
 |  | Ar drywydd ymwelwyr dirgel
Astudiaeth drylwyr a chyfrifol i straeon am fodau o fydoedd eraill
Dydd Iau, Awst 29, 2002
| Yr Ymwelwyr, gan Richard Foxhall (Gwasg Carreg Gwalch: £3.99).

Adolygiad gan Grahame Davies
Pan mae'n dod i faterion fel soseri hedegog a bodau arallfydol a phethau X-Files-aidd arall, mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod yn fwy o Scully nag o Mulder.
Nid wyf yn "X-phile" (fel y gelwir caredigion y rhaglen ffuglen-wyddonol honno) ond gwn ddigon am y rhaglen i wybod fy mod yn rhannu agwedd sgeptigaidd yr Asiant Dana Scully tuag at ymwelwyr honedig o'r gofod yn hytrach nag agwedd agored a chrediniol ei phartner, sef yr Asiant Fox Mulder.
Achosion o Gymru Digon amheus oeddwn i felly wrth agor Yr Ymwelwyr gan Richard Foxhall, yr awdur o Ddyffryn Nantlle, sy'n olrhain hanes pob math o ymweliadau honedig gan fodau arallfydol, gan ganolbwyntio yn arbennig ar achosion o Gymru.
Yn y llyfr diweddaraf hwn yng Nghyfres Dan y Gannwyll, ceir hanesion am "welediadau" yn dyddio yn ôl i'r Oesoedd Canol. Ond o'r Ail Rhyfel Byd ymlaen y deillia'r rhai mwyaf trawiadol.
Cofnodir achosion enwog o bob rhan o'r byd, ac mae'r awdur yn olrhain yr ymgeisiau a fu i gael cadarnhad swyddogol o'r gwelediadau.
Dirgelwch Roswell Mae Foxhall yn rhoi sylw arbennig i'r honiad bod llong ofod arallfydol wedi plymio i'r ddaear ger Roswell ym Mecsico Newydd ym 1947, ac i hyn gael ei gadw yn gyfrinachol gan awdurdodau America wrth i beirianwyr lluoedd arfog y wlad honno ddadgymalu'r gwrthrych o'r gofod er mwyn gwneud defnydd o'i dechnoleg.
Yn ôl y damcaniaethau cynllwyn niferus sydd wedi tyfu o gylch y digwyddiad hwn, y cerbyd yma o'r gofod oedd ffynhonnell nifer o ddarganfyddiadau technolegol mwyaf trawiadol yr hanner canrif diwethaf, gan gynnwys y sglodyn meicro, gwifrau ffibr-optig a thechnoleg laser.
Os felly, trueni na chrasiodd ef yng Nghymru - os felly, hwyrach y byddai dipyn mwy o sglein ar ein diwydiannau uchel-dechnoleg erbyn hyn. Ond dyna ni, i'r pant y rhed y dwr, fe ymddengys, ac i ddwylo gwlad fwya' pwerus y byd y cwympodd y rhodd technolegol hwn.
Ugeiniau o bobl Serch hynny, mae'n bosib bod Cymru wedi cael ei chyfle i fachu dipyn o dechnoleg y sêr, achos fe gofnodir yma hanes hynod rhai digwyddiadau ym mynyddoedd y Berwyn ger Llandrillo ar Ionawr 23, 1974.
Y noson honno fe clywyd gwrthdrawiad mawr ar y mynyddoedd gan ugeiniau o bobl, ac fe aeth y gwasanaethau brys a'r awdurdodau i'r fan i chwilio am yr hyn a dybid oedd yn awyren wedi dymchwel.
Ond er i nyrs leol - a gafodd ei chyfweld o'r newydd yn arbennig ar gyfer y llyfr - dystio iddi weld gwrthrych tebyg i soser hedegog ar y mynydd y noson honno, ni ddaeth esboniad boddhaol i'r fei gan yr awdurdodau ac y mae'n debyg i len o ddirgeledd swyddogol ddisgyn dros yr holl hanes.
Y mae Foxhall i'w ganmol am ei drylwyredd wrth iddo glirio ymaith peth o'r coelion gwerin a gyfododd ynghylch y digwyddiad hwn.
Amheus o sydyn Credir yn gyffredin erbyn hyn, er enghraifft, i'r awdurdodau gadw pobl i ffwrdd o safle'r gwrthdrawiad yn 1974, ac iddynt gyrraedd y fan yn amheus o sydyn. Gwelir eu hymateb sydyn fel arwydd iddynt wybod llawer mwy nag y datgelent am y digwyddiad.
Ond dengys Foxhall bod cof rhai pobl yn ddiffygiol yn hynny o beth. Ni chadwyd pobl i ffwrdd o'r safle yn 1974. Ond ym mis Chwefror 1982, ryw wyth mlynedd yn ddiweddarach, fe blymiodd awyren Harrier yr RAF i'r ddaear ger Llandrillo gan ladd y peilot. A do, y tro hwnnw, fe gadwyd pobl i ffwrdd o'r safle am rai dyddiau gan i'r awdurdodau ofni ffrwydrad o arfau'r awyren ryfel. Mae'n debyg mai cymysgu'r ddau ddigwyddiad y mae pobl.
Ond nid yw clirio'r coelion gwerin i ffwrdd ond yn tanlinellu cymaint o gwestiynau a erys i'w hateb ynghylch digwyddiadau Llandrillo yn 1974. Ac y mae amharodrwydd yr awdurdodau i roi gwybodaeth ar y pwnc yn ychwanegu at chwilfrydedd rhywun.
Eu gweld gan blant Dyna wedyn yr "UFO's" a welwyd gan griwiau o blant ysgol yn Sir Benfro ac Ynys Môn yn 1977. Storïau hynod i gyd, ac fe ymdrinir â hwy mewn modd synhwyrol a rhesymol, ac er ei fod yn amlwg bod yr awdur yn Mulder yn hytrach nag yn Scully, mae'n gwneud ymdrech lew i hidlo'r dystiolaeth a pheidio â bod yn rhy hygoelus.
Yn fwyaf amheus Y man ble teimlais fwya o amheuon oedd pan adroddir hanesion pobl sy'n honni iddynt gael eu cipio gan griwiau soseri hedegog ac iddynt ddioddef arbrofion corfforol - yn talu sylw arbennig i'w horganau rhywiol yn aml. Bryd hynny, teimlais fod gan y tystion fwy o gwestiynau i'w hateb na'r awdurdodau.
Ond at ei gilydd, gyda'i fanylder a'i arddull naratif naturiol, mae'r llyfr hwn yn astudiaeth gyfrifol a gafaelgar o ddigwyddiadau sydd yn sicr yn haeddu eu cymryd o ddifri'. I rai nad ydynt eisoes yn gyfarwydd â llenyddiaeth doreithiog y maes ni allaf feddwl am gyflwyniad gwell i'r pwnc.
Ac mae'n deyrnged i waith ymchwil trylwyr Richard Foxhall fy mod, erbyn gorffen Yr Ymwelwyr, yn cydymdeimlo llawer mwy â Mulder. Hwyrach bod y gwirionedd allan fan' na wedi'r cyfan.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|