
 |  | Drych o fywyd Cymry America
Hanes papur newydd hynaf y Cymry yn yr Unol Daleithiau
Dydd Iau, Tachwedd 8, 2001
| Welsh Reflections - Y Drych & America 1851-2001 gan Aled a Bill Jones. Gomer. £14.95.
 Adolygiad gan Gwyn Griffiths
Mae Welsh Reflections, hanes y papur newydd, Y Drych sy’n newyddiadur hynaf y Cymry yng Ngogledd America - gan yr haneswyr Aled Jones a Bill Jones, yn dweud stori gyffrous, ddifyr a gwerthfawr.
Ymddangosodd y papur gyntaf ar Ionawr 2, 1851 ac eleni yr oedd yn dathlu 150 mlynedd di-dor.
Ei ddyfodol mewn peryg Trist clywed wedyn, ac yntau wedi croesawu canrif a mileniwm newydd, bod ei ddyfodol yn ansicr ar hyn o bryd.
Mor ansicr, nes bod amheuaeth a wêl y flwyddyn 2002.
Yr arwyddion o’r Unol Daleithiau yw fod y papur ar werth ac os na cheir prynwr rhwng hyn a diwedd y flwyddyn na welwn rifyn ar ôl mis Rhagfyr.
Buasai hynny’n ddiweddglo trist i gyfnod a chofnod werthfawr yn hanes y Cymry yn yr Unol Daleithiau.
Mae hanes y papur yn adlewyrchiad o’r newid yn natur y Cymry, a phwrpas y papur wrth geisio adlewyrchu a bodloni’r gymuned sylweddol, gwasgaredig ac eang sydd â’i gwreiddiau yn yr "hen wlad".
Popeth yn Gymraeg i ddechrau Am yn hir bu’n bapur cyfangwbl Gymraeg - wedi’r Ail Ryfel Byd y troes yn gyfangwbl i’r Saesneg.
Am ddegawdau, safai ysgwydd wrth ysgwydd â Baner ac Amserau Cymru Thomas Gee fel y newyddiaduron Cymraeg uchaf eu parch.
Yn y dyddiau cynnar ei bwrpas oedd helpu’r Cymry Cymraeg i ymsefydlu yn y byd newydd.
Bu cynnydd enfawr yn nifer y Cymry aeth i’r Unol Daleithiau yn y blynyddoedd rhwng 1850 ac 1890 - llawer ohonyn nhw wedi arfer darllen Cymraeg, papurau cenedlaethol fel Baner ac Amserau Cymru, papurau enwadol fel Y Goleuad, a phapurau lleol mewn ardal ddiwydiannol fel Tarian Y Gweithiwr yn Aberdâr.
Manteisiodd Y Drych ar y llif hwnnw o Gymreictod.
Hysbysebu am wraig Nodir yn y gyfrol fod yn agos i 116,000 o siaradwyr Cymraeg yn yr Unol Daleithiau yn 1872.
Mae yn y gyfrol nifer fawr o ddyfyniadau difyr - nodweddiadol Gymreig - o’r papur.
Stori am George T. Matthews, gwr tlawd o Grughywel a ddaeth yn gyfoethog trwy werthu te yn yr America - un ohonyn nhw oedd Te’r Brenin.
Bu’n hysbysebu’n ddi-fwlch yn Y Drych rhwng 1873 a 1932 a dau arwydd o Gymro da, yn ôl Matthews, oedd ei fod "Yn yfed te’r Brenin ac yn darllen Y Drych."
Mewn teyrngedau i’r ymadawedig, medd awduron Welsh Reflections, cafwyd cyfeiriadau cyson bod hwn a hwn yn ddarllenydd cyson o’r Beibl ac o’r Drych!
Nid anarferol ’chwaith yn y dyddiau cynnar fyddai darllen hysbyseb fel: "Eisiau Gwraig - Dymunaf agor gohebiaeth a merch ieuanc neu gwraig weddw ieuanc; dim gwrthwynebiad fod ganddi un plentyn ieuanc. Rhaid iddi fod o gymeriad da ac yn proffesu crefydd. Y bwriad yw gwneyd dau yn un i gario yn mlaen ffarm yn y Gorllewin, a gwneyd cartref yn gysur. Dim twyll na chwareu."
Yr oedd yn bapur am ddegawdau lawer a adlewyrchai ddiddordebau eang. Cafwyd erthyglau taith - cyfres dan y teitl Dwywaith o Amgylch y Byd gan wr o’r enw William O. Thomas yn 1882.
Math anarferol iawn o newyddiaduraeth mewn papurau Cymraeg yn y cyfnod hwnnw.
Diddorol, hefyd, fel y byddai golygyddion a newyddiadurwyr yng Nghymru yn codi straeon o’r Drych, o ddyddiau Gwilym Hiraethog hyd E. Morgan Humphreys.
Byddai’r Drych, yntau, yn ei dro, yn codi straeon o bapurau Cymraeg yng Nghymru.
Roedd yn dda iawn am fachu’r agwedd Gymreig o stori - dod o hyd i Gymry mewn trychinebau. Y math o beth mae BBC Radio Cymru’n dda iawn am ei wneud y dyddiau hyn.
Rhifynnau ar goll Yn anffodus o safbwynt yr awduron, ni lwyddwyd i ganfod copi o bob rhifyn a argraffwyd o’r papur.
Mae amryw resymau am hyn - nid oedd papur ar gyfer grwp ethnig yn America o ddiddordeb mawr i lyfrgelloedd America. Nac ychwaith i lyfrgelloedd Prydeinig.
Bu tân yn swyddfa’r papur ar Ragfyr 12, 1924. Heblaw’r golled fawr mewn offer ac adnoddau, collwyd holl ôl-rifynnau’r papur a chollwyd deunydd amhrisiadwy i ymchwilwyr am fywyd y Cymry yn America.
Diflannodd rhifynnau cyfnod y Rhyfel Cartref a fuasai wedi bod yn ddiddorol tu hwnt.
Yn erbyn caethwasiaeth a Phatagonia Gweriniaethol oedd gwleidyddiaeth y papur a gwrthwynebai gaethwasiaeth yn ffyrnig.
Bu ffrae hir rhwng y papur a Samuel Roberts (SR) oedd am sefydlu gwladfa Gymreig yn Tennessee.
Roedd Y Drych yn gwrthwynebu Gwladfa Patagonia, hefyd, ac un o ystrywiau’r papur i geisio cadw’r Cymry rhag ymfudo yno oedd stori gyfres Y Carcharor ym Mhatagonia a gyhoeddwyd yn y blynyddoedd 1856-57 - ymdrech amlwg i godi braw ar unrhyw Gymry oedd yn ystyried mynd yno i fyw.
Roedd gan berchnogion Y Drych eu cwys eu hunain ac am wladychu rhannau mwy gogleddol o’r Unol Daleithiau a chyhuddid SR - ar gam - o fod yn bleidiol i gaethwasiaeth.
Roedd hefyd yn heddychwr ac yn gwrthwynebu’r Rhyfel Cartref, tra bo’r Drych yn bleidiol i achos y Gogledd.
Bu’r ffrae honno’n berwi am flynyddoedd gan ysgogi cyfrolau o eiriau wrth i SR amddiffyn ei safbwynt ac i’r Drych geisio cyfiawnhau ei safbwynt yntau.
Fel y gellid disgwyl, hwyrach, yr oedd yn y papur lawer o gerddi a straeon cyfres, yn ôl yr awduron mae yma faes i’w gloddio.
Llawer o Jonesiaid Pwyntiau bach gogleisiol, wedyn, fel y nifer fawr o Jonesiaid fu’n golygu neu’n berchen y papur. Bu nifer dda o ferched hefyd yng nghadair y golygydd.
Yn y cyfnod presennol fe’i gwelir fel papur sy’n rhoi modd i Americaniaid ddal rhyw fath o afael yn eu gwreiddiau a chysylltiad â’r "hen wlad".
Sonnir yn y gyfrol am ddadlau ynglyn â phwysigrwydd yr iaith - dadl oedd yn mynd rhagddi yn y Gymraeg yng ngholofnau’r papur. Rhai yn cymryd yr agwedd iddynt fynd i America i achub eu hunain, nid yr iaith!
A all rhywun ystyried ei hun yn Gymro os nad yw’n siarad yr iaith, holir. Datganiad y cafwyd adlais honno yng Nghymru’n ddiweddar.
Mae’r gyfrol hon gan yr Athro Aled Jones a’r Dr Bill Jones yn ddifyr a phwysig. Stori