
 |  | Ffotos a phytiau
Cyfrol sy'n eich denu i lannau'r Fenai
Dydd Iau,Hydref 17, 2002
| Y Fenai Gwyn Parri Huws Gwasg Gomer
Adolygiad gan Dafydd Meirion Mi rydw i’n sgwennu’r adolygiad yma ar fore braf o Fedi, ac i ddweud y gwir mi fysai’n llawer gwell gen i fod yn crwydro glannau’r Fenai.
Mae edrych ar y lluniau godidog yn y llyfr yma’n codi’r felan arna i.
Mae yma luniau o’r Fenai yn yr haf a’r gaeaf, ddydd a nos, ar ddiwrnod tawel ac yn nannedd y gwynt, ac ar lanw a thrai.
Cyfoeth bywyd Maen nhw’n lliwgar, ac yn adlewyrchu cyfoeth bywyd bob ochr i’r culfor - yn ddyn ac fel arall.
A chulfor nid afon ydy’r Fenai meddai’r awdur. Mi ddylai o wybod gan mai cyn gapten llong ydy o. Daw hynny’n amlwg wrth iddo egluro beth mae pob bwi ar y Fenai yn ei olygu.
Mae’n sôn am y teitiau (lluosog llanw, medda fo), mae’n sôn am yr adeiladau sy’n helpu morwyr wybod ble maen nhw a chadw i’r dwr dwfn i osgoi’r peryglon, ac mae’n sôn pam fod rhaid ‘newid cyfeiriad’ ar ganol y Fenai gan ei bod yn wahanol i bob ‘afon’ arall - mae dau ben iddi!
Mae’n cychwyn ei daith yn y gorllewin ger Caernarfon ac yn ei gorffen ger Ynys Seiriol yn y dwyrain, ac mae’n gwibio’n gyson o ochr Môn i’r tir mawr heb amharu dim ar rediad y llyfr.
Gwybodaeth ddifyr Mae yma bytiau o wybodaeth ddifyr iawn yn cyd-fynd â’r lluniau. Sut cafodd Pont Britannia ei henw? Pam fod rhaid gwneud syms cyn dweud faint ydy hi’r gloch ar gloc haul Caer Belan? A pham bod cwt powdwr chwareli Arfon ar lannau’r Fenai ger Caernarfon?
Mae yma wybodaeth am adar a physgod, daeareg a hanes, a’r diwydiannau fu ar un adeg yn cadw pobol glannau’r Fenai’n brysur.
Ceir yma enwau - yn ddieithriad yn Gymraeg - ar y gwahanol greigiau, ynysoedd a chilfachau ar ei glannau; enwau na cheir ar unrhyw fap yn aml. Ond daw hwn o fap Lewis Morris, 1748 - Sianel Gwyr Nefyn, sef y ffordd fyrraf o’r Fenai i Nefyn.
Hiwmor Ac mae yma hiwmor yn britho’r llyfr. Ar un tudalen, mae’n cyfeirio at barge ddygwyd o Afon Tafwys i fod yn gartref ar lannau’r Fenai ond sydd erbyn hyn yn adfail yn y mwd. Cynllun, yn amlwg, wnaeth ddim gweithio, meddai!
Oes yna rywbeth allai fod wedi gwella’r llyfr? Lluniau eithaf confensiynol ydy’r rhain, ar wahân, o bosib, i’r llun o’r bilidowcars bob yn un ar resiad o bolion yn y dwr. Mae’n amlwg i’r ffotograffydd Terry Beggs dreulio misoedd os nad blynyddoedd yn dal y Fenai drwy’i lens.
Mi fyddech chi’n credu, efallai, y byddai wedi gallu dal rhyw ddelwedd fyddai allan o’r cyffredin. Quirky ydy’r gair Saesneg. Ond does yna’r un.
A thrueni na fyddai’r cyhoeddwyr wedi rhoi clawr caled ar lyfr mor fendigedig. Yr unig obaith rwan ydy y bydd Gwyn Pari Huws yn mynd ati i lunio llyfrau ar weddill arfordir Môn, ac y cawn ni gloriau caled am y rheiny.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|