bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
»Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Cyfaredd Eifionydd
Dyn ei filltir sgwâr

Ysgrifau Elis Gwyn a gyhoeddwyd ym mhapur bro Eifionydd, Y Ffynnon, dros y blynyddoedd.

Dydd Iau, Hydref 24, 2002

• Cyfaredd Eifionydd
Ysgrifau Elis Gwyn
Detholwyd gan Dyfed Evans
Gwasg Carreg Gwalch
£4.50 neu 7.30 ewro

Adolygiad gan Dafydd Meirion


'Dyn ei filltir sgwâr' oedd Elis Gwyn yn ôl John Dilwyn Williams yn y broliant ar gefn y llyfr. Ond nid dyn cul ei feddwl oedd o.

Mae'n wir mai Eifionydd sydd agosaf at ei galon, ond nid yw hyn yn ei rwystro rhag sôn yn ganmoliaethus am ardaloedd eraill fel Sir Benfro a hyd yn oed rannau o Loegr.

Cafodd ei eni a'i fagu yn Llanystumdwy ac fel y dywed, ar wahân i'r cyfnod yn Y Coleg Normal ym Mangor, ni fu'n byw yn unlle arall.

Cyfres o ysgrifau yw'r rhain a ymddangosodd ym mhapur bro Y Ffynnon rhwng 1976 ac 1997.

 ei ysgrifau mor bell ag Efrog Newydd tra'n sôn am lyfr Jan Morris Manhattan '45 a chyfeiria at lythyr dderbyniodd gan ferch o'r ardal a ymfudodd i Seland Newydd.

Yr iaith yn agos at ei galon
Mae'r Gymraeg hefyd yn agos at ei galon ac mae'n sôn mor bell yn ôl ag 1976 am y mewnlifiad o Loegr i'r ardal a'r effaith ar yr iaith. Mae'n sôn am safon iaith plant Pwllheli ac ardal Caernarfon ac yn digalonni.

Ond nid yw'n gwrthwynebu i bob Sais symud i'r ardal. Mae rhai'n gefnogol i'r iaith a chanddyn nhw gyfraniad i'w wneud.

Mae'n sôn am Yr Athro Hugh Hunt ddaeth i fyw i'r ardal. Roedd Yr Athro Hunt wedi treulio sawl blwyddyn yn Iwerddon.

Mae'n adrodd stori ddifyr iawn am Yr Athro yn siarad â hen wraig yng ngorllewin Iwerddon, a honno'n adrodd hanesion âi'n ôl i'r chweched ganrif fel petaen nhw wedi digwydd ddoe. Sôn am ryw dywysog Gwyddelig yn trechu ei elynion ac yna'n dychwelyd ar y trên i Ddulyn!

Stori arall ddifyr yw honno am Richard Hughes o Gefn Llanfair yn Llýn a ddaeth yn equerry yn llys Elisabeth I gan fyw yn Llundain am sawl blwyddyn. Er hynny, roedd 'yn casáu y Saeson o lwyrfryd calon'.

Dyn ei oes
Dyn ei oes hefyd yw Elis Gwyn. Does ganddo ddim amser i'r rhai sy'n mynnu mai pwrpas addysg yw paratoi plant ar gyfer cael gwaith ac mae'n gas ganddo ganu pop.

Mae'n mynnu mai camgymeriad oedd diddymu dysgu Lladin yn yr ysgolion ac yn gwgu at y ffaith mai sôn am ryfeloedd pellennig y Rhufeiniaid wnâi'r darlithoedd ym Mangor yn hytrach na sôn am ddylanwad yr iaith ar y Gymraeg.

Does ganddo fawr i'w ddweud wrth geir chwaith er i'w frawd, y dramodydd Wil Sam, werthu a thrwsio sawl un.

Mae'n hallt iawn o'r bwriad i sefydlu ffatri fawr Ford ar dwyni Margam ger Pen-y-bont ar Ogwr ond yn ymhyfrydu yn yr hen injans stêm er bod y rheiny - er llai ohonyn nhw - yn creu mwy o swn a llanast nac unrhyw gar.

Ac yn rhyfeddol, gan mai artist oedd o, dydy o ddim yn hoffi lluniau ar gloriau llyfrau!

Tybed beth fyddai o'n ei ddweud am y llun o Bysgotwyr Afon Dwyfor o'i eiddo sydd ar glawr ei lyfr? Ond rwy'n siwr na fyddai'n cymeradwyo'r defnydd o danlinellu rhai geiriau yn y gyfrol yn hytrach na defnyddio teip italaidd.

Trafod enwogion ei gylch
Mae ganddo ysgrifau am rai enwogion ei gylch - R S Thomas, Jan Morris a Clough Williams-Ellis. Mae'n sôn bod Clough, nid yn unig wedi cynllunio adeiladau hardd Portmeirion, ond hefyd adeilad y coparét ym Mhwllheli!

Ond mae'n dychwelyd drosodd a throsodd at y Gymraeg. Mewn erthygl a gyhoeddwyd ym 1987, mae'n rhoi'r ddadl nad ydy tai haf mor ddinistriol â thai parhaol mewnfudwyr.

Mae ei gariad at yr iaith yn mynd yn ôl i'w lencyndod. Mae'n sôn am ffigyrau amlwg cyfnod cynnar Plaid Cymru - Saunders Lewis, J R Jones, Kate Roberts, ac yn sôn amdano'i hun yn cael ei ddal gan blisman yn gosod arwyddion yn gwrthwynebu diwrnod agored ym Mhenyberth wedi i wersyll y llu awyr agor yno.

Mae'r ysgrifau'n pontio dros ugain mlynedd a sawl pwnc. Yn naturiol, gan mai erthyglau i'r papur bro oedden nhw, Eifionydd sy'n cael y prif sylw. Ond mae yma rywbeth i bawb hyd yn oed i'r rhai na osododd droed yn yr ardal.

Ond, ar y cyfan, teimlad o dristwch oedd gen i ar ddiwedd y llyfr. Teimlo bod cyfnod wedi dod i ben, cyfnod na ddaw byth yn ôl. Cyfnod pan oedd bywyd yn llawer caletach i rai ... ond cyfnod pan oedd bywyd yn dipyn symlach.


Ebostiwch
eich sylwadau chi am lyfrau.









Wythnosau Blaenorol:
News image
Newyddion yr wythnosY llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod AwdurLlais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a BBC Cymru'r Byd






About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy