
 |  | Atgofion amaethwr
Cyfrol ddifyr yn sôn am fywyd yng nghymdeithas wledig Ceredigion.
Dydd Iau, Chwefror 14, 2002
| Ar Bwys y Ffald gan Gwilym Jenkins. Y Lolfa £7.95.

Adolygiad gan Gwyn Griffiths
Mae'r gyfrol Ar Bwys y Ffald gan Gwilym Jenkins yn ddiddorol petai ond am y portread o wladwr diwylliedig a'r gymdeithas ddiwylliedig a'i gwnaeth yr hyn ydyw.
Fe gafodd addysg Ysgol Ramadeg - Ysgol Ardwyn, Aberystwyth, ond y mae'n fwy o gynnyrch y gymdeithas wledig, y capel, yr Ysgol Sul a'r Clwb Ffermwyr Ifanc nac o hen ysgol ramadeg Seisnig o'r oes a fu.
Bu yno am dair blynedd gan adael dymor cyn ei benblwydd yn 14 oed. "Ni ddywedodd unrhyw un ddim, roedd yn amlwg eu bod yn falch o'm gweld yn mynd a minnau yn falch cael mynd."
Buasai, meddai, wedi dysgu mwy petai wedi aros yn Ysgol Gynradd Talybont. A diolch am gymdeithas ddiwylliedig Gymraeg oedd yn medru ysbrydoli bechgyn a merched ifanc galluog a dawnus mewn modd na fedrai cyfundrefn addysg Saesneg a Seisnig.
Toreth o wybodaeth ddifyr Mae yma doreth o wybodaeth ddifyr am gyfnod y rhyfel pan oedd pwysau mawr ar y ffermwyr i gynhyrchu mwy o fwyd i gadw'r wladwriaeth i fynd mewn adeg o gyni.
Mae'n sôn am ei dad yn prynu ei dractor cyntaf - fforden fach ac olwynion haearn - ddechrau'r rhyfel. Roedd hynny'n gynnar iawn nid yn unig yn ardal Talybont ond yng Ngheredigion gyfan.
Mae yma ddigon o jôcs da. Mae'n sôn am rywun o'r ardal yn cael radio ac un o ferched "byddin y tir" yn gofyn beth oedd mêc y radio. Doedd y bachgen ddim yn cofio, dim ond ei bod "yn rhywbeth tebyg i darten". Pye oedd y mêc!
Mae yma bortread o ardal, cymdogaeth dda pan oedd pawb yn helpu'i gilydd, cyn i beiriannau ddod a gwneud i ffwrdd â'r galw am bobl ac am ddwylo.
Dyletswyddau fferm Cyfrol am ddyletswyddau fferm sy'n dod â'r atgofion yn ôl: y separato, sef gwahanu'r hufen wrth y llaeth sgim, pylpo a chaffo'r sgubau. Ni chlywais o'r blaen am yr arfer o roi saltpeter yng ngwaelod y gynog i sicrhau na fyddai arogl swej ar y menyn.
Mor hyfryd oedd gweld hen eiriau fel bing, sef y lle o flaen y gwartheg lle medrech gerdded i fwydo'r gwartheg, ac ambell ddywediad am "flewina yr ychydig borfa".
Fe wyddom i gyd bellach bod yr Arglwydd Geraint o Bonterwyd yn bencampwr ar gneifio gyda gwellaif. A'r awdur Gwilym Jenkins, hefyd. Cawn ddisgrifiad cynhyrfus ganddo o gystadleuaeth cneifio ac yntau'n ennill - a llun ohono'n derbyn y Cwpan o law yr Arglwydd Geraint.
Sylwadau a phwyntiau bachog Mae yma ddigon o sylwadau a phwyntiau bachog. Sonnir am y cyfnod pan oedd ymgynghorwyr y Weinyddiaeth Amaeth yn dweud wrth ffermwyr sut i gynhyrchu mwy o fwyd drwy ddefnyddio mwy a mwy o chwynladdwyr a nitrogen a llygru'r tir. "Mae'r Weinyddiaeth Amaeth yn gyfrifol am lawer iawn o'r llygru," meddai.
Dyna'r tro hwnnw pan anfonodd am ffurflen i fod yn rhan o Gynllun Ardaloedd Amgylchedd Arbennig Mynyddoedd Cambria. Cafodd ffurflen Saesneg.
Wedi ei hanfon yn ôl a gofyn am un Gymraeg cafodd yr ateb nad oedd un Gymraeg ar gael - ac na fyddai un Gymraeg yn gyfreithlon!
"Atebais … na fyddwn byth yn arwyddo cytundeb Saesneg. Tynnais eu sylw er mor bwysig oedd gwarchod yr amgylchedd a byd natur, roedd yr un mor bwysig gwarchod yr iaith Gymraeg."
Sylwadau annisgwyl Tipyn o sioc yn niwedd y llyfr oedd darllen ambell sylw ynglyn â'r ddeddf erthylu a chyfreithloni gwrywgydiaeth. "Mi ddylent ofyn am gael eu sbaddu bob un, yn ferched ac yn fechgyn" yw ei farn am gyfunrywiaeth.
Mae'n beirniadu'r loteri'n hefyd. "Twyll yw'r loteri yma hefyd, maent yn rhoi cyfran fechan, pedair ceiniog ymhob cant tuag at achosion da … y gwir yw, mae'n arbed y llywodraeth o'i dyletswyddau i gyfrannu at achosion da, er mwyn cael ychwaneg o arian i bentyrru arfau rhyfel." O leiaf fuaswn i byth yn anghytuno â hynna!
Diolch am gyfrol ddifyr iawn.
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill?Ebostiwch |  | 
|