
 |  | Golwg ar grefydd
Cyfrol yn trafod hanes Cristnogaeth yn Nghymru dros y canrifoedd.
Dydd Iau, Mehefin 27, 2002
| Golau Gwlad: Cristnogaeth yng Nghymru 200-2000 Gwyn Davies.
Adolygiad gan Robert Pope

Nid peth hawdd yw cywasgu cyfoeth hanes Cristnogaeth yng Nghymru i 120 o dudalennau, ond dyna nod y llyfr hwn.
Ynddo, ceir cipolwg ar hanes yr Oes Geltaidd, yr Oesoedd Canol, y Diwygiad Protestannaidd, cyfnod y Piwritaniaid, y Deffroad Efengylaidd, dadeni diwylliannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r dirywiad enbyd a ddigwyddodd yn y capeli yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Yn ogystal ag adrodd yr hanes, mae'r awdur yn canolbwyntio ar nifer o gymeriadau pwysig fel Dewi Sant, Gwallter Brut, William Morgan, John Penry, Morgan Llwyd, Howell Harris, Thomas Charles, Lewis Edwards, Martyn Lloyd-Jones ac R. Tudur Jones.
Llawn lluniau diddorol Mae'r testun yn darllen yn hawdd, ac yn llawn lluniau diddorol o gymeriadau a lleoedd pwysig yn hanes crefydd ein cenedl, er bod y traddodiad efengylaidd yn cael y sylw pennaf a diystyrir i raddau gyfraniad y traddodiadau Anglicanaidd a Phabyddol.
Nid yw'n bosibl cytuno bob tro â'r awdur, naill ai oherwydd ei ddewis o'r bobl i'w trafod neu oherwydd ei ddehongliad ohonyn nhw.
Er enghraifft, mae tuedd i wrthod Lewis Edwards fel rhywun oedd yn rhy awyddus i wrando ar wybodaeth newydd ei gyfnod yn hytrach na chadw at ddysgeidiaeth Feiblaidd, ac mae'n anodd credu fod Martyn Lloyd-Jones yn ffigwr o sylwedd ar gyfer y genedl gyfan yn arbennig ar ôl iddo symud i Gapel Westminster, Llundain, ym 1938.
Sylw i gymeriadau ymylol Cymeriadau ymylol a sectaraidd, fel R. B. Jones, Porth, sy'n cael y sylw fel y rhai a gadwai burdeb y ffydd tra llygrwyd yr eglwysi gan ryddfrydiaeth ddiwinyddol.
Dyma bwynt nad yw heb ei wirionedd ond un sy'n tueddu i guddio cymhlethdod y sefyllfa a chraffter meddwl rhai o brif ffigurau crefyddol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru.
Er hynny, mae'n dal yn wir bod arolwg cyffredinol yn ddefnyddiol ac mae ganddo'r potensial i ddenu diddordeb y cyhoedd.
Mae llyfr fel hwn yn atgoffa'r Cymry o'r berthynas agos yn y gorffennol rhwng datblygiad hunaniaeth genedlaethol, llenyddiaeth a chrefydd.
Mae'n bosibl, felly, iddo ennyn diddordeb cenhedlaeth nad yw'n gwybod am ddyled ein cenedl i Gristnogaeth.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|