
 |  | Y Llew ar lwyfan ac yn ei ffae
Bywyd llawn helynt arwr steddfod a llwyfan
Dydd Iau, Chwefror 7, 2002
| Y Llew oedd ar y Llwyfan gan Eryl Wyn Rowlands. Gwasg Pantycelyn. £9.50.
Adolygiad gan Glyn Evans
Canwr, bardd, golygydd, nofelydd, newyddiadurwr, teithiwr, yfwr, eisteddfotwr, tynnwr blewyn o drwynau, dyn ffraegar - a begerwr trwy lythyrau.
Mae hanes bywyd Llew Llwyfo fel rhywbeth allan o nofel.
Ond nid dewis sgrifennu nofel a wnaeth Eryl Wyn Rowlands ond dweud stori y cymeriad rhyfeddol hwn o Fôn yn gymesur a theg gan osod y ffeithiau ger ein bron yn ofalus a thaclus.
A chlincar o stori ydi hi hefyd.
Wrth gwrs, a minnau’n dod o Fôn, yr oeddwn wedi clywed am Lew Llwyfo ond heb sylweddoli cymeriad mor lliwgar - a thrist - oedd o.
Daeth i fri fel arwr ar lwyfannau cenedlaethol - yn destun bonllefau cymeradwyol cynulleidfaoedd edmygus.
Ond diweddodd ei ddyddiau mewn tlodi ac wedi ei ddryllio gan y ddiod yn anfon llythyrau’n begera am waith gan gyfeillion.
Darlun rhyfeddol, felly, o arwr steddfodol o’r ganrif ddiwethaf.
Gwaith ymchwil manwl Ac yn sylfaen i’r cyfan y mae gwaith ymchwil sy’n ymddangos yn eithriadol o drwyadl. Y mae Eryl Wyn Rowlands yn synnu rhywun gyda’r ffynonellau y mae’n tynnu ohonyn nhw.
Ni ellir ond edmygu ei drylwyredd nid yn unig mewn perthynas â gwrthrych ei lyfr ond y cefndir hanesyddol yn gyffredinol.
Mae’r stori’n dechrau yn yr ardal o gwmpas gwaith copr Mynydd Parys ger Amlwch ym Môn lle gweithiai dros fil o fwynwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
"Ardal llawn tensiwn . . . tensiwn a arweiniodd ar Derfysgoedd Bwyd ym 1817 a galw milwyr i mewn . . . roedd trigain o dafarnau yn Amlwch yn unig ac ni ddaeth Dirwest i hawlio ei le hyd ddechrau’r 1830au . . . Dyma’r gymdeithas y ganed Lewis William Lewis iddi ar Fawrth 31ain, 1831," meddai Eryl Wyn Rowlands.
Mwynwr cyffredin oedd ei dad gyda’i fam, o bosib, yn un o Gopr Ladis enwog yr ardal.
Byrbwyll ac ymfflamychol Mae Eryl Wyn Rowlands yn olrhain yn ofalus fachgendod a llencyndod Lewis gan roi inni ddarlun o ddyn ifanc byrbwyll o dueddiadau llenyddol.
"Byddai natur fyrbwyll ac ymfflamychol Llew gydag ef am byth," meddai’n awgrymog a gwelir yn y gyfrol pa mor hawdd oedd o’n ei chael i dynnu nythod cacwn yn ei ben ac i ffraeo â Chymry dylanwadol.
Rhoddodd sawl cychwyn ar yrfa gan gynnwys bod yn brifathro ysgol genedlaethol yn 1851 lle’r oedd plant yn talu iddo am eu haddysg mewn penwaig, crancod a gwichiaid!
Erbyn 1852, fodd bynnag, gweithiai yn swyddfa Y Cymro yn Nhreffynnon yn dethol deunydd a chywiro llawysgrifau.
Yn ddiweddarach, yn ystod cyfnod yn Lerpwl, bu’n olygydd y Cronicl Wythnosol cyn symud i Aberdâr lle parhaodd i newyddiadura.
Ond lle bynnag y bu, ymddangosai y byddai yng nghanol rhyw helynt ac y mae sôn parhaus am gweryla a tynnu’n groes a sathru cyrn.
Tenau ac esgyrnog Gadawodd Aberdâr dan gwmwl - "Bum yn glaf iawn ar ôl i mi ymadael oddi yma, prin y gallech fy adnabod pe gwelech fi, gan mor denau ac esgyrnog ydwyf," meddai.
Daeth gwaredigaeth o Ddinbych trwy wahoddiad gan Thomas Gee i fod yn olygydd Udgorn y Bobl.
"Ar ben hyn cynorthwyodd gydag ysgrifau i’r Gwyddoniadur ac i’r Traethodydd" ac i Faner ac Amserau Cymru sy’n golygu iddo ymwneud â "thair o’r anturiaethau cyhoeddi cyhoeddi pwysicaf a welodd Cymru."
