
 |  | Pwyso a mesur llenyddiaeth
Cyfrol o feirniadaeth lenyddol gan brif lenor Tyddewi
Dydd Iau,Hydref 10, 2002
| Rhwng Gwyn a Du gan Angharad Price. Gwasg Prifysgol Cymru. £14.99. Adolygiad gan Gwyn Griffiths.
Daeth darllen Rhwng Gwyn a Du gan Angharad Price, enillydd Medal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, ag ambell atgof cymysglyd.
Is-deitl y gyfrol yw Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990au ond mae’n ymdrin yn bennaf â gwaith Robin Llywelyn.
Sgwrs steddfodol Cofiaf sgwrs gyda dau gyfaill tra llengar ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol rywbryd yn nechrau’r 90au. Rhywbeth tebyg i hyn fu’r sgwrs: CYF 1: Hei, bois, chi wedi darllen nofel y Robin Llywelyn ’na? Ês i ddim pellach na thudalen pump ... CYF 2: Fe euthum i cyn bellad â thudalen saith ond maen nhw’n deud i mi fod AB (gan enwi cyfaill arall nid anadnabyddus ym myd llên ein cenedl) wedi mynd cyn bellad â thudalen ugain CYF 1: Blydi hel! FI: Rwy i wedi phrynu hi ... CYF 1: Gad hi fanna, was! Sdim ise i ti aberthu rhagor ...
Rwy'n cofio i mi wedyn adrodd hanesyn am rywbeth ddwedodd Waldo Williams wrthyf unwaith. "Tybed p’un sy waethaf," holodd Waldo, "sgrifennu llyfyr mae pawb yn ei ddarllen a neb yn ei brynu, ynteu lyfyr mae pawb yn ei brynu ond neb yn ei ddarllen?"
Y canlyniad fu na lwyddais i ddarllen Seren Wen ar Gefndir Gwyn nac ychwaith O’r Harbwr Gwag i’r Cefnfor Gwyn.
Ond wnes i ddimymdrech galed iawn ychwaith.
Rhai'n methu rhai'n canmol Ym mhennod gyntaf Rhwng Gwyn a Du mae’r Dr Price yn ein hatgoffa o’r dadlau a fu ynghylch y ddwy nofel – wedi’r cwbl yr oedden nhw'n nofelau a enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol gyda rhai, fel fy nghyfeillion ar y Maes, wedi methu a’u gorffen.
Ond eraill yn eu canmol a'u dyrchafu tu hwnt i’r cymylau.
Meddyliais ymhellach; y dyddiau hyn pan fo cyn lleied o adolygu llyfrau Cymraeg mor ddyledus ydym i’r Eisteddfod Genedlaethol fod o leiaf rai llyfrau’n dod yn destun trafod a beirniadaeth.
Diddorol gweld cynifer o adolygiadau a gafodd nofelau Robin Llywelyn ond rwy'n amau i'r sefyllfa waethygu wrth i’r degawd fynd rhagddo.
Pwysigrwydd gwreiddioldeb Ond digon am hynny. Teg iawn yw dadleuon y Dr Price am bwysigrwydd gwreiddioldeb gwaith er y gall y gwreiddioldeb a’r arbenigrwydd hwnnw drwy greu dieithrwch fod yn dramgwydd i fwynhad a dealltwriaeth.
Yr hyn sy’n broblem i mi yng ngwaith Robin Llywelyn - yn fwy na neb - yw’r arddull yn hytach na’r cynnwys ac wele’r Dr Price yn son am iaith-ddieithrio fwriadol gan yr awdur.
Yr hyn sy’n fy mhoeni i, onid digon bod y cynnwys yn anghyfarwydd heb ychwanegu at ein anghysur gyda brawddegau sy’n cymhlethu pethau ymhellach?
Gwneir yn fawr o gemau geiriol Robin Llywelyn gydag enghraifft o hyn mewn brawddeg o stori Nid Twrci Mo Ifan o’r gyfrol Y Dwr Mawr Llwyd lle mae’r awdur yn pentyrru priod-ddulliau:
"Tyrrai’r werin bobl o bell ac agos, o bant i bentan ac o Fôn i Fynwy i fynychu’r achlysur hwyliog hwn."
Daw hyn, neu felly roeddwn i’n ei ddeall, o ddylanwadau Gwyddeleg ar Robin Llywelyn.
Fedra i yn fy myw weld pwynt hyn chwareus neu beidio - gan fod brawddegau fel yna’n achosi rhwystredigaeth imi.
Pam yffach bodloni heb ychwanegu o Gaergybi i Gaerdydd ac o Lanandras i Dy Ddewi, hefyd!
Defnydd o'r Gymraeg Y gwir yw fy mod yn ymdopi’n haws â chyfrol y Dr Price wrth iddi ymdrîn â llenorion Cymraeg eraill yng nghyswllt ôl-foderniaeth – hyd yn oed broto-ôl-foderniaid!
Diddorol yw’r ddadl fod Cymreictod a defnydd o’r iaith yn fwy realistig mewn nofel ffantasi nag mewn nofel Gymraeg yn y traddodiad realaidd.
Mewn gwlad lle na cheir cymdeithas uniaith Gymraeg mae’n afreal sgrifennu nofel gyfan-gwbl Gymraeg.
"Bydd realaeth draddodiadol yn rhwym o fradychu realiti’r Gymraeg," meddai'r Dr Price.
Diwedd hyn i gyd oedd imi chwilota hyd fy silffoedd llyfrau am un o weithiau Robin Llywelyn.
Deuthum o hyd i O’r Harbwr Gwag i’r Cefnfor Gwyn ac wedi cyrraedd tudalen 65 gan brysur ddiffygio.
Prawf i lyfr Angharad Price gael rhywfaint o effaith arnaf, o leiaf.
Holi Angharad Price
|  | 
|