
 |  | Dau fyd yn cyfuno i greu un athroniaeth
Pwyso a mesur cyfraniad Kitch a chyhoeddi detholiad o'i waith
Dydd Iau, Gorffennaf 18, 2002
| James Kitchener Davies gan M. Wynn Thomas. Cyfres Writers of Wales. Gwasg Prifysgol Cymru. £5.99.
James Kitchener Davies - Detholiad o'i Waith gan Manon Rhys ac M. Wynn Thomas. Gwasg Prifysgol Cymru £14.99.
Mae rhai blynyddoedd bellach er pan oedd rhan o'r gerdd, Swn y Gwynt sy'n Chwythu, yn ddarn cydadrodd mor boblogaidd mewn eisteddfodau ac i'w glywed byth a hefyd mewn darllediadau o eisteddfodau.
Ennill ei le Yn amlwg, mae'n ddarn a aeth allan o ffasiwn erbyn hyn achos anaml iawn y mae i'w glywed ond wedi dweud hynny ni ddylid anghofio mai ar sail y gerdd hon yn anad yr un o'i weithiau eraill y bydd ei hawdur yn ennill ei le yn y ffurfafen lenyddol Gymraeg.
Ac nid y ffaith mai ar ei wely angau y cyfansoddodd J. Kitchener Davies hi sy'n gyfrifol am hynny. Y mae'n gerdd rymus, ysgytwol.
Fe'i cyfansoddwyd yn benodol ar gyfer y radio a hi yn ddiau yw pinacl cyfraniad y bardd a'r dramodydd hwn - er i'w ddramâu greu mwy o gythrwfl a helynt yn eu dydd.
Cefn gwlad Er mai â'r Rhondda a'r gymdeithas ddiwydiannol y cysylltir James Kitchener Davies, bachgen o gefn gwlad Ceredigion oedd o ac yn Nhregaron y treuliodd ei flynyddoedd ffurfiannol.
Mae'r ddeuoliaeth hon o fewn ei fywyd a'i gymeriad yn ganolog i'r astudiaeth gan M. Wynn Thomas sy'n gyfuniad o fywgraffiad a beirniadaeth lenyddol yn null arferol y gyfres Writers of Wales sy'n cael ei golygu gan Meic Stephens ac R. Brinley Jones..
Er yn cael ei adnabod fel Kitch nid Kitchener oedd enw'r bardd-ddramodydd - yn hytrach enw a fabwysiadodd oedd hwnnw ac fel Jim yr oedd yn cael ei gyfarch gan ei gyfeillion.
Mae M. Wynn Thomas yn egluro sut y bu i Davies anwesu'r enw newydd.
Detholiad o'i waith
Mae rhywun yn cael ei synnu braidd na fu i Writers of Wales droi at awdur a chymeriad mor ddiddorol â Kitchener Davies cyn hyn ond bu'n werth disgwyl am gyfrol M. Wynn Thomas sy'n cael ei chyhoeddi ochr yn ochr a detholiad o waith ei wrthrych i gydfynd a chanmlwyddiant ei eni.
Mae'r detholiad hwnnw wedi ei olygu gan M. Wynn Thomas ar y cyd a Manon Rhys, dramodydd, a merch J. Kitchener Davies.
Yn gyfrol sylweddol mae'n cynnwys ysgrifau hunangofiannol, gwleidyddol a llenyddol yn ogystal â gweithiau llenyddol pwysig Cwm Glo, Meini Gwagedd a Swn y Gwynt sy'n Chwythu.
Helynt y ddrama Fel y dywed M. Wynn Thomas yn ei gyfrol Saesneg yn y gyfres Writers of Wales, er mai Swn y Gwynt sy'n Chwythu fydd yn sicrhau ei anfarwoldeb i Kitchener Davies bu ei gyfraniad yn fawr ym myd y ddrama hefyd ac y mae hanes y casineb a'r atgasedd rhyfeddol a ddenodd ei ddrama flaengar, Cwm Glo, yn ddrama ynddo'i hun.
