
 |  | Anifeiliad rhyfeddol a thy fel ffair
Anturiaethau gwyllt mewn tri llyfr cyffrous i blant
Dydd Iau, Tachwedd 22, 2001
| Un o Fil / Meinir Pierce Jones / Gomer Bympyti - Bymp, Ruth Morgan, addasiad Rhian Pierce Jones, Gomer Jini Jinjila, Emily Huws, Gomer
yr un
Adolygiad gan Catrin Gerallt
Os nad ych chi wedi prynu llyfrau Nadolig ar gyfer eich plant - brysiwch i gael y cyfrolau yma - mae anturiaethau godidog a gwyllt yn eich disgwyl!
Ci sy'n dipyn o gymeriad Un o Fil,
 Cewch lawer o hwyl wrth gyfarfod y ci rhyfeddol Pando - seren y gyfrol Un o Fil gan Meinir Pierce Jones.
Mae'r ci hwn yn dipyn o gymeriad yn helpu ei hun i sosej rôl a Choca Cola pan fo cefn ei feistr wedi ei droi a hefyd yn mwynhau pori yn nhudalennau'r cylchgrawn arbenigol "Helo Pero" yn ystod ei oriau hamdden!
Wedi i'w feistr, Mos, alw ar ffermwr cyfagos, mae Pando'n rhyfeddu pawb â'i allu i gorlannu defaid; mae'r disgrifiad byrlymus yn ddigon i godi pwl o chwerthin ar unrhyw ddarllenwr ifanc (neu hyn o ran hynny!), wrth i un ddafad geisio dianc:
" Trodd Pando fel cyrli wyrli a sgrialu ar eu hôl. Roedd y ddafad wedi dechrau rhedeg erbyn hyn a dwy neu dair arall wrth ei chwt. Hedfanodd Pando dros y clawdd ar eu holau. Doedd Harold erioed wedi gweld yr un ceffyl sioe yn neidio mor uchel!"
Wedi i Pando arddangos ei ddoniau athletaidd gyda'r defaid, heb sôn am yr hwyaid a'r cathod, mae'r ffermwr yn cynnig mil o bunnau amdano - ydi, mae e'n un o fil! Ond beth sydd bwysicaf - mil o bunnau neu gyfeillgarwch ffrind annwyl? Tipyn o ddilema i Mos sydd wedi diodde castiau'r ci ers amser - ci drygionus "sy'n bwyta dim byd ond y bwyd tun drutaf un!"- a dilema y bydd nifer o ddarllenwyr ifanc yn gallu uniaethu â hi!
Yn y diwedd wrth gwrs, does dim dewis - er bod gwraig Mos a'i ferch am gael criws yn y Bahamas a jacuzzi newydd i'r ty, mae Mos yn gwneud penderfyniad doeth ac ystyrlon;
"Wna i mo dy werthu di, Pando......am grws i Llanbidinodyn, na zwjaci, na fan ail law newydd.......Gwell ci ffyddlon na ffal-di-rals!"
Llyfr yng nghyfres Llyfrau Lloerig Gwasg Gomer yw Un o Fil, wedi ei anelu at blant sy'n dechrau cael blas ar ddarllen; mae'r stori yn fyrlymus, a'r arddull fywiog yn sicr o apelio. Mae'r print yn fras a'r penawdau yn fyr - ac eto mae yma hiwmor soffistigedig a iaith goeth fydd yn ymestyn y darllenwr.
Mae lluniau hyfryd Jac Jones yn crynhoi hiwmor y stori i'r dim - ac mae'n siwr gen i y bydd y stori afaelgar hon yn tanio dychymyg nid yn unig darllenwyr brwd, ond hefyd plant sy'n llai parod i ddarllen.
Helyntion mewn car bympar Bympyti - Bymp
 Wedi cael cymaint o hwyl gydag Un o Fil go brin y dychmygais y byddai'r llyfr nesaf ar fy rhestr yn plesio gymaint. Ond o fewn ychydig funudau, ro'n i'n troi tudalennau Bympyti Bymp yn awchus!
