
 |  | Cyfrif pobol sy'n cyfrif
Darlith yn son am gymdeithas sy'n newid
Dydd Mercher, Mai12, 2002
| Cyfrif Pennau Pen Llyn gan John Gruffydd Jones. Clwb y Bont, Pwllheli. £3.
Cyfrif Pennau Pen Llyn yw testun deunawfed darlith flynyddol Clwb y Bont, Pwllheli, eleni.
Fe'i traddodwyd gan y Prif Lenor John Gruffydd Jones, un o hogia Llyn, a symudodd i fyw yng ngogledd orllewin yr hen Sir Clwyd o wlad Ile'r arferai ei fam ddweud fod hyd yn oed yr adar yn canu yn y Gymraeg!
Digwyddodd dau beth eleni a'i hysgogodd i ddewis ei destun - ei fam yn dathlu ei phen-blwydd yn gant oed a'r llun ohoni yn gwasgu ei gorwyres, Lois Medi, yn dynn yn ei chôl.
Yn ei agoriad mae’n sôn am ddathliadau y flwyddyn hon, 2002, ddeugain mlynedd er darlith hanesyddol Saunders Lewis, Tynged yr Iaith; ugain mlynedd o fodolaeth S4C a rhyngddynt hanner canrif o deyrnasiad y Frenhines Elizabeth yr ail.
Pan yn ei arddegau hwyr gorfu i'r awdur adael Llyn a mentro am Fanceinion pryd y symudodd ei rieni o'r Bwthyn Gwyn, sef y cartref, i Goed Anna yn Nanhoron, sydd erbyn hyn gartref yr ymgyrchydd Seimon Glyn.
Cymunedau yn marw ar eu traed "Mae'n destun syndod i mi fel y mae ef wedi Ilwyddo i gorddi cymaint ar yr emosiynau trwy wneud datganiad syml iawn sef bod y cymunedau Cymraeg yn marw ar eu traed," meddai.
Hyn yn ei arwain at y gwahanol gyfrifiadau fel un 1901, oedd yn cwmpasu holl ardaloedd Prydain.
Dywed fod rhai yn bur gyndyn o ddatgelu manylion personol fel yr hen gymeriad o Lyn y cofir amdano fel Dic y Fantol - Cymro uniaith a briododd Wyddeles uniaith Saesneg.
Pan fyddai pethau'n ddrwg rhwng y ddau, "Ireland, Mary" fyddai anogaeth Dic.
Mae Dic a'i lori yn cael eu cofio yn cario o stesion Pwllheli a'i gyfarchiad i Mary fyddai, "Mary I'm going to dre - I'll be home by amser te."
Pobl eu bro Ond at y ffigurau sy'n dangos fod 48,705 o'r 60,924 o ddynion a gofrestrwyd yn Sir Gaernarfon yn 1901 yn frodorol.
Aac ar ddechrau'r ganrif yr oedd cynier ag 89.5 y cant o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg a bron yr hanner yn uniaith Gymraeg a'r rheini, fel y byddai rhywun yn disgwyl, dros eu 65 oed.
Gellir yn hawdd ddeall hefyd fod yna 3,324 o blant Penrhyn Llyn yn uniaith Gymraeg yn 1901.
Dod yn ddwyieithog
Â'r awdur rhagddo i ddadansoddi natur y gymdeithas: y dosbarth canol modern a'r newid yn y patrymau iaith a hefyd sut y daeth yn norm bod yn ddwyieithog.
Eto'i gyd, rhestra'r awdur nifer o enghreifftiau o'r werin dlawd yn dal i fod yn uniaith Gymraeg a nifer ohonynt yn destun sbort am nad oeddent yn ddwyieithog!
Hyn yn arwain at Frad y Llyfrau Gleision gyda'r awdur yn cydnabod i'r adroddiad hwnnw, "fod yn giaidd o hallt" ond yn ychwanegu mai "annheg yw gosod y cyfan o'r bai ar ysgwyddau'r Comisiynwyr o dros Glawdd Offa.
"Bu unigolion lleol yr un mor euog o wawdio eu cyfoedion gyda chasineb at yr iaith Gymraeg yn asgwrn y gynnen."
Gan fod yr awdur yn un o Lyn mae'n gwbl gartrefol yn sôn am Enlli Ile'r oedd 77 o drigolion ar dro yr ugeinfed ganrif.
Tueddiadau nawddoglyd Yna mae'n pwyso a mesur Tynged yr Iaith ar drothwy'r ganrif hon lle mae'n nodi agweddau fel cadw'r ddysgl yn wastad a thueddiadau nawddoglyd ac ofn pechu yn amlwg.
Ac mae yma ddau ddarlun ar bymtheg addas i'r ddarlith yn dangos sut rai oedd gwerin a bonedd penrhyn Llyn ddyddiau fu.
Down i ben y dalar gyda’r awdur yn sôn fel y bu'n ailedrych ar y llun o'i fam a'i wyres gan ofyn a fydd hi yn perthyn i'r genhedlaeth olaf o bobl ifainc a fydd yn ystyried y Gymraeg yn iaith bob dydd.
"Er bod ystadegau'n dangos bod mwy o bobl yn medru'r iaith erbyn hyn ymddengys bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y plant sy'n ei siarad yn y cartref," meddai.
A'r cwestiwn olaf sy'n aros gyda'r awdur yw: Ai pen-blwydd hapus, ynteu happy birthday fydd etifedd Lois bach yn ganu iddi pan fydd hithau yn dathlu ei phen blwydd yn gant oed?
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau |  | 
|