
 |  | Llythyr: Cadw at y rheolau
Ymateb darllenydd i sylwadau am reolau gramadeg
Dydd Iau, Mawrth 28, 2002
| Yn y llyfr, Gorau Cyfarwydd, cyhoeddir darlith gan y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones lle mae'n dadlau ei bod yn bosib rhoi gormod o bwysau ar reolau gramadeg caeth.
Dyma ymateb W. J. Jones wedi inni dynnu sylw yng Nghylchlythyr BBC Cymru'r Byd at yr hyn a ddywedwyd am Gorau Cyfarwydd mewn adolygiad:
iAnnwyl gyfaill Rwy'n mwynhau darllen eich cylchlythyr yn rheolaidd ond dwy'i ddim yn ateb dim. Mae bai arnaf.
Soniwch am "ramadeg" yn eich llythyr diwethaf gan awgrymu nad yw'n bechod mawr bod y ramadeg honno'n cael ei thorri.
Yn fy mhrofid i, yn amlach na pheidio, y rhai sy'n ansicr eu gramadeg sy'n ei dilorni. Byddwn i'n cytuno y dylem dorri rheolau i ystwytho'r iaith ond rhaid bod yn ofalus er hynny.
Dyw beio Daniel Owen am dorri rheolau gramadeg pan nad oedd rheolau pendant yn bod yn ychwanegu dim at ein dadl.
Efallai y carai darllenwyr eich llythyr edrych ar dri phwynt sydd o ddiddordeb i mi y dyddiau hyn.
I ddechrau, y pla "geiriau Saesneg". Gwn fod pob iaith yn benthyca. Iawn. Ond wn i ddim paham y dylai iaith fenthyca gair o iaith arall os oes gair cwbl gymeradwy'n bod yn yr iaith hynny'n barod.
Pam mae hi'n gwbl dderbyniol gan dorwyr gramadeg glywed: "Fe wela i di am ten tw thri!" ac yn annerbyniol clywed, "I will see you and ddeng munud i dri."?
Yn ail, y cadarnhaol yn newid. Gwn fod sawl ffordd o ffynegi'r cadarnhaol yn Gymraeg, ond pam yn y byd mawr y mae'r cyfryngau ac eraill yn mynnu arfer "Do" byth a hefyd. "Ydych chi'n mynd yno?" "Do." "Oedd hi'n bwrw glaw ddoe?" "Do".
Beth sy'n bod ar "Ydw" ac "Oedd"?
Yn drydydd. berfau cynorthwyol. Rwy'n barod i dderbyn eu bod yn help, ac fe alla i gau fy nghlustiau i "Fe wnaeth i anghofio" yn lle "Anghofiodd e." Ond yr wythos yma clywais ar y cyfryngau, "Fe wnaeth e fynd."
Alla i yn fy myw gweld bod hyn yn rhagori ar "Fe aeth e."
Dydy hwn yn ddim mwy na chwestiwn. Pa mor bell y gallwn ni fynd i falu iaith cyn i rywyun weld nad oes iaith ar ôl i'w malu? Pob hwyl WJJ
Sut mae derbyn Cylchlythyr BBC Cymru'r Byd? i waelod ein dalen gartref a chlicio ar Tanysgrifiwch wedi rhoi eich cyfeiriad yn y blwch.
|  | 
|