Ar ben hyn gwnaeth amser i sgrifennu nofelau ac hefyd i ennill poblogrwydd fel unawdydd heb sôn am gystadlu am Goron y Genedlaethol - gan honni mai’r unig beth oedd y’i eisiau i ennill honno oedd y ddawn i fedru cyfieithu o’r Saesneg!
Lluniaidd a phrydweddol Er cymaint o nythod cacwn a dynnai yn ei ben arhosodd yn ffigur poblogaidd iawn ymhlith y bobl gyda’i bresenoldeb cyhoeddus a’i ddawn fel canwr:
"Anfynych iawn y gallesid gweled neb mwy lluniaidd o gorph - mwy cymesur, mwy prydweddol, o drwsiad mwy dymunol, a mwy boneddigaidd ei ymddygiad – heblaw fod ei lais swynol, ei dalentau disglaer, a’i athrylith ddiamheuol, yn gyfrwng ag a allasai wneyd y mwyaf annymunol yn boblogaidd," meddai’r Genhinen yn 1893.
Ond i eraill yr oedd yn esgymun llwyr.
"Yn wir, un o nodweddion mwyaf diddorol cymeriad Llew Llwyfo oedd y ddwy farn hyn amdano - ei foli neu ei gasau," meddai Eryl Wyn Rowlands.
Ond yr oedd sêr cyngherddau crandiaf Llundain yn fwy na pharod i rannu llwyfan ag ef ac y mae disgrifiad dramatig o berfformiwr arall yn gorfod ildio’r llwyfan iddo wrth i gynulleidfa fynnu cael Llew Llwyfo i’w diddori.
Cymry amlwg eraill Yr oedd yn cymysgu â Chymry amlwg eraill fel Ceiriog, Madam E. L. Williams - Eos Cymru, Islwyn a Thanymarian a Mynyddog a oedd yn ddau o’i gyfeillion pennaf.
Ef oedd y tu ôl i syniad uchelgeisiol o uno holl gorau Cymru yn un côr mawr, cenedlaethol ac yn 1862 penodwyd ef yn unswydd i Gymreigio cyngherddau Prifwyl Caernarfon.
Bu erioed yn ysglyfaeth i brinder arian a dyfynnir, er enghraifft, lythyr a anfonodd at Ceiriog o Lanymddyfri:
"Nid wyf wedi danfon dim adref ers pythefnos, ac yr wyf yn ofni eu bod mewn eisiau. . .a wnei di fenthyca £1. A’i danfon i Mrs Sarah Lewis, Tower Cottage, Denbigh. Danfon hi mewn rhyw ddull agy gall yr hen wraig druan ei defnyddio yn ebrwydd. . .Do this for my poor wife’s sake."
Mynd i'r America Gyda’i seren yn pylu ac yntau yng nghanol mwy a mwy o helyntion trodd ei gefn ar Gymru yn 1868 a cheisio, fel sawl un o’i flaen, fywyd gwell yn yr Unol Daleithiau.
Bu yno bum mlynedd cyn dychwelyd i ailafael mewn pethau yng Nghymru ond daw yn amlwg i’r darllenydd ei fod yn fod yn ddyn na allai osgoi helynt ac mae’r disgrifiad o’i ddyddiau olaf yn fregus o gorff ac mewn tlodi ariannol yn ysol wrth iddo grefu am arian a gwaith gan gyfeillion.
Hysbysebu fferins annwyd Yn 1867 ymddangosodd ei enw mewn hysbyseb yn canmol rhinweddau Francis’s Voice Lozenges - "used by the most eminent singers and speakers of the day," chwedl y gwneuthurwyr - gyda’r Llew yn honni na fyddai wedi medru perfformio o gwbl hebddynt.
Efallai ei fod yn Llew ar y llwyfan ond yn ei ffau creadur ysig a thrist oedd o a pharhaodd helyntion wedi ei farwolaeth a’i gladdu ym mynwent Peblig yng Nghaernarfon.
Ac y mae Eryl Wyn Rowlands yn gorfod holi hefyd:
". . . beth ddigwyddodd i’w dlysau eisteddfodol, gan gynnwys y ddwy gadair o Eisteddfodau Utica ac Efrog Newydd? . . . un tlws arian, sef Tlws Eisteddfod Genedlaethol Caer, 1866, sydd ar gael yng Nghymru."
Oes, mae o hyd gwestiynau heb eu hateb sy’n golygu na ellir cau’r cloriau ar hanes y lliwgar, trafferthus a dadleuol Lew Llwyfo.
Bydd yn ddiddorol disgwyl yn awr pa ymateb a gaiff Eryl Wyn Rowlands i’w gyfrol ragorol.
Holi Eryl Wyn Rowlands
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill?Ebostiwch |  | 
|