
 |  | Cymru yn ei llên, ei hanes a'i gwleidyddiaeth
Llyfr a fyddai wedi elwa ar ei ddiweddaru
Dydd Iau, Ebrill 25, 2002
| Agoriad yr Oes. Erthyglau ar lên, hanes a gwleidyddiaeth Cymru gan Dafydd Glyn Jones. Y Lolfa. £14.95.

Y mae’r plethiad o hanes, llên a gwleidyddiaeth yn un tyn yn y gyfrol hon sy’n cadarnhau Dafydd Glyn Jones fel beirniad llenyddol sy'n sylwebydd a meddyliwr gwleidyddol diddorol hefyd.
Yr ydym yn gyfarwydd a Dafydd Glyn fel dipyn o jociwr a thynnwr coes - cofiwn Miriman a'i gwsberins yn gaeaf er enghraifft - fel beirniad llenyddol ac yn fwy diweddar fel prociwr a chorddwr a wthiodd y Brifysgol yr oedd yn gweithio iddi i o leiaf ystyried sut mae symud ymlaen i ddarparu addysg brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwaith darllen Er cymaint ei gyfraniad yn nhwr eifori Bangor ac fel traddodwr darlithoedd i wahanol gymdeithasau ac awdur traethodau i wahanol gylchgronau does ganddo ddim rhestr hir o lyfrau y tu ôl i’w enw.
Ar sail y gyfrol hon gallwn ddweud, trueni am hynny a gallwn dybio y bydd cryn ddiddordeb yn y casgliad hwn o ysgrifau, darlithoedd a thraethodau.
Y mae’n gyfrol a gwaith darllen arni. Yn gyfrol sydd i fod i wneud inni feddwl. Yn gyfrol sy’n berthnasol i’n cyflwr cenedlaethol y dydd heddiw.
Ond dydi hwn ddim yn llyfr sydd wedi ei sgrifennu i bwrpas. Yn hytrach yr hyn a gawn yw casgliad o bethau a ysgrifennwyd dros gyfnod yn ymestyn yn ôl i ddarlith lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Bro Madog, 1987.
Y cyfraniad diweddaraf yw darlith a draddodwyd fis Ebrill y flwyddyn 2000.
Dyfalu lle nad oes angen Weithiau dydi oed cyfraniad ddim o bwys; dro arall y mae - yn enwedig ar yr achlysuron hynny pan yw canlyniad digwyddiadau - oedd yn destun dyfalu adeg y sgrifennu - yn wybyddus erbyn heddiw.
Mae hynny’n peri inni ofyn, oni ddylai’r awdur fod wedi golygu’r cyfraniadau er mwyn cael gwared â’r gwendid hwn?
Gwell fyth, pe byddai wedi defnyddio’r deunydd sydd yn y llyfr yn sail i gyfrol newydd sbon wedi ei sgrifennu y dydd heddiw gan gymryd i gownt ddigwyddiadau diweddar.
Byddai hynny’n ei wneud yn amgenach ac yn werthfawrocach llyfr na’r un sydd yr atgynhyrchiad slafaidd ag yw.
Er enghraifft, pa werth sydd mewn darllen heddiw sylw a wnaed yn 1997, "Os â Mesur Cymru yn weddol ddianaf drwy ddau dy’r Senedd, fe ddylem weld cynnal ym Mai 1999, yr etholiad Cynulliadol cyntaf " a ninnau'n gwybod yn iawn beth a ddigwyddodd.
Aiff ymlaen wedyn i ragdybio'n ddychannol beth fydd natur aelodaeth y corff etholedig hwnnw.
A'r awgrym pryfoclyd yw, tair plaid - Plaid Chwalu a Dinistrio; Plaid Edrych yn Bwysig a Pheidio â Gwneud Dim Byd Neilltuol a Phlaid Symud Ymlaen at Bethau Gwell.
Gwell, a buddiolach, fyddai dadansoddiad yr un mor graff a meddylgar gan Dafydd Glyn Jones o’r hyn âddigwyddodd ac sydd yn digwydd na’r rhagdybio hwn.
Erbyn heddiw gallai hyd yn oed enwi aelodau ei dair plaid!
