oedd chwarae ar eiriau tel hyn yn medru codi'r galon:
Euso fi i lawr i lle dôl ryw fore ia, A sticio'n y ciw am tuag awr, O'n i'n cyrnu fel jeli wrth weitiad A nhrad i fatha cerrig hyd Ilawr, "N ba lein 'dach chi isio job ta ?" Me' Co, a 'ma fi'n apad o'n strêt: Dim job gweithio ar lein 'dw i isio co, A gofynna 'pin bach fwy sydêt.
A chydag ambell deitl difrifol fel Nid cardod i ddyn ond gwaith a fu'n gri calon sawl gweithiwr mewn dyddiau anodd mae'n ysgafnhau y cyfryw i ddarllen a chlywed am waith yn y coparet a dwy joban arall:
Ges i symud wedyn i Coparet am dipyn I gario allan efo beic rownd dre, Ond mi ath 'rolwyn rhwng plancia Pont Rabar Rhyw bnawn 'tr - ac mi gollis i'n lle.
Fuo fi'n hel papura rownd pafilion - ond mi chwalon o, A fuo fi'n Guild Hôl - a mi fuo honno'n 'Amen' Wedyn euso fi weithio i stesion ac mi ddarun godi'r relwes, A phan euso fi i'r Armi ia, mi ddoth rhyfal i ben.
Bonws tra derbyniol gyda'r gyfrol ei hunan ydyw'r CD lle clywn y dweud yn yr oslef unigryw oedd yn eiddo'r Cofis ond sydd, gwaetha'r modd, yn prysur fynd ar golli .
Wedi ei impio fel petae ar y cyfan mae yma hiwmor iach sy'n ychwanegiad a fydd yn gwarantu hir oes i'r gyfrol a'r CD fel dogfen i hanes tref Caernarfon a welodd sawl tro ar fyd dros sawl canrif.
Nid angof ychwaith yr ymweliad a neuadd y B.B.C. ym Mangor yn Cofi'n Cofio
Neuso nhw agor y ddau ddrws yn Penrhyn I gal Hen Fodan i mewn yn i strêt, A nath Wil a fi ista bob ochor iddi hi Wrth bod hi'n colli drosd ochor 'i sêt. Odd na go siarad Sowth yn cwt gwydr Tu nôl a fodan efo gwallt cyrls du, 'Mr Jones a Nan odd i henwa nhw, Ond dim and 'Chi' ddeudodd Hen Fodan a fi. Do, bu raid diolch i Richard Hughes fel hyn:
Ma Wi! Bach a Hen fodan a finna Isio diolch i 'Lchiad Huws am bod co Wedi miglo i consarts hyd 'lâd ia A mynd a ni yn tri efog o.
Stagiwch ar hyn - blas ar iaith Co Bach
conjî - miri, helynt crinc - rhywun gwirion. giaman - cath giami - gwael, sâl gwlanods - mwy nag un gwylan hog - swllt lempan - clustan lob - un gwirion migmas - ystumiau milings - cweir, cosfa lgodod - llygod patro - siarad rwmsus - ystafelloedd sei - chwecheiniog slobs - plismyn stagio - edrych
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|