
 |  | Prifardd nad yw'n un o'r gang!
Aled Jones Williams wedi ei ddychryn gan gylch cyfyng beirdd Cymru
Dydd Iau,Hydref 10, 2002
|
Gwrandewch ar Gwilym Owen yn holi Aled Jones Williams
Hefyd: holi Aled Jones Williams am ei lyfr diweddaraf
Ymateb Twm Morys, Menna Elfyn a Dafydd Islwyn
Cyfaddefodd bardd coronog Tyddewi ei fod yn teimlo ei fod yn "wrthodedig" gan y sefydliad barddol Cymraeg.
Ond ychwanegodd y Parchedig Aled Jones Williams nad yw'n anhapus mai felly y mae ac nad yw'n awyddus i fod yn aelod o "gang" beirdd Cymru.
Drama yn y gwter Yn cael ei holi ar Raglen Gwilym Owen ar Radio Cymru ddydd Llun diwethaf dywedodd y prifardd dadleuol nad oes amheuaeth fod yna sefydliad barddol Cymraeg cyfyng ac nad oes amheuaeth ychwaith nad yw o'n dderbyniol o fewn y sefydliad hwnnw.
"Does na ddim dowt fod yna sefydliad barddol," meddai wrth Gwilym Owen.
"Mae na rywbeth am farddoniaeth yng Nghymru - hwyrach ei fod o'n cael ei dra dyrchafu uwchben pob dim arall - y gerdd ydi'r peth, wedyn mae rhyddiaith yn dod wedyn ond Duw a'ch helpo chi os rydych chi'n sgwennu drama, mae hynny i lawr yn y gwter yn rhywle," meddai.
Wedi dychryn Dywedodd i fodolaeth "y gang" a'i hymateb i'w fuddugoliaeth gyda'i gerdd dra anghyffredin yn Nhyddewi ddod fel rhywfaint o syndod iddo.
"Doeddwn i ddim yn nabod y gang ond roedd na garfan a ddaeth drosodd fel rhyw garfan reit ymosodol - reit macho - ac roeddwn i wedi dychryn am fy hoedal - wyddwn i ddim mai fel'na roedd hi," meddai.
"Yr oedd yn dipyn o sioc fod yna garfan fechan - a dwi'n credu mai bechan yw hi gan fod yna lot o bobl eraill wedi bod yn hael iawn ," meddai.
Cyhuddodd y garfan - o feirdd ifanc stomp a thalwrn - a fu mor feirniadol o'i gerdd fuddugol o fod yn un "go gyfyng ei meddylfryd" gyda'r gred mai dim ond hwy sy'n iawn.
"Ond mae na ffordd arall hefyd ond mae rhai yn meddwl fod yn rhaid ichi fod o fewn y gwersyll yma . . . ac os nad ydych o'i fewn dydych chi ddim cweit yn ffitio" meddai.
Heb fod yn ffitio Mae'n ei ystyried ei hun fel un o'r rhai sydd ddim yn ffitio gan dderbyn disgrifiad Gwilym Owen ohono fel bardd "gwrthodedig".
Ond ychwanegodd nad yw bod yn "wrthodedig" yn achos loes iddo:
"Unig blentyn ydw i Gwilym ac felly, fel unig blentyn, dwi wastad wedi bod ar fy mhen fy hun.
"Tydw i ddim yn ffitio i sefydliad - dydw i ddim yn ffitio i'r Eglwys yng Nghymru -. Dwi erioed wedi bod ar rhyw ffin ac felly y gwr gwrthnysig yna. Yno y bydda i ylwch."
Tynnu blewyn o drwyn Yn wir, awgrymodd ei bod yn well ganddo fod y tu allan i'r gang "yn tynnu blewyn o drwyn" y sefydliad barddol yn hytrach nag yn rhan ohono.
"O, dwi wrth fy modd tynnu blewyn o drwyn - a dydw i ddim yn meddwl fy mod i'n rhyw chwantus i berthyn," meddai
"Dwi ddigon hapus i beidio a bod yn rhan o bethau felna a dweud y gwir," meddai gan gyfeirio at stompiau a'u tebyg
Hawl i arbrofi Amddiffynnodd ei hawl i arbrofi ac i arloesi gyda'r gerdd a anfonodd i'r gystadleuaeth yn Nhyddewi:
" Mi wnaeth y beirniaid gymryd cam dewr iawn yn fy marn i, yn y ffaith eu bod nhw am wthio'r ffiniau dipyn bach yn hwy.
"Ac felly y dylai hi fod achos os a fedrwch chi wneud hynny yn y Genedlaethol Duw a wyr lle arall fedrwch chi'i wneud o."
Ond ychwanegodd na fyddai'r gerdd wedi cael ei hystyried mor arloesol y tu allan i Gymru:
"Efallai'i bod hi'n newydd yng Nghymru ond dydio ddim mewn lleoedd eraill (byddai) hon yn hen ffasiwn yn Ffrainc," meddai.
Holi Aled Jones Williams
Llyfr newydd Aled Jones Williams
Coroni Aled Jones Williams
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|