
 |  | Smot mewn dwy iaith
Llyfrau dwyieithog ar gyfer teuluoedd dwyieithog
Dydd Iau,Hydref 17, 2002
| Llyfrau Bach Syrpreis Smot Dydio ddim yn wir na fedrwch chi ddysgu triciau newydd i hen gi! Yn enwedig os mai Smot ydi'r ci hwnnw!
Erbyn hyn mae plant ar draws y byd wedi gwirioni ar hanesion Smot sy'n cael eu hadrodd mewn 25 o wahanol ieithoedd.
Ond gwasg yng Nghymru - gwasg Gomer oedd y gyntaf i ofyn am yr hawl i greu argraffiadau dwyieithog o'r llyfrau sy'n boblogaidd mewn ieithoedd mor wahanol â’r Arabeg a'r Swedeg.
Caffaeliad mawr Ac wedi cyrraedd y siopau mae pedwar llyfr cyntaf cyfres ddwyieithog, Llyfr Bach Syrpreis Smot - Gartref-At Home, Yn yr Ardd-In the Garden, Ar y Fferm-At the Farm ac Ar y Traeth-At the Beach.
Meddai Gordon Jones, Golygydd llyfrau Plant y wasg: "Bydd y llyfrau dwyieithog hyn yn gaffaeliad mawr i rieni di-Gymraeg sy'n awyddus i'w plant fwynhau llyfrau Cymraeg.
"Mae galw cyson gan rieni am ddeunydd i'w cynorthwyo a'u gwneud yn fwy hyderus wrth ddarllen gyda'u plant."
Cymerodd Gomer y cam hwn oherwydd eu bod yn ymwybodol mai plant o deuluoedd di-Gymraeg yw'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n mynychu ysgolion Cymraeg mewn ardaloedd fel y de-ddwyrain.
"Ddechrau Medi gwelwyd miloedd o blant yn cychwyn mewn cylchoedd meithrin ac mae gan y Mudiad Ysgolion Meithrin 800 o gylchoedd Ti a Fi yng Nghymru heddiw," meddai'r wasg mewn datganiad i gydfynd a chyhoeddi y llyfrau.
Mewn siopau mawrion Mae'r wasg yn ymfalchïo hefyd y gellir prynu llyfrau Cymraeg mewn siopau mawr fel Sainsbury's, Safeway a Tesco y dyddiau hyn a'r gobaith yw y bydd marchnad barod i'r llyfrau dwyieithog newydd yn y lleoedd hyn.
""Y gobaith yw y bydd y rhieni sydd wedi gwneud y dewis pwysig o roi addysg Gymraeg i'w plant yn gweld prynu llyfrau Cymraeg a dwyieithog yr un mor hanfodol â hwylus a gwneud eu siopa wythnosol," meddai'r datganiad.
Mae'r llyfrau, sy'n rhyw bedair modfedd sgwâr, yn £4.50 yr un.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|