
 |  | Plymio i'r gydwybod ddinesig
Dydi rhyddid ddim heb ei llyffetheiriau
Dydd Mercher, Rhagfyr 19, 2001
| Cadwyni Rhyddid gan Grahame Davies, Cyhoeddiadau Barddas. £5.50.
 Adolygiad gan Aneirin Karadog
Cefais fy siomi ar yr ochr orau o blymio i’r dyfnderoedd dinesig rhwng y cloriau hyn.
Dyma gyfrol o farddoniaeth sy’n ymylu ar ddeifioldeb ac sy’n llawn o ‘euogrwydd’ mewnol y meddwl dinesig yn ogystal â gwirioneddau am fywyd "ddeuddeng milltir i’r gogledd" yng nghymoedd de Cymru.
Ychwanegwch at hynny, ffraethineb yn gymysg â dawn dweud a doniolwch.
Bom o fardd Teg dweud fod Grahame Davies yn fom o fardd sy’n aros i ffrwydro ac ennill ei le ymysg pwysigion y byd barddonol.
Ta beth am hynny, ymlaen â ni!
Canolbwyntia’r gyfrol hon ar fywyd yng Nghaerdydd wedi’r refferendwm dros ddatganoli a’r newidiadau a ddaeth yn sgil hyn.
Dengys y bardd inni, fel yr awgryma teitl y gyfrol, fod yna lyffetheiriau am draed rhyddid hyd yn oed.
Yn y gerdd agoriadol, sy’n dwyn yr un teitl â’r gyfrol, crea’r bardd bortread o fywyd dinesig Cymro sy’n byw yng Nghaerdydd drwy gyfeirio at elfennau o fywyd yn y ddinas sydd erbyn hyn yn ystrydebau am ddinasyddion Caerdydd heddiw.
Yn wir am lawer Gellir dadlau fod Grahame Davies yn cyffredinoli - a bod hynny’n bechod anfaddeuol - ond, eto i gyd, anodd fyddai gwadu fod nifer o’r pethau yn y gerdd hon yn wir am lawer.
Prysuraf i ddweud, hefyd, na ddylai dinasyddion Cymraeg Caerdydd osgoi prynu’r gyfrol hon rhag cael eu lambastio gan Grahame Davies achos nid dyna mae’r bardd yn ei wneud.
Yn ogystal â chyfeirio at Gymry Caerdydd fel "hil y sbectol haul"( yn y gerdd, Rhyddid) dywed nifer o bethau eraill amdanynt yng ngherdd y teitl.
Yn y pennill canlynol, er enghraifft, rhaid cytuno fod yna ronyn o wirionedd am nifer ohonom ac y mae hefyd yn enghraifft dda o ffraethineb a doniolwch Grahame Davies gyda’r ffraethineb hwnnw yn deillio, y tro hwn, o chwarae gyda geiriau:
"Rwyt ti’n gyrru B.M.W; ‘rwyt ti’n teithio’r byd ar iót; ‘rwyt ti’n casglu lluniau Kyffin, sy’n costio kyffin lot; ond os ehedi ambell dro i siopau’r U.S.A. ni fentri ddeuddeng milltir ‘lan i Gymoedd llwm y de."
Y trydydd byd Ochr yn ochr â chyfeiriadau lawer at y cymoedd a lleoedd difreintiedig fel Stâd y Gurnos a Phen-rhys (sydd bellach bron yn wâg), mae aml i gyfeiriad at y trydydd byd hefyd ac at leiafrifoedd ethnig (sy’n creu nifer o gymunedau Caerdydd).
Dyma’r ‘cydwybod’ fel petai sydd gan y dinasyddion swanc.
Mae’r ffaith fod yna gymaint o gyfeiriadau at hil a lliw croen ac ati fel rhyw fath o euogrwydd sy’n plagio’r meddwl dinesig.
Dywed y bardd fod gan y dinasyddion hyn ffrindiau o blith lleiafrifoedd ethnig, fel na all neb eu galw’n hiliol ond bod rhai, er yn adnabod enwogion sy’n byw yn y ddinas, nad ydynt yn gwybod o ba dras y daw eu menyw glanhau.
Peth anodd yw cyfeirio at y trydydd byd heb or-symleiddio a gweld pethau’n ddu a gwyn, fel petai.
Mewn gwirionedd mae’n bwnc cymhleth sy’n galw am ymdriniaeth ddeallusol.
Llwydda Grahame Davies o drwch blewyn - gyda’i ddefnydd o ddychan yn enwedig - i ymdrin â’r pwnc mewn ffordd sydd ddim yn gwneud i bopeth ymddangos yn ddu a gwyn gan arbed ei hun rhag ymddangos yn naïf ac yn elfennol.
Tair Babie anorecsig a wnaed yn y Trydydd Byd, ac un ohonyn nhw’n ddu, yn brawf o’n heangfrydedd.
A chanfyddais innau fy hunan yn cytuno â llawer iawn o’i safbwyntiau a neges ei gerddi.
Protest yng Nghymru Er enghraifft, teimlaf yn bersonol fod llai o wmff ac ysbryd protest yn perthyn i’r Gymru newydd, o gymharu â’r degawdau a fu, ers dyfodiad y Cynulliad.
Gallai hynny fod am fod pobl yn gyffredinol hapusach eu byd ac yn gweld llai o angen am gicio dros y tresi.
Ymdrinnir â’r union bwnc hwn yn y soned, Rhy Hwyr.
Teimla’r bardd wacter ystyr bron, wedi iddo ymbaratoi am flynyddoedd "am Benyberth bersonol" a chael ei daflu i’r gell.
Gwêl nad yw ef yn arwr o gwbl ac i Gymru ymryddhau (o ddefnyddio’r term hwnnw yn llac) heb ei help ef.
Gan siarad â Chymru yn uniongyrchol yn ei gerdd, gofyn y bardd:
"Be’ wna’ i ’nawr, a minnau yn y wlad na thybiais fyth y gwelwn hi’n fy myw?"
Un englyn O ran crefft a mydr, mae pob cerdd - ar wahân i un - yn gerddi rhydd.
Mae un englyn digon derbyniol ar y testun ysgafn o gondoms (yr ysgafnder yn amrywio o gondom i gondom, wrth gwrs!).
Efallai y gwelwn y bardd yn ymhél ymhellach â cherdd dafod yn y dyfodol ond ar hyn o bryd mae’n disgleirio wrth ganu’n delynegol yn ogystal ag yn y mesur penrydd..
Mae ganddo afael sicr ar fesur y soned hefyd.
Cywrain i'r glust Ond fel pob bardd gwerth ei halen, mae Grahame Davies yn ymwybodol iawn o swn geiriau gyda sawl llinell gywrain-i’r-glust yn britho’r gyfrol.
Er enghraifft, ceir yn y gerdd Rhinwedd, (sy’n ymdrin â hiliaeth) dair llinell hudolus o ran sain a dwys o ran ystyr.
Unwaith eto, cyfeiria’r llinellau hyn at drafferthion yn y Trydydd Byd. "y llygaid llwglyd yn syllu i’r lens, y llwyni’n llosgi i ad-dalu’n llog, y ffoaduriaid yn ffoi rhag ein ffrwydron"
Mae’r gyfrol hon yn cynnwys hefyd ymdrechion anarobryn gan y bardd yng nghystadleuaeth y goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Y Golau yn y Gwyll (Eisteddfod Môn – 1999) a Rhyddid a sicrhaodd yr ail le i Grahame Davies yn eisteddfod Bro Ogwr, y tu ôl i’r prifardd Emyr Lewis.
Cyfle felly i’r anoracs eisteddfodol (heb enwi neb!) roi darn arall o’r jig-so ffugenwol-gyfrinachol yn ei le a rhoi wyneb i ambell i ffugenw yng nghystadlaethau’r gorffennol.
Ar sail y gyfrol hon rhagwelaf y bardd hwn - bydded yn y dyfodol agos neu yn y dyfodol pell - yn codi ar ganiad y corn gwlad a gwên haeddiannol ar ei wyneb dan ei goron.
Ewch yn awr i Holi Awdur
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn? Ebostiwch ni. |  | 
|