Yr un modd y drafodaeth o’r priodoldeb i Blaid Cymru ymgyrchu tuag at annibyniaeth neu beidio yn dyddio o adeg cyn i’r Blaid ddod i benderfyniad ar y mater. Felly hefyd y trafod a fu o’i mewn ynglyn â mabwysiadu enw Saesneg.
Yn hytrach na dweud "Mae rhai, yr un modd, am newid enw Plaid Cymru, ac am gael enw Saesneg arnï" gwell gennyf i fyddai darllen ei ymateb i’r hyn a ddigwyddodd sef mabwysiadu’r enw swyddogol The Party of Wales.
Byddai Agoriad yr Oes wedi manteisio yn rhyfeddol ar fod yn ail-bobiad llwyr a meddu ei rediad naturiol ei hun wrth i Dafydd Glyn Jones fynd i'r afael a’r "syniad o ynys Brydain yn llenyddiaeth a meddwl y Cymry" yn ddadansoddiadol resymegol yn hytrach nag ar chwal fel sy'n digwydd wrth ddod a deunydd a sgrifennwyd ar gymaint o wahanol adegau at ei gilydd.
Meddylgar a phryfoclyd A rhoi'r anhawster yna i'r naill ochr yr hyn sydd gennym, fodd bynnag, yw cyfrol feddylgar, bryfoclyd a gwreiddiol - a diolchwn amdani a'i harddull hwyliog.
Ar ddiwedd un cyfraniad dywed: "Hen achau a hen wreiddiau a hen goelion amdanom ein hunain fu’n testun heno. Ond rwy’n gobeithio y cytunwch â mi nad yw’r pethau hynny yn gwbl amherthnasol i’n rhagolygon fel gwlad a phobl ar drothwy canrif a milrif newydd."
'Dim rhyddid heb senedd' Dadl ganolog sy’n codi ei phen dro ar ôl tro yn y trafodaethau yw "na ddaw gwir ryddid i’r Cymry ond drwy senedd o’u dyfais ac o’u creadigaeth eu hunain" gan bwysleisio nad yw llywodraeth (sef yr hyn yw’r Cynulliad a roddwyd inni trwy ewyllys da Lloegr) yr un peth o gwbl a senedd a grewn o'n pen a'n pastwn ein hunain fel pobl.
Gyda’r diben hwnnw mewn golwg bu ef, ers y nawdegau, yn tynnu sylw at y cyfle arbennig y mae y flwyddyn 2004 yn ei gynnig fel chwe chanmlwyddiant galw ei senedd ef gan Owain Glyndwr:
"Bydd y flwyddyn 2004 . . . yn gyfle i rai o aelodau’r Cynulliad - sef y rhai a ddaw - ymuno gydag eraill, wedi eu hethol yr un mor ddemocrataidd, i ailagor y Senedd" honno, meddai.
Ac yn Nhaliesin, 1994, dywedodd:
"Dylem ailalw ein senedd nas dilewyd erioed. Dylai’r senedd honno ddatgan y nod o fod yn gydradd o dan y Goron â senedd yr Alban a Thy Cyffredin Lloegr."
Hynny, oherwydd yn ei farn ef ym Medi 1995: "Ni ellir torri gafael Prydeindod yng Nghymru ond gan a thrwy senedd wedi ei sefydlu’n annibynnol. Y mae rhagor rhwng senedd a llywodraeth . . . Nid am lywodraeth annibynnol yr ydym yn sôn ar hyn o bryd, ond am senedd . . . wedi ei chreu, ei sefydlu a’i hagor drwy ddyfeisgarwch y Cymry, nid drwy ordinhad senedd a llywodraeth San Steffan."
Mae Agoriad yr Oes yn glamp o lyfr sy’n mynd i’r afael nid yn unig a chyflwr Cymru heddiw ond hefyd ei pherthynas a gweddill Prydain ers dyddiau ein hen, hen, hanes a sut y mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn ei llenyddiaeth a'n chwedlau.
A chyfraniad gwerthfawr Dafydd Glyn Jones i'r pwnc difyr, diddorol a phwysig hwn yw y modd y mae’n darllen yr arwyddion a dehongli ein chwedlau a’n traddodiadau cynharaf yn y cyd-destun hwnnw.
A ddalleno . . . Glyn Evans
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau |  | 
|