
 |  | Cyffro a gwers i'r arddegau
Cyfres o lyfrau sy'n plesio
Dydd Iau, Awst 15, 2002
| Lleidr Cariad: Awdur: Bernard Ashley Addasiad: Gruff Roberts Sgôr: 
Bom yn fy Mhen Awdur: Viv French Addasiad: Elin Meek Sgôr: a hanner
Mega Miliwn Awdur: Yvonne Coppard Addasiad: Emily Huws Sgôr: 
Marcio Marc Awdur: Pete Johnson Addasiad: Siân Lewis Sgôr: 
Oedran: 11 - 15 Gwasg: Gomer Pris: £3.99 yr un
Adolygiad gan Meirion Puw Rees:
Mae pob un o’r llyfrau yma yn rhai bywiog a difyr sy’n sicrhau sgôr uchel i bob un.
Lleidr Cariad: Mae Tomos mewn cariad hefo’r ferch newydd, Miriam, sy’n dod i’w ysgol o Gaerdydd. Ond mae pethau gwerthfawr yn dechrau diflannu ar y diwrnod y mae Miriam yn cyrraedd. A yw Tomos mewn cariad â lleidr? Stori ddifyr a bywiog sy’n dal eich sylw reit i’r diwedd.
Bom yn fy Mhen: Hanes helynt Aled ar ôl iddo gymryd cyffur trwy gangymeriad. Stori ddychrynllyd ar adegau sy’n codi cwestiynau pwysig ynglyn â doethineb cymryd cyffuriau.
Mega Miliwn: Fe wnaiff Jac unrhyw beth i gael Meleri yn gariad iddo ac i ennill mega miliwn. Antur fywiog, frwdfrydig sydd yn dilyn ymgais Jac i gyrraedd ei nod.
Marcio Marc: Mae Marc, yr athro Cymraeg newydd, yn wahanol i unrhyw athro mae Rhys wedi'i gyfarfod o’r blaen. Mewn dim mae’r ddau yn ffrindiau da, ond pan fo’r rheolau yn cael eu torri, mae’n anodd iawn bod yn ffrindiau ag athro.
Mae moeswers ymhob un o’r straeon a honno'n addas iawn i blant yn eu harddegau. Ffolineb rhedeg ar ôl pres yn Mega Miliwn; Effaith andwyol cyffuriau yn Bom yn Fy Mehn; Effeithiau andwyol alchohol yn Marcio Marc; Peryglon lladrata yn Lleidr Cariad.
Mae ôl ymchwil ar y straeon, neu brofiad personol fel yr awgryma yr awduron ar ddechrau’r llyfrau.
Yn Bom yn fy Mhen mae Draenog yn sôn am sgil effeithiau cymryd asprin ac yn egluro ei fod yn gwneud ichi ‘waedu tu mewn’
Mae’r stori yn disgrifio yr hunllefau a’r profiadau od sydd i’w cael ar ôl cymryd cyffuriau gydag Aled yn dychmygu gweld fwltwr, "Roedd e’n fawr, Roedd e’n enfawr. Ro’n i’n gallu gweld ei draed melyn crachlyd e. Roedd ei grafangau mawr fel dur ac roedden nhw’n edrych fel tasen nhw’n gallu rhwygo unrhyw beth ar agor," ac mae’n meddwl fod plant yn cerdded trwyddo!
Cowbois sydd wedi cynllunio'r cloriau ac maent i gyd yn gyfoes ac yn lliwgar ac yn awgrymu cynnwys sy’n apelgar i'r arddegau.
Mae’r teitlau yn fachog ac mae’r defnydd o gyflythrennu yn gweithio’n dda, Mega Miliwn, Marcio Marc ac ati.
Dwi wedi rhoi sgor o bedair seren i dri o’r llyfrau ond wedi tynnu hanner marc oddi ar Bom yn fy Mhen oherwydd bod y bennod gyntaf braidd yn ddryslyd ac fe allai atal rhai rhag darllen ymlaen a cholli y stori dda sydd i ddod.
Dwi’n teimlo fod y pedwar llyfr yma yn addas iawn ar gyfer yr arddegau. Mae’r syniadau a’r straeon sydd ynddynt yn rhan o’n byd ni, yn bethau rydan ni yn gorfod delio â nhw bob dydd.
Fyddwn i ddim yn awgrymu i rywun iau nag 11 eu darllen gan y byddai’r cynnwys yn ddiarth iddynt.
Mwynheais y pedwar. Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|