bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
»Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Canmol dyn steddfod

Cyfrol deyrnged i arweinydd steddfod o fri

Dydd Iau, Ionawr 31, 2002

• Cofio’r Adnabyddiaeth - Edward Williams, Llangefni, 1906-1992. Golygyddd, O Arthur Williams. Gwasg Pantycelyn. £8.
pedair seren ymhlith y rhjai sydd yn cofio'r adnabyddiaeth.
Dwy seren ymhlith darllenwyr eraill!
Adolygiad gan Glyn Evans


Mi alla i ymffrostio yn y ffaith imi rannu llwyfan efo Edward Williams, testun y gyfrol deyrnged hon.

Ond dydi hi fawr o frôl mewn gwirionedd - achos gall ugeiniau lawer o’m cenhedlaeth i a fagwyd ym Môn ddweud yr un peth.

I gyd wedi teimlo’r llaw gysurlon yna ar yr ysgwydd a’r gorchymyn yna o’r tu ôl i’ch ysgwydd i’r gynulleidfa "roi pob chwarae teg iddo fo."

Edward Williams oedd Yr arweinydd Steddfod yn ystod y cyfnod byr a digon dilewyrch y cefais i fy ngwthio i "gystadlu ar yr adrodd" gan ennill fawr ddim er gwaethaf pob chwarae teg a sicrhaodd imi gan y cynulleidfaoedd.

Diolch i Yncl Ned

Gwnaeth eraill yn well ac y mae un ohonyn nhw yn un o’r 17 sydd wedi cyfrannu atgofion i’r gyfrol hon.

Gwnaeth Annwen Jones - neu Williams fel roedd hi pan oeddwn i yn ei hadnabod yn yr ysgol - enw iddi ei hun fel adroddwraig gan ennill gwobrau cenedlaethol.

Mae hi’n rhoi llawer o’r diolch am ei llwyddiant i Edward Williams neu Yncl Ned fel y daeth o iddi hi.

Mae hi hefyd yn rhoi peltan i’r Eisteddfod Genedlaethol am beidio ag anrhydeddu’r dyn yn gynt nag y gwnaeth ac am y’i gadw cyhyd oddi ar lwyfan y Brifwyl ac yntau yn arweinydd Eisteddfodau o gymaint hil gerdd.

Yr oedd yn Yncl Ned a oedd yn rhan allweddol o sawl byd ifanc.

"Tra bod plant y dyddiau hyn yn cael eu magu ar y Tellytubbies, Radio One a’r Playstation, trampio o eisteddfod i gymanfa i gyngerdd yr oeddwn i o’m dyddiau cynharaf. Roedd ‘Lle Treigla’r Caferi’, ‘Brad Dynrafon’ a ‘Hen Rebel Fel Fi’ yr un mor gyfarwydd i mi ag ydi ‘International Velvet’ Catatonia i ieuenctid heddiw," meddai Annwen.

Adrodd heb syrcas

Marged Esli, Edward Williams ac Annwen Williams yn Eisteddfod Genedlaethol 1966, Aberafan.Byddai Edward Williams yn dangos diddordeb arbennig mewn cystadleuwyr addawol y byddai yn dod ar eu traws mewn eisteddfodau ac o’r dyddiau hynny rwy’n cofio’n iawn fod cael eich derbyn i gael "gwersi gan Edward Williams" yn arwydd ynddo’i hun y’ch bod chi’n rhywun oedd yn mynd i wneud tipyn o farc.

Mae gan Annwen ddisgrifiad byw o wersi yng nghartref y maestro yn Llangefni:

"Rydw i’n cofio fel y byddai Yncl Ned yn eistedd yn ôl yn y gadair honno wrth y tân ac yn gwrando’n astud arnom yn adrodd a’i lygaid ar gau. Byddai’n geirio’n fud hefo ni, llyfr yn ei law chwith, y sigaret yn ddieithriad yn ei law dde, ac yntau fel arweinydd cerddorfa gyda’r sigaret yn faton. Os agorai ei lygaid, fe wyddem yn syth nad oedd rhywbeth yn ei blesio."

Ychwanega: "Roedd ganddo glust anhygoel at rythmau’r iaith lafar. ‘Aros funud,’ meddai . . . a phwysai ymlaen i feddwl, ei droed dde ar garreg yr aelwyd, ei benelin ar ei ben-glin, a’i dalcen yn pwyso ar ei fysedd tra oedd yn pendroni."

Gadael i eiriau siarad

Mae’n rhywfaint o ddileit gan bobol fel fi i ddifrio a dirmygu adrodd - a does yna ddim amheuaeth fod mathau arbennig o adrodd yn aflwydd cenedlaethol.

Yn ôl Annwen, nid dyma’r math o adrodd fyddai’n mynd a bryd Edward Williams:

"Byddai’n gas ganddo unrhyw sioe neu ‘hen swn adrodd’ fel y byddai’n galw unrhyw fursendod."

