
 |  | Barddoniaeth emosiynol a chyfoes
Cagliad cyntaf y bardd a'r dramodydd Patrick Jones.
Dydd Iau, Tachwedd 1, 2001
| Fuse. Casgliad o waith Patrick Jones.
 Adolygiad Lewis Roderick
Dwi'n cofio'r eiliad yn berffaith. Mae'n hollol glir yn fy mhen.
Mis Mehefin, 1999, diwrnod agor ein Cynulliad Cenedlaethol. O flaen torf o filoedd, a chynulleidfa o dros filiwn ar y teledu, cerddodd Ioan Gruffudd, Mathew Rhys a chriw o actorion ifanc Cymraeg eraill ar lwyfan yng nghanol Bae Caerdydd ac i gyfeiliant aflonydd y Manic Street Preachers, gweiddi: 'We are, we are, the guerilla tapestry', geiriau bythgofiadwy'r bardd Patrick Jones.
Distawrwydd llwyr Dwi'n cofio'r distawrwydd llwyr ar ôl iddynt orffen, fel petai pob unigolyn yn y gynulleidfa yn aros i rywun arall dorri'r tawelwch. Mor gyfareddol oedd yr amrantiad.
I'r mwyafrif, hwn oedd eu profiad cyntaf o waith Patrick Jones, dyn sydd wedi treulio rhan fawr o'i fywyd yn ysgrifennu barddoniaeth i ni'r Cymry cyfoes.
Nid barddoniaeth sy'n deyrnged i brydferthwch natur, neu'n atgof o ryw hen ffermdy, ond barddoniaeth sydd â'r nerth i sefydlu ei hun yng nghanol ymwybyddiaeth pobl 'real'.
Pobl real sydd yn cael eu heffeithio gan gancr a diweithdra, Kosovo a chyffuriau.
Hiraeth: land of my father what have we done to you
Fuse yw'r casgliad cyntaf o waith Patrick Jones. Dyma ddetholiad o'i farddoniaeth, a'r tro cyntaf i'w ddwy ddrama, Everything Must Go ac Unprotected Sex ymddangos yn yr un llyfr.
Gwaith trawiadol Pan berfformiwyd y ddwy ddrama, cyfeiriodd nifer at ei bwysigrwydd ac mewn un adolygiad dywedwyd: 'mae gwaith Patrick Jones yn ddigon trawiadol i allu gwneud i'r theatr Gymraeg yr hyn a wnaeth y Manics a Catatonia i gerddoriaeth.'
Mae hyn yn ddigon gwir achos mae gan Jones ddawn i siarad â ni.
Ond hefyd, mae'n treiddio i'r isymwybod. Er bod ei waith ar adegau yn anodd gyda'i ddelweddau arswydus ni all neb wadu nad yw gwaith Jones yn ffyddlon i'r byd cyfoes.
Dangos ei emosiynau Does dim ofn ar Patrick Jones i ddangos ei emosiynau gan arddangos ei deimladau mwyaf personol dro ar ôl tro. Diferion o emosiwn sydd â'r angerdd i ail-anheddu'r hunan yng nghanol enaid y darllenwr.
Mae gan Patrick Jones y gallu i drefnu ei fyd a thrwy hynny wneud synnwyr o'n byd ni.
Fel cyflwyniad i waith Patrick Jones, does dim byd yn well na'r gyfrol hon. Casgliad o dros 40 o'i gerddi pwysicaf, a dwy ddrama a fydd, mae'n siwr, yn cael eu hystyried fel linchpin dramâu Cymraeg.
Fuse yw'r llawlyfr i'r byd anhrefnus.
|  | 
|