
 |  | Llond hosan i'r plant
Dewis o lyfrau plant ar gyfer y Nadolig
Dydd Mercher, Rhagfyr 12, 2001
| Adolygiadau gan Eleri Griffiths
Pleser oedd taro golwg dros rai o’r llyfrau plant newydd sydd allan erbyn y Dolig - a chefais gymorth Alaw, pedair oed, i roi barn llawer mwy perthnasol na f’un i!
Ceir dewis aruthrol o lyfrau hardd erbyn hyn i lenwi sachau Santa ac yr oedd yn fwynhad i’w darllen.
Nadolig Llawen Hipo Bach (Bettina Paterson addas. Elin Meek Gomer, £4.95). Llyfr clawr caled hynod o liwgar gyda llabedi i’w codi ar bob tudalen.
Mae Hipo bach a’i gyfeillion, Mali a Bobi, yn brysur yn paratoi at y Nadolig, yn siopa, dewis Coeden Nadolig, coginio a chanu carolau.
Ar ôl danfon cardiau, addurno’r goeden, chware yn yr eira mae’r diwrnod mawr yn cyrraedd a phawb yn cael sbort yn agor anrhegion!
Llyfr syml heb arlliw o grefydd ar ei gyfyl, addas i blant lan at bump oed.
Braf oedd gweld mwy o lyfrau yn ymddangos o’r gyfres Straeon Plant Bach gan Gwasg Carreg Gwalch. Bellach mae Y Forforwyn Fach, Pinocio, Sinderela a Jac a’r Goeden Ffa wedi cael ei crynhoi a’u talfyrru yn yr un modd ag a wnaethpwyd gyda Hugan Fach Goch, Y Tri Mochyn Bach; Pws Esgid Uchel ac Eira Wen.
Maent yn llyfrau bwrdd bach deniadol gyda’r storiau wedi eu hadrodd yn fyr a syml.
Rhaid eu llongyfarch ar y talfyriad o Pinocio - stori anodd iawn i’w chrynhoi!
Mae’r pris hefyd yn rhesymol, £2.95 y llyfr ac un o’r pethau a’m plesiodd oedd bod modd eu darllen mewn deng munud - delfrydol ar gyfer amser gwely! Addas i’r rhai dros ddwy neu dair oed.
Tipyn o newid cywair oedd llyfr Catrin a Guto Evans, Oli Olew - y diweddaraf yng nghyfres Llyfrau Llawen y Lolfa am £4.95.
Mae Oli druan yn cael bywyd diflas braidd mewn hen sied gyda llawer o hen offer eraill yn ffrindiau ac yn elynion iddo, fel Rhisiart Rhwd Drwg.
Cymeriad brawychus braidd yw’r hen Gwili Gwich am ei fod yn achosi i’w ffrindiau wichian mewn poen!
Felly, aiff Oli i ffwrdd i’r byd mawr tu allan i chwilio am gartref newydd a chael llond twll o ofn a sylweddoli bod ei ffrinidiau yn ofalus ohono wedi’r cwbl!
Lluniau dramatig ac effeithiol a gwerth oleiaf hanner awr o stori mewn Cymraeg graenus, addas i blant dros bump oed (oed darllen, wyth).
Mae Fi a Fy Nghorff (D MacKinnan, A Sieveking addas. Siân Lewis) yn llyfr ffeithiol i blant lan at chwech oed ac yn addas i’w ddarllen gyda’r rhai lleiaf hefyd gan ei fod yn llyfr rhyngweithiol gyda chyfarwyddiadau a chwestiynau ar bob tudalen i’r plant eu hateb a dysgu mwy am eu cyrff eu hunain.
Mae ffotograffau lliw bendigedig gyda delweddau hapus o blant o bob lliw a llun yn gwneud pethau gyda’u cyrff. £4.50 . Gomer.
Caneuon Clinc a Chlonc a Chlec - Falyri Jenkins £3.95.Lolfa.Bargen o lyfr yw’r casgliad hyfryd hwn o ddeunaw o ganeuon gwreiddiol ar destunau fel Jac Codi Baw, Ystlum Flewog, Storm, Lori Ludw, Morgrug a Sali Mali....
Mae’r caneuon yn rhai hawdd eu dilyn gyda thonau syml iawn sy’n ddi-drafferth i’w dysgu a cheir tipyn o ailadrodd cwpledi fel bod y rhai lleiaf yn gallu dysgu’r geiriau.
Nid oes angen gradd mewn cerddoriaeth i ddilyn y cyfeiliant ychwaith!
Byddai’r llyfr hwn yn ddelfrydol i gylchoedd meithrin, Ti a Fi a rhieni a phlant sy’n mwynhau canu gyda’u gilydd.
Owain ar y Mynydd ganMalachy Dolyle a Giles Green field addas. Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch) £4.50
Mae’r cyfuniad o stori fwyn ac arlunio dawnus yn fendigedig yn y llyfr hwn ac mi roeddwn i ac Alaw yn gytun mai dyma ein ffefryn o’r bwndel llyfrau Dolig a gawsom.
Mae’r stori am Owain yn perswadio ei daid i fynd ag ef i ben y mynydd, a’r antur sy’n dilyn yn llawn dirgelwch, hud a syndod.
Mae naws y llyfr yn afaelgar a gellir ymgolli’n llwyr yn y stori. Ceir portread byw ac annwyl o berthynas Owain a’i Daid a mae’r darluniau o olygfeydd dramatig y mynydd yn gyfarwydd i’r rhai sy’n adnabod mynyddoedd Cymru!
Erbyn y diwedd mae’r darllenydd yn ochneidio o flinder a rhyddhad ar ôl concro’r mynydd mawr a dychwelyd yn ddiogel!
Nadolig Cae Berllan ganHeather Amery a Stephen Cartwright addas. Emily Huws, Gomer, £5.95
Llyfr clawr caled codi llabed yw hwn i blant dros dair oed.
Mae’n olrhain hanes Mei, Mari a’r plant Cadi a Jac ar y fferm cyn Dolig.
Rhaid bwydo’r anifeiliaid, sgwennu llythyrau at Santa, addurno’r goeden a disgwyl am y diwrnod mawr.
Cânt hwyl a phleser wrth agor eu anrhegion i gyd a cheir lluniau Nadoligaidd traddodiadol o blant yn yr eira ac ati.
Llyfr ysgafn, lliwgar, hawdd ei ddilyn gyda’r chwilio am yr hwyaden ar bob tudalen yn bôs bach ychwanegol i blesio’r plant.
Oes gennych chi farn am lyfrau plant? Ebostiwch ni. |  | 
|