Galwai ef am gyflwyno darnau "mor syml a didwyll ag oedd bosib."

"Gadael i’r geiriau siarad drostyn’u hunain. . . . Dim cwafars. Sdim isio rhyw hen syrcas ddiawl."

Gweini ffarmwrs

Er gwaethaf cychwyn dinod - y teulu mor dlawd y bu’n rhaid y'i anfon i’w fagu gan ei nain ac wedyn gadael ysgol i weini ffarmwrs yn 13 oed a threulio’r rhelyw o’i oes yn siopwr - gwnaeth Edward Williams gyfraniad aruthrol ym Môn dros y blynyddoedd.

Nid yn unig fel eisteddfotwr ar lwyfan ond y tu ôl i’r llenni hefyd ac ym myd y ddrama.

Arweiniodd Eisteddfod Môn am 35 o flynyddoedd, Eisteddfod Llandegfan 32 gwaith, Llanddeusant 30 o weithiau heb son am ei gyfraniad fel trefnydd ac hyfforddwr.

Yr oedd o, yng ngeiriau Derec Llwyd Morgan "yn fodel o Eisteddfodwr."

Peltan i'r Steddfod

Ac y mae John Stoddart yn son am ei afael sicr ar yr iaith - ei allu i’w hynganu yn groyw a chlir - heb son am ei feddiant o’r priodoleddau eraill hynny sy’n gwneud arweinydd eisteddfod da fel meddwl effro a threfnus, mesur go dda o bwyll ac amynedd, natur siriol a hiwmor cartrefol.

Mae Annwen Jones yn crynhoi byrdwn y cyfranwyr i gyd:

"Roedd Yncl Ned yn un o’r rhai olaf o’r werin ddiwylliedig honno na chafodd fanteision addysg. Roedd ganddo ddoniau naturiol cynhenid a’i gariad at y Pethe yn angerddol," meddai.

A hi sy’n holi pam y bu yr Eisteddfod Genedlaethol mor ddihid o’i ddoniau - a chynnig ateb:

"Tybed," meddai, "pam mai dim ond unwaith y cafodd arwain a beirniadu yn y Genedlaethol? Ond efallai nad ydi hynny’n syndod. Wedi’r cwbl, doedd o ddim yn weinidog, athro nac yn fardd, nac yn un o fois y cyfryngau," meddai gan roi ei bys efallai ar yr hyn sy’n wir.

"Ond ym 1985, yn Y Rhyl, daeth ei awr fawr o’r diwedd. Am ei gyfraniad aruthrol a’i lafur diflino yn hyfforddi ieuenctid Môn dros nifer fawr o flynyddoedd cafodd ei gyflwyno gyda Medal Syr Thomas Parry-Williams . . . Mae’n sicr na chafodd y fedal erioed berchennog mwy haeddiannol," meddai.

Yr un tinc o ganmoliaeth i’r "gwerinwr diwylliedig, dawnus" sydd yna yn holl gyfraniadau’r gyfrol ac fel sy’n anorfod bron mewn cyfrol o’r fath y mae yna gryn ailadrodd ac er nad yw hynny yn tynnu dim oddi ar gyfraniad diamheuol y gwrthrych rhaid dweud fod yna beryg i'r holl ategu barn lethu.

Rhannu cyfoeth

Serch hynny, dylai fod yn destun boddhad i bob un ohonom gael perthyn i genedl a berodd i werinwr difreintiedig a diaddysg nid yn unig ddiwyllio ei hun i’r graddau y gwnaeth ond a berodd iddo rannu cyfoeth y diwylliant hwnnw ag eraill.

Golygydd y gyfrol yw mab Edward Williams ei hun a’i gyfraaniad ef sy’n ei hagor. Mae’n cau pen y mwdwl gydag enghreifftiau o gyfansoddiadau ysgrifenedig ei dad.

Mi fyddwn i wedi hoffi nodyn bywgraffyddol byr am y gwahanol gyfranwyr ac mi fyddwn i hefyd, o safbwynt hwylustod, wedi hoffi gweld eu henwau ar ddechrau eu cyfraniad yn hytrach nag ar y diwedd.

Yr unig beth arall sydd i’w ddweud yw mai cyfrol sydd o fwyaf o ddiddordeb ym Môn ac ymhlith y rhai a brofodd ‘yr adnabyddiaeth’ yw hon gan ddeffro ynddynt fyrdd o atgofion gyda’i detholiad hael o luniau.

Y mae’r cyfraniadau yn rhy ail-adroddus i fod o gymaint diddordeb ymhlith eraill.

Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill?Ebostiwch
Wythnosau Blaenorol:
News image
Newyddion yr wythnosY llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod AwdurLlais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a BBC Cymru'r Byd






About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy