
 |  | Pentre'r capel - a chapel y pentref
Hanes capel lle nad oes siop na thafarn
Dydd Iau,Medi 12, 2002
| "Meini wrth droed y mynydd," yw teitl llyfr a gyhoeddwyd ar achlysur dathlu ailadeiladu capel y Methodistiaid yn LIwyndyrys ar benrhyn Llyn.
I'r anghyfarwydd rhaid egluro nad oes yma dref na phentref; na siop , tafarn, bws na dim ond y capel ar ymyl y ffordd fawr - os mawr hefyd, er ei bod yn fwy na'r Ilu a fân gefnffyrdd sy'n arwain at sawl ffermdy ar lawr gwlad .
Mae'r capel yn unigryw. Fel y dywed y gweinidog, y Parchedig Hywel Rhys Edwards yn y llyfr:
"Credaf fad y capel yn braenaru'r tir ac yn dangos y ffordd i gapeli Cymru drwy 'r arbrawf a ddechreuwyd rai blynyddoedd yn ôl. Penderfynwyd cyfuno'r Ysgol Sui ag oedfa'r bore," meddai.
Pa well rheswm dros i'r gweinidog gredu "mai'r capel yw'r glud sy'n dal Llwyndyrys gyda'i gilydd fel cymuned."
Ardal enwogion Dyma ardal enwogion fel John Elias, a gyfrifid yn ei ddydd fel y mwyaf nerthol a phoblogaidd a holl bregethwyr Cymru
Mae yma gefndir hanesyddol tra diddorol o ddyddiau Collwyn Ap Tango, Arglwydd Eifionydd sydd a'i arfbais ar un o furiau fferm Llwyndyrys.
Cyfeirir hefyd mai yma y trigai meiri tref Pwllheli ar un cyfnod.
Bu adroddiadau ffafriol i Ysgolion Gruffydd Jones, Llanddowror yn IIan Garnguwch , lle bu 'r enwog Garanwy a Fan yn gurad .
Ond down at y gyfrol lle mae cyfeiriad at symud yr ysgolSul o'r Ilan i feudy Tyddyn y Felin.
I ddod yn nes mae Gwilym Griffith, Plas Newydd yn cadw traddodiad cyfoethog o godwyr canu - yr un Gwlilym Griffith ag sy'n gyfrifol am Gwmni Drama Llwyndyrys , a fu ar sawl Ilwyfan cenedlaethol.
Cawn wybod sut y tyfodd yr holl gynhyrchiadau drama yn y chwedegau o gyfarfodydd Nadolig y capel a hefyd fel yr oedd aelodaeth yr eglwys wedi aros rhwng 50 a 70 drwy'r ganrif.
Bu Maggie Hughes, hithau, yn ofalwraig yn y Ty Capel am hanner canrif
Cyfansoddwyd englyn i Hywel Eifion Roberts a fu'n flaenor am dros 40 mlynedd.gan y Prifardd Myrddin Ap Dafydd sy'n aelod yno:
Y mae'n bwyll, yn gannwyll i gyd - a thriw I'w athrawon bywyd, Hywel dawel a diwyd Dyn yn byw fod Duw'n y byd.
Cynhwysir tros 70 o luniau yn y llyfr - pob un a’i stori o'r ieuengaf hyd yr hynaf.
At ddiwedd y gyfrol adlewyrchir y gwerth a roddwyd ar ieuenctid yr eglwys pan ddarllenwn waith Owain Siôn, Hen Felln, yn rhoi Hanes Taith heibio i'r Efail Bach lle ganed Ellis Roberts,y llenor seth o brifysgol Bangor i fod yn ddarlithydd yn Llundain. ac yn wr amlwg yng nghapel Lewisham.
Mae englyn gan y Prifardd Myrddin Ap Dafydd i'r capel ei hun hefyd:
Meini wrth droed y mynydd - inni'n nerth yn nwr yr afonydd, yn lIestr a ffenestr i ffydd yn Ilawn o iaith Ilawenydd.
Cyfrol gymen fel arfer gan Wasg Carreg Gwalch wedi ei chyhoeddi gan y capel. £4.50.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau neu unrhyw straeon sydd gennych am lyfrau
|  | 
|