Fe fydd darllenwyr ifanc wrth eu bodd â theulu Lowri - ac yn arbennig gyda'i hewythr, Yncl Wil oedd yn arfer gweithio yn ffair y Bari ac yn byw mewn ty sy'n "debycach i ffair bob dydd"
"Mae o wedi tynnu'r grisiau ac wedi gosod heltyr-sgeltyr yn ei le........Mae o'n cysgu mewn cwch siglo o'r ffair ac yn cadw'i ddillad mewn hen arch oedd yn arfer bod yn rhan o Dy'r Bwganod"!
 pethau o ddrwg i waeth wedi i Yncl Wil gael gafael ar ddau hen gar bympar. Wrth i Lowri helpu ei hewythr i'w trwsio, mae ei theimladau cas am orfod gwisgo ffrog binc gandifflos i briodas ei chwaer yn ei chorddi; rhywsut mae'r teimladau yma'n cael eu trosglwyddo i'r car y mae hi'n ei baentio, ac fe ddaw'r Cythraul Coch i fodolaeth - cerbyd dieflig sy'n gwibio drwy'r dre ac yn torri drwy ffenest siop "Pleser Priodi" er mwyn dinistrio'r ffrog unwaith ac am byth!
Mae antur Lowri a'i hewyrth wrth ddilyn Coblyn Coch ynghanol nos yn llawn cynnwrf - ac mae 'na gyffyrddiadau doniol tu hwnt. Mae'r disgrifiad o Yncl Wil yn denu Coblyn Coch fel matador yn fythgofiadwy, gydag Yncl Wil yn chwifio'i got yn yr awyr ac yn gweiddi "Toro! Toro!" cyn rhwydo'r car anystywallt mewn gôl bêl-droed!
Fel Un o Fil mae Bympyti Bymp yn un o Lyfrau Lloerig Gwasg Gomer ac yn sicr o ddal diddordeb unrhyw blentyn sydd wedi dechrau cael blas ar lyfrau.
Addasiad yw hwn gan Rhian Pierce Jones o lyfr Saesneg Ruth Morgan - rhaid dweud fod y syniad gwreiddiol yn hynod glyfar, ond mae'r addasiad hefyd yn llawn hiwmor - a'r stori'n datblygu gyda'r un cyffro ac ynni â ras y ceir bympar eu hunain.
Troeon trwstan wrth achub cwningen Jini Jinjila
 Fe fydd llyfr cyfareddol Emily Huws, Jini Jinjila, yn apelio at blant sydd wedi datblygu yn ddarllenwyr mwy profiadol. Mae hwn yn llyfr tipyn mwy swmpus ac ynddo elfennau tyner, doniol a chyffrous.
O'r dechrau, mae'r nofel yn cydio, gyda disgrifiad byw o Jini'r Jinjila, druan, yn cael ei dal trwy ddamwain mewn blwch pacio. O hyn ymlaen, mae'r tensiwn yn cynyddu wrth i lori gludo'r gwningen fach i ganolfan ailgylchu;
"Dyrnai ei chalon fach pit-pat-pat-pat-PAT mewn ofn. Gwichiai'n uchel mewn arswyd o hyd. Doedd dim byd tebyg i hyn wedi digwydd iddi yn ystod ei bywyd. Ddim erioed."
Prif ffocws y llyfr yw ymdrech y tri phlentyn, Aaron, Steph a Zoe i'w chael hi yn ôl yn saff - ond mae sawl tro trwstan yn tarfu ar eu hymdrechion: ymgais Dad i ffitio cegin newydd cyn i'w Mam gyrraedd adre, cywion bach yn y llofft y mae'n rhaid eu cuddio wrth eu tad - mae'r cyfan bron a mynd yn drech na Steph druan:
"Dwi'n teimlo fel sgrechian! Cyfrinach Dad! Cyfrinach Mam! Jini ar goll.......a chywion bach annisgwyl! Mae fy nerfau i'n rhacs! Rhacs jibidêrs!"
Yn y diwedd wrth gwrs, mae'r holl helyntion yn cael eu datrys - a Jini'n cael ffrind newydd, mochyn cwta o'r enw Wilff, yn gwmni!
Mae'r stori, sy'n cael ei hadrodd gyda chynildeb a hiwmor, yn gampwaith. Fe fydd yn rhoi gwên ar wyneb unrhyw ddarllenwr ifanc sy'n hoff o anifeiliaid - efallai y caiff eu rhieni hefyd orig ddiddan yn dilyn hynt a helynt y cymeriadau byw yma mewn llyfr sydd wedi llwyddo i ddal naws a chyfaredd byd pobl ifanc.
Oes gennych chi farn am y llyfrau hyn? Ebostiwch ni.
|  | 
|