
 |  | O'r Tuduriaid i'r rhyngrwyd
Cyfrol barchus a diddorol yn adrodd hanes y Cymry yn Llundain.
Dydd Iau, Tachwedd 22, 2001
| The Welsh in London: 1500 - 2000 cyhoeddiad ar y cyd gan Wasg Prifysgol Cymru ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, pris £20 (clawr caled), £14.99 (clawr meddal).

Adolygiad Gwyn Griffiths
Er gwaetha'r astudiaethau a'r diddordeb yn y grwpiau ethnig a ymsefydlodd yn Llundain yn ystod yr ugeinfed ganrif ni roddwyd fawr o sylw i'r grwp ethnig hynaf i gyd a ddaeth i'r ddinas ac a fu'n byw ynddi - y Cymry.
Ni wn faint o sylw a rydd y sefydliadau Saesneg i The Welsh in London: 1500 - 2000 a olygwyd - ac a 'sgrifennwyd gan fwyaf - gan Emrys Jones. Yn sicr mae'n haeddu eu sylw. Ond i'r Cymry y mae'n gyfrol ddifyr, darllenadwy, er ei hysgolheictod.
Bellach dywedir mai 80,000 o boblogaeth Llundain a aned yng Nghymru - sy'n nifer bychan o'i gymharu â'r niferoedd o India'r Gorllewin, India ac Affrica.
Ysgrifennodd R. T. Jenkins hanes Cymdeithas y Cymmrodorion a'r Gwyneddigion a Chymdeithasau'r Cymreigyddion rhwng 1751 a 1951. A dyna'r unig waith cyffelyb i'r gyfrol hon a gawsom, heblaw am draethawd buddugol Bob Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1947 nas cyhoeddwyd.
Ymdoddi i'r gymdeithas Roedd y Cymry'n ymdoddi i'r gymdeithas, nid oedd eu harwahanrwydd yn amlwg, ac eto - bron yn ddirgel - roedden nhw'n cynnal eu harwahanrwydd. Rhai ohonyn nhw'n parhau'n Gymry drwy sawl cenhedlaeth.
Dyna Syr John Cecil-Williams, fu'n Ysgrifennydd y Cymmrodorion, oedd yn Gymro Cymraeg o'r drydedd genhedlaeth yn Llundain, ei Gymreictod wedi ei gynnal ar yr aelwyd, y capel ac ar ymweliadau â bro ei gyndadau yng Ngherrigydrudion.
Mae'r gyfrol yn cychwyn gyda phennod am y cyfnod Tuduraidd pan ddaeth nifer sylweddol o Gymry i Lundain i Lys Harri VII.
Cyfnod lliwgar oedd oes y porthmyn a'r merched, "merched y gerddi", oedd yn dod gyda nhw i weithio yn y gerddi llysiau o gwmpas Llundain mewn cyfnodau o dlodi mawr yn Sir Aberteifi. Nodir fod llawer ohonyn nhw o ardal Tregaron.
Pobol yn mynd a dwad Pobol yn mynd a dwad oedd y rheini fel llawer o'r Cymry proffesiynol, hefyd, y cyfreithwyr a'r meddygon a'r gwleidyddion a arferent ddod i Lundain.
Yn dilyn traddodiad y porthmyn daeth y siopwyr, siopau dillad a siopau bach gyda "wâc la'th" yn gysylltiedig â nhw. Mae yma ambell jôc dda - amheuthun mewn cyfrol ysgolheigaidd.
Dyna'r cyfeiriad at Hugh Myddleton, â'i wreiddiau yn Nyffryn Clwyd, yn dod â dwr glân i bobol Llundain a'r Cardis yn dod wedyn a rhoi ychydig o laeth arno!
Mae yma lwyth o wybodaeth ddiddorol, pwyntiau bach sy'n cosi chwilfrydedd. Dyna Ysgol Elusennol Gymreig Clerkenwell Green - Llyfrgell Karl Marx bellach - oedd yn derbyn plant i dad neu fam a aned "yng Nghymru, Mynwy neu ym mhlwyfi Croesoswallt, Selatyn neu Lanymynach yn Sir Amwythig". Mae hyn yn rhoi syniad go dda o'r ffin ieithyddol yn 1717.
Gwlad yn llifeirio o laeth Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd Llundain yn cael ei gweld fel gwlad yn llifeirio o laeth - os nad o fêl.
Daeth y gwerthwyr llaeth yn amlwg ym mywyd pob dydd Llundain ac yn asgwrn cefn y capeli Cymraeg niferus. Diddorol i flaenoriaid Jewin unwaith fygwth gwrthod bedyddio plant y gwerthwyr llaeth am fod eu rhieni'n gweithio ar y Sul!
O blith y gwerthwyr llaeth y daeth ambell Gymro a fachodd gyfle i ehangu i borfeydd eraill a gwneud ffortiwn. Un ohonyn nhw oedd y miliwnydd Syr David James, yn wreiddiol o Bontrhydfendigaid, a ehangodd i fyd y sinemâu.
Cyfeirir at Evan Evans o Langeitho a sefydlodd gwmni bysus ac a fu'n faer St Pancreas. Yr wyf bron iawn yn siwr, er na ddywedir hynny yn y llyfr, mai ef oedd y cyntaf i drefnu teithiau i dwristiaid o gwmpas Llundain.
Esgus am sgwrs yn y Gymraeg Rwy'n cofio ewythr yn mynd â mi i'w garej ar fore Sadwrn ddechrau'r 60au a chyfarfod yr hen batriarch yn ei het silc a'i got â chwt ac wrth ei fodd yn cael esgus am sgwrs yn Gymraeg. Daeth i Lundain yn fachgen ifanc prin iawn ei Saesneg.
Ceir yn y gyfrol gyfeiriad difyr at hysbyseb ganddo yn Y Ddolen yn 1933 yn cynnig taith mewn awyren o Lundain i sioe Llangeitho. Pris £5 gan gynnwys pryd o fwyd!
Mewn oes pan fo cyhuddiadau o hiliaeth yn gyffredin iawn, yr oedd y Cymry yn Llundain a'r Saeson yn ddigon cyfeillgar, er gwaethaf ambell gyfeiriad dilornus oddi ar lwyfan y theatrau.
Y Cymry'n dringo i'r swyddi brasaf Daeth gwrth-Gymreictod i'r brig yng nghyfnod Lloyd George gyda chyfrol T. W. H. Crosland Taffy was a Welshman. Honnai y byddai'r Cymry'n dringo i'r swyddi brasaf ar gorn y Saeson.
Yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel llifodd y Cymry i Lundain yng nghyfnod y dirwasgiad a gwelwyd llif arall wedi'r Ail Ryfel pan heidiodd pobl ifanc yn eu degau o filoedd i fod yn athrawon yn Llundain. Heb sôn am gantorion - dyna'r adeg y llysenwyd Sadler's Wells yn Sadler's Welsh.
Ceir cyfraniad gan Hafina Clwyd sy'n sôn am y cyfnod yma ac am lenorion fel Caradog Prichard, Gwenlyn Parry a Rhydderch Jones.
Mae'n gyfrol sy'n ein tywys o Oes y Tuduriaid i oes SWS a chysylltiadau rhyngrwyd, o Evan Evans y Prydydd Hir i Evan Evans Tours.
Ysgrifennwyd y rhan helaethaf o'r gyfrol gan yr Athro Emeritws Emrys Jones, cyn-Athro Daearyddiaeth y London School of Economics a Llywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.
Cyfraniadau swmpus O blith y gweddill ceir cyfraniadau swmpus iawn gan W. P. Griffith ar gyfnod y Tuduriaid a Rhidian Griffiths - pennod ardderchog iawn - ar gapeli Cymraeg Llundain. Bu'r capeli'n llawer mwy na mannau i grefydda ynddyn nhw.
Bellach, arafodd y llif i Lundain. Daeth Caerdydd yn dynfa i'r ifanc. Peidiodd Llundain â bod yn gynheiliad cynifer o sefydliadau Cymreig.
Un arwydd o'r dirywiad yw'r modd y collodd Clwb Rygbi y Cymry yn Llundain lawer o'i hen fri. Yn 1971 yr oedd saith o chwaraewyr y clwb ar daith Y Llewod enwocaf i gyd, gan gynnwys y capten John Dawes.
Bellach pan yw chwaraewr rygbi o Gymro yn cyrraedd gorsaf Paddington mae'n debycach o fod ar ei ffordd i ymuno â'r Saracens, Wasps neu'r Harlequins na'r Cymry yn Llundain.
Osgoi cyfeirio at ferched lliwgar Llwyddwyd i osgoi cyfeirio at ambell ferch "liwgar" gyda chysylltiadau Cymreig - Nell Gwyn, Mary Davies a Lucy Walter. Y tair yn gariadon i Charles II.
Parchus ac ysgolheigaidd neu beidio, dyma gyfrol neilltuol o ddifyr a diddorol.
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn? Ebostiwch ni.
|  | 
|