
 |  | Doniolwch Ffair Rhos
Dod o hyd i ambell i em.
Dydd Iau, Ionawr 24, 2002
| Chwedlau Nant Gors Ddu gan Wasg Gomer. £4.95.
 Adolygiad gan Gwyn Griffiths
Mae doniolwch geiriol annwyl i straeon Tomos a Marged W. J. Gruffydd.
Rhyw oglais chwareus gyda thinc o iaith Feiblaidd wrth ddisgrifio digwyddiadau pob dydd ar foelydd corsiog o gwmpas tyddyn Nant Gors Ddu. Ambell em fel, "… dyrchafodd mwg y fuddugoliaeth o’r ddisgwylfa i do’r sied wair."
Ymateb Tomos pan wel y "bregethwres" o’r de fyddai’n lambastio baco a chwrw yn smocio sigaret ar y slei.
Pobol yr ymylon, rhyw ardal heb fod yn annebyg iawn i fro Ffair Rhos. Dyna’r iaith a dyna’r bobol.
Ac er mai Chwedlau Nant Gors Ddu yw’r chweched gyfrol o helyntion yr hen gwpwl gwladaidd mae cyffyrddiad y cyn-Archdderwydd cyn sicred ag erioed.
Mae’r hen gymeriadau yma - Wil Soffi y dyn tacsi, Ianto’r Post yr undebwr mawr, Leisa Gors Fach a’r Ast Felen.
Trist na chawn ni ragor o hanes campau’r Ast Felen.
Ar un adeg yr oeddwn yn poeni am Tomos, hefyd. Pan yw Tomos yn wael iawn yn yr ysbyty mae’n cael yr hyn sy’n swnio’n debyg i’r hyn a elwir yn "out of body experience" pryd y daw wyneb yn wyneb a Phedr ei hun a phethau’n mynd hytrach yn dwym rhyngddyn nhw. "Y fi’n gweud celwydde?" meddai Pedr. "Ie, ti," mae Tomos yn ateb. "Fe wedodd Mr Jones y Gweinidog ma’ ti oedd y celwyddgi mwya’ o’r deuddeg. Wyt ti’n cofio’r cilog yn canu dair gwaith?"
’Nôl ddaeth Tomos - roedd e wedi mynd gerbon Pedr bum mlynedd cyn pryd. Hwyrach bod Nant Gors Ddu yn lle anghysbell a gwledig ond ’dyw hynny ddim yn golygu na ddaw profiadau mawr i’r trigolion.
Mae ganddyn nhw eu safonau a pharch. Mae hen Saeson digywilydd wedi dod i’r fro a phan mae un ohonyn nhw’n gofyn i Wil Soffi am gyflwr Tomos: "Has he kicked the bucket?"
Mae Wil yn ateb: "Look, love. They don’t kick the bucket in these parts. They just pass away gracefully."
Mae’r hen arferion yn dal yn fyw ac iach. Daw ‘Bilco’ - mab Sara Phebi a Stan o Gwm Aberdâr - am wyliau i Nant Gors Fach ac ennill y cwpan arian am adrodd dan 12. Tipyn o lwc, ond dyna fe roedd yn gwpan neis i’w roi yn y cwpwrdd gwydr gyda’r cwpanau enillwyd gan Capten y milgi. Ac os oedd apêl y Gymanfa Bwnc yn simsanu cafwyd adnewyddiad ac ysbrydoliaeth pan ddaeth Yr Athro Dolwar Powys-Jones, M.A, B.D, B.Litt, o’r coleg diwinyddol i holi’r pwnc.
Fel dwedodd Marged - "Ma fe’n B.E, B.D., M.E. a rhwbeth arall."
Hyfryd dychwelyd i gyrion Nant Gors Ddu - lle nad oes llawer wedi newid.
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill?Ebostiwch |  | 
|