
 |  | Llyfr Mawr am fyd Natur
Plant Ynyslas yn llunio llyfr arbennig i hyrwyddo Gwarchodfeydd Natur.
Dydd Iau, Awst 22, 2002
|
Mae Llyfr Mawr, a gafodd ei greu gan blant ysgol lleol, yn cael ei arddangos yn Ynyslas ar hyn o bryd.
Mae'r llyfr wedi ei greu gan feirdd ac artistiaid mwyaf blaengar Cymru a phlant ysgol yr ardal.
Mae'n rhan o brosiect newydd arloesol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru er mwyn hyrwyddo eu Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Plant o Ysgol Craig yr Wylfa yn Y Borth, ger Aberystwyth, a luniodd y cerddi a'r gwaith celf sydd i'w gweld yn y Llyfr Mawr a hynny dan oruchwyliaeth fanwl y beirdd Menna Elfyn a Gillian Clarke a'r arlunydd Jenny Fell.
Mae'r llyfr yn cael ei arddangos yng nghanolfan ymwelwyr Ynyslas yn ystod misoedd yr haf. Yn yr hydref bydd yn cael ei ddychwelyd i'r ysgol gynradd leol.
Y Llyfr Mawr yw'r cam cyntaf mewn cynllun i greu celfyddydwaith sy'n fwy gweledol yn Ynyslas dros y misoedd nesaf:
Cerfio'r cerddi ar gerflun Bydd rhannau o gerddi a gafodd eu llunio gan y plant yn cael eu cerfio ar gerflun derw a fydd yn darlunio symudiad parhaol y tywod yn Ynyslas.
Bydd cywaith wedi ei seilio ar chwedl Cantre'r Gwaelod, chwedl leol i'r ardal, yn cael ei greu yn y ganolfan ymwelwyr. Bydd hwn yn cael ei gynllunio a'i ddatblygu gyda chymorth grwpiau lleol a fydd yn gweithio gydag arlunwyr enwog.
Mae'r prosiectau newydd hyn i gyd yn rhan o fenter newydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru mewn Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a elwir yn 'Ymdeimlad o Gyrraedd'.
Mae'r fenter yn newid mawr o'r dulliau mwy traddodiadol a ddefnyddir fel arfer i esbonio pwysigrwydd y Gwarchodfeydd i ymwelwyr.
Helpu pobol i ddeall Meddai Siân Shakespear, Swyddog Dehongli CCGC. "Y gobaith yw helpu pobl i ddeall eu bod mewn ardaloedd arbennig drwy edrych ar natur drwy gyfrwng ffurfiau gwahanol o gelfyddyd.
"Mae nifer o'r prosiectau sydd wedi eu cynllunio hefyd yn canolbwyntio ar gael y gymuned leol i gymryd rhan, ac rydyn ni'n gobeithio cael cymaint â phosib o bobl leol i gymryd rhan yn y broses.
"Mae gan lawer o'r Gwarchodfeydd gysylltiad diwylliannol cryf â llên gwerin Cymru a chysylltiadau gyda chymunedau lleol, a dyna pam rydyn ni wedi penderfynu defnyddio celfyddyd fel ffordd o gysylltu elfennau diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd y Gwarchodfeydd yma" ychwanegodd.
Gobeithio annog pobol Mae'r Cyngor Cefn Gwlad yn gobeithio y bydd cymryd rhan yn y broses o lunio'r gwaith celfyddydol yn annog pobol i ddod i wybod mwy am swyddogaeth a Gwarchodfeydd.
Creu-ad sy'n cydlynu'r gwaith ar ran y Cyngor Cefn Gwlad. Grwp o arlunwyr yw'r rhain sy'n arbenigo mewn gweithio ar brosiectau sy'n gysylltiedig â chymunedau a'r amgylchedd yng nghefn gwlad Cymru,
Bydd y fenter yn digwydd mewn pump o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol trwy Gymru sef: Coedydd Aber ger Llanfairfechan, Tywyn Niwbwrch yn Ynys Môn, Oxwich ym Mhenrhyn Gwyr, Cors Caron yng Ngheredigion ac Ynyslas.
Dyma rai o'r cerddi sydd i'w gweld yn y Llyfr Mawr:
Cân Y Moresg
Canu a wna'r gragen, cân am y cranc Canu wna'r adar yn yr awyr, canu wna'r tonnau yn yr hwyr, ond sibrwd a wna siani flewog yn y glaswellt.
Siân Canu'r môr ar y traeth canu'r cerrig yn y môr canu'r gwymon yn y dwr - caneuon, alawon sy'n llawn stwr
Thomas Canu'r cranc, canu'r cregyn canu'r clogwyn yn y moresg
cân creadur, cân y cerrig cân holl glychau Cantre'r Gwaelod
cân gwylanod yn y môr cân tlws y moresg pigog
John Tonnau'n taro ar y glust swn mawr swnllyd ar y traeth canu'r neidr llithrig iawn, clywed seiniau yn y prynhawn.
Rhiannon Cân y cregyn, cân y cranc canu'r cocos yn y moresg
canu'r tywod, canu'r traeth twyni'n cwympo o dan foresg.
Shaun Acenion y cregyn fel y môr canu mawr ar hyd y tywod mae gan bob creadur, dafod.
Dylan Canu'n hapus a hopian o gwmpas canu gyda babis, canu yn yr haul canu cân y gragen cân sy'n dweud 'amen'.
Caroline Canu'r gragen. Canu'r cranc, canu'r cregyn ar y banc cân y Tegeirian Bera cân y berta, berta... canu pili pala yn yr haul cân yr awel bob yn ail.
Samantha Cân yr wylan ymhell ar y môr canu'r neidr yn y moresg canu'r blodau, canu'r traeth cân y môr a'i hiraeth.
Shanice Y falwen gylchog fel rhes ar ôl rhes o sêr y llwybr llaethog, yn chwyldroi'r fythol ar ei thaith; cragen hardd o liwiau'r enfys yn llithro'n araf ar y traeth.
Hannah Cân y cranc Cân y cregyn Cân y môr yn y moresg
Cân yr haul fach droellog cân yr halen cân y gloch Och, yng Nghantre'r Gwaelod
Sarah Y falwen gylchog mewn cragen yn edrych fel gwydr pigog clir Os daw storm, does dim ots. Cloi ei drws a wnaeth hi a llithro ymlaen pan stopia'r storm.
Gan blant Ysgol Craig-yr-Wylfa, Borth.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|