
 |  | Ych a fi!
Chwilio a chwalu ymhlith chwedlau gwerin
Dydd Iau, Tachwedd 21, 2002
| Diwylliant Gwerin Morgannwg gan Allan James. Gwasg Gomer. £12.95.

Byddai'r hen Wladfawr o Batagonia, Fred Green, yn disgrifio'r ceffyl fel anifail twp iawn o'i gymharu ag ych fel anifail gwaith ar fferm.
Yr oedd ganddo, meddai, barch aruthrol tuag at ychain fel anifeiliaid gweithgar a chall.
Yn hynny o beth yr oedd mewn cytundeb llwyr â hen amaethwyr Morgannwg ac fe welir sawl enghraifft o'u parch hwy tuag at yr anifail hwn yng nghyfrol Allan James, Diwylliant Gwerin Morgannwg.
Statws arbennig Yn y bennod Byd yr Ych daw yn amlwg fod i'r ych "statws symbolaidd arbennig" o fewn y gymuned amaethyddol gyda "parch anghyffredin" tuag ato.
"Roedd yn weithiwr ffyddlon ac yn anifail a gynysgaeddwyd, ym marn y gwladwr, â rhyw allu greddfol tra arbennig," meddir - ac mae'n ddiddorol sylwi mai yr un yn union oedd profiad Fred Green yntau yr holl filoedd o filltiroedd dros yr Iwerydd ym Mhatagonia.
Disgrifir yn llyfr Allan James sut y byddai'r amaethwr yn "cyfathrebu'n gyson â'r ych ac yn ei drin fel un a ddylai rannu cyfrinachau'r teulu."
Byddai peth o'r cyfathrebu hwn ar gân ac yr oedd yn rhinwedd o bwys mewn gyrrwr ychain fod ganddo lais a chof da ar gyfer canu a chofio'r amryfal dribannau wrth ei waith.
Cyfansoddi tribannau Byddai'n was mwy gwerthfawr fyth, wrth gwrs, pe gallai hefyd gyfansoddi tribannau newydd o safon - achos nid gwiw canu unrhyw hen rigwm yng nghlyw anifeiliaid cyn bwysiced ag ychain.
Dyfynnir nifer helaeth o'r tribannau yn y gyfrol:
Mae sôn drwy'r fro a'r Blaena, Am ychain mawr y Sela, Y nhw o Fargam i Golhuw O lawer yw y gora.
Yw un ymffrost ac mae arall yn dweud:
Mae geni bedwar bwlyn Yn pori brig yr eithin; Hwy doran gwys o'r mwya gwych Hwy gerdda'n rhych i'r blewyn.
Ac eto
Mae gen i bedwar bwlin Sy'n byw ar ddail yr erfin Fe redant ton mor syth or bron Ru'n trwch a gwrych y mochyn.
Ffordd o fyw Yn ogystal â bod yn ddifyr ynddynt eu hunain y mae'r tribannau hyn erbyn heddiw yn gyfrwng gwych i gyfleu inni natur ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu.
"Afraid dweud fod y tribannau hyn yn cynnig cyfres o ddarluniau difyr a dadlennol sy'n cyflwyno'r darllenydd i gyfnod a chymdeithas hollol ddieithr ac i ddull o fyw ac athroniaeth gymunedol a heriwyd yn y pen draw gan ddatblygiadau'r oes ddiwydiannol."
A'r hyn sy'n fendigedig wrth gwrs yw eu bod yn ddarluniau o holl amryfal agweddau y bywyd gwledig y cyfnod cyn-ddiwydiannol.
Mae'r triban hwn, er enghraifft, yn ein goleuo beth oedd yn dderbyniol fel pryd da:
Cawl sydd yn frasder drwyddo A ser yn nofio arno, A'i flas yn tynnu dyn yml'an A'r calla'n ei fendithio.
Weithiau gall gormod o'r hyn sy'n dda fod yn syrffed;
Mi gefais gawl i ginio Caf gawl i swper heno; Fe gaiff y feistres fyn'd i'r diawl Cyn yfai chawl hi eto.
Canmol y casglwyr Yn y pen draw, emyn o glod i'r casglwyr hynny a ddiogelodd y gweithiau hyn a channoedd o rai eraill tebyg iddyn nhw mewn sawl agwedd o fywyd yw y gyfrol hon gyda diddordeb Allan James gymaint yn y dull o gasglu ag yn yr hyn a gasglwyd.
Gellid cyhuddo rhywun o fod braidd yn slic wrth ddweud mai cyfrol sy'n gyforiog o bethau difyr yw hon ond nid cyfrol arbennig o ddifyr ynddi ei hun.
Ond rhaid ychwanegu mai o safbwynt y darllenydd cyffredin y mae rhywun yn dweud hynny a chan mai fel cyfrol ysgolheigaidd y'i bwriadwyd rwy'n syrthio ar fy mai nad yw'n feirniadaeth gwbl deg - ond yr wyf yn flin na allaf ei mwynhau i'r graddau y teimlaf y dylwn.
Ond y mae modd i'r darllenydd llai ysgolheigaidd ei hyfforddiant fynd i ryw raddau y ffordd arall heibio i'r drafodaeth ysgolheigaidd a mwynhau y pethau eraill.
Mae'r awdur, sy'n brif ddarlithydd y y Gymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg, yn gosod ei fater gerbron reit ar gychwyn y gyfrol trwy ddweud:
"Nod y gyfrol hon yw ail-greu darlun o gymdeithas werinol ei natur drwy gyfrwng cyfres o ddogfennau perthnasol a luniwyd neu a ddetholwyd gan groniclwyr sy'n perthyn i wahanol gyfnodau ac i amrywiaeth o gymunedau.
"Mae'r darlun cymdeithasol hwnnw, ar y naill law yn dangos gwerinwr wrth ei waith ac, ar y llaw arall, yn cynnal ac yn gwarchod hen draddodiadau ei gynefin."
Er mai ar Fro Morgannwg y canolbwyntir nid oes amheuaeth fod yma adlewyrchiad o gymunedau Cymreig eraill.
Amrywiaeth o bynciau Y mae teitlau y gwahanol benodau yn cyfleu natur y gyfrol a diddordeb ei hawdur yn y broses o gasglu a diogelu; Y Traddodiad Llafar, Casglwyr, Casglu a Chofnodi.
Fel y byddai rhywun yn disgwyl, mae penodau cyfain ar Y Fari Lwyd, Arferion y Nadolig a'r Calan, hela'r dryw ac hefyd bennod hynod ddiddorol ar arferion elusennol.
Y mae pennod i ffoli arni am yr iaith hyfryd honno y Wenhwyseg gyda geirfa gynhwysfawr eithriadol o ddiddorol.
Gyda'r holl elfennau diddorol hyn trueni na ddewisodd yr awdur boblogeiddio ei drafodaeth gyda thrafodaeth llai ysgolheigaidd.
Byddwn wedi croesawu hefyd ymdrech ganddo i gyfieithu dyfyniadau Saesneg i'r Gymraeg.
Ond wedi dweud hynny yr ydym yn cael am ddim ond £12.95 lyfr safonol, awdurdodol, o dros 300 tudalen gyda nifer helaeth o luniau difyr. Tipyn o fargen. Glyn Evans
Rhagor am y llyfr
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|