Yr oedd ei bortread o'r gymdeithas lofaol yr oedd yn byw ynddi a'r natur ddynol yn ei gwendidau mor annisgwyl o ddiflewyn ar dafod nes bod yn wrthyn yng ngolwg sawl un gan beri i rywun holi heddiw tybed nad oedd yr hyn a ddigwyddodd ynglyn â Cwm Glo yn fwy o ddrama na'r hyn a ddigwyddai ar y llwyfan hyd yn oed.
Mae M. Wynn Thomas yn dyfynnu beirniaid Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd yn 1934 yn disgrifio Cwm Glo fel darn gwych o theatr a oedd yn rhy foesol wrthyn i'w llwyfannu.
Gwaharddodd senedd Coleg y Brifysgol Bangor gymdeithas ddrama'r myfyrwyr rhag ei llwyfannu a bu'r ymateb i gynhyrchiad Cwmni Drama Cymraeg Abertawe yn anhygoel gyda geiriau fel "filthy, putrid, disgusting" a "ghastly" yn cael eu defnyddio i ddisgrifio'r ddrama wrth i gynulleidfaoedd a beirniaid gamddeall ei gwir ergyd a'i gweld fel beirniadaeth o'r gweithwyr yn hytrach na'r gyfundrefn oedd yn eu mowldio.
Cryno a deallus Mae M. Wynn Thomas yn ymdrin yn gryno ac yn ddeallus a'r bennod hon yn hanes cythryblus Kitchener Davies a'i le o fewn ei wlad a'i gymdeithas nid yn unig fel llenor ond fel ymgyrchydd gwleidyddol, diwygiwr cymdeithasol, cenedlaetholwr ac athro.
Mae yr un mor ddeallus wrth drafod dylanwad y cyfuniad o gefndir gwledig a diwydiannol ar ei athroniaeth a'i gymeriad a dylanwadau ei fywyd personol trawmatig ar ei gynnyrch llenyddol.
Ond er bod Tregaron ei blentyndod mor wahanol i'r Rhondda lle yr ymsefydlodd gwelai Kitch yr un elfennau cymdeithasol ar waith yn y ddau le a chyfunodd y ddau gefndir i greu un athroniaeth gymdeithasol. Gwelai Dregaron a Threorci fel ei gilydd yn lleoedd lle'r oedd y bobl gyffredin dan orthrwm dosbarth gwahanol a oedd, gan fynychaf, yn estron hefyd.
Sbardun i'w genhadaeth Yr ymwybyddiaeth hon oedd y sbardun i'w genhadaeth lenyddol a chymdeithasol gan ei wneud yn llenor gwir chwyldroadol.
Y mae M. Wynn Thomas yn nodi S. M. Powell, athro yn Nhregaron, fel y dylanwad mawr ar y Kitchener Davies ifanc drwy ymrysonau areithio a drefnai a dramâu wedi eu seilio ar hanes lleol.
Meddai M. Wynn Thomas: "Cafodd holl fywyd dewr a brwd Kitchener ei fyw yn y gred y gellid newid yr hyn sy'n rhaid ei newid, er mor anobeithiol y gallai hynny ymddangos i'r pesimistiaid."
Nid yn unig credai'n gryf y gellid atal a throi trai y Gymraeg ond credai y gellid datgymalu'r gymdeithas ddiwydiannol ac adeiladu yn ei lle gymdeithas fwy gwaraidd ac ysbrydol.
Hynny fu'n fyrdwn ei sgrifennu, yn allwedd ei fodolaeth ac yn sbardun i'w holl weithredu.
Yr oedd sawl cangen i'w weithgarwch. "Yn athro wrth ei alwedigaeth yr oedd hefyd yn bregethwr lleyg, yn athro dosbarthiadau nos, yn golofnydd papur newydd cyson, yn ddarlithydd mewn ysgolion haf, bron a bod yn wleidydd llawn amser, yn ddarllenwr mawr, yn ddarlledwr ac yn ddyn a oedd wedi ei feddiannu gan lenyddiaeth a drama," meddai M. Wynn Thomas amdano gan ddefnyddio dyfyniad o Dryden o Absalom and Achitophel i grynnhoi ei fywyd byr:
"A fiery soul, working out its way fretted the pigmy body to decay"
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|