
 |  | Ar drywydd ysbrydion
Digwyddiadau rhyfedd mewn ty yng Nghymru
Dydd Iau, Rhagfyr 06, 2001
| Borley Cymru gan J. Towyn Jones. Cyfres y Gannwyll, golygydd, Lyn Ebenezer. Gwasg Carreg Gwalch. £3.99.
 Adolygiad gan Glyn Evans.
Rhaid cyfaddef nad oedd y teitl Borley Cymru yn cyfleu dim i mi ar yr olwg gyntaf.
Er, dylai gweld enw J. Towyn Jones ar y clawr awgrymu fod ganddo rywbeth i’w wneud ag ysbrydion, drychiolaethau a’r arallfydol.
Y mae’r gweinidog anghydffurfiol o Sir Benfro yn gasglwr deheuig straeon o’r fath.
Ty llawn ysbrydion Erbyn gweld, rheithordy yn Swydd Essex oedd Borley; yn cael ei adnabod fel y ty yn Lloegr gyda’r mwyaf o ysbrydion ynddo. "The most haunted house in England."
Dydio ddim ar ei draed erbyn hyn. Ond er iddo gael ei losgi’n ulw "ni ddiffoddodd ei enw drwg . . . a chred rhai fod tipyn mwy yn aros nag arogl mwg lle bu, sef lleian, medd llawer, nad ydyw o’r byd hwn."
Dyna, felly osod y cefndir. Yn lle, felly, y mae ty cyfatebol yng Nghymru?
Borley Cymru ydi Rheithordy hen eglwys ddiflanedig Paul yn Llanelli.
Digwyddiadau rhyfedd Agorwyd drysau’r eglwys fis Rhagfyr 1850 a bu’r oedfa olaf yng Ngorffennaf 1980.
"Yno," meddai J. Towyn Jones, "gerllaw’r allor ddrylliedig, halogedig, megis golosg poethoffrwm paganaidd, ymestynnai hen foncyffion duon talsyth nad oedd ond y mwyaf trwchus ohonynt wedi gallu gwrthsefyll tân a ysodd organ St Paul yn sgerbwd."
Rhwng y ddau ddyddiad , fodd bynnag, bu digwyddiadau rhyfedd ac od yn gysylltiedig a’r rheithordy mawreddog ger yr eglwys a denwyd yno yn ei ddydd un o ymchwilwyr blaenllaw y Gymdeithas Ymchwil Seicig, y Parchedig Alfred T. Fryer, y dywed J. Towyn Jones ei fod "yn ymholwr manwl, brwd a diflino".
Ychwanega iddo dibynnu’n llwyr ar gywirdeb adroddiadau Fryer wrth gywain yr hanes ar gyfer y gyfrol hon.
"Barn Fryer am y tystion oedd eu bod yn gwbl argyhoeddedig fod popeth a honnent wedi digwydd yn bendant, a buasent yn barod i wynebu unrhyw ymchwiliad yn eofn a hyderus," meddai.
Profiad gwraig y rheithior Adroddodd gwraig y rheithor, D. Morgan Jones, sut y cododd hi i fynd i’r gegin berfeddion un noson o aeaf yn 1894 a gweld wedi iddi ddychwelyd i fyny’r grisiau ei gwr yn ei disgwyl ar y landin.
Fodd bynnag, wedi ei gyfarch a mynd i’r llofft, yr oedd ei gwr yn dal i orwedd ynghwsg yn ei wely heb godi o gwbl yn ei habsenoldeb.
Dyna’r ddrychiolaeth gyntaf ond bu digwyddiadau rhyfeddol eraill hefyd gyda chloc yn cael ei droi’n ôl mewn un ystafell.
O ddrwg i waeth Yr oedd y lle yn ddychryn wrth i bethau fynd o ddrwg i waeth.
"Adlewyrchwyd yr aflonyddwch yn y Ficerdy ar ei ganfed gan anfodlonrwydd cynyddol y plwyfolion. Ymgasglai storm o gwmpas y ficer, a honno’n dduach na’i gasog, a chynhyrfwyd pwysigion sidêt a startshlyd i gorffwylltra gwynias. Corddai trobwll o emosiynau yno, ac mae hysteria felly yn beth hunanbarhaol," meddai Towyn Jones mewn arddull sy’n gymysgedd o’r pregethwrol a’r dramatig.
Cyfrol fer o ddim ond 79 tudalen yw hon gyda dyrnaid o luniau du a gwyn perthnasol yn y canol.
Ond mae’n stori ddiddorol er nad yw arddull yr awdur bob amser yn hwyluso ei dweud.
A thybed na fyddai'r llyfr wedi elwa o well teitl?
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn? Ebostiwch ni. |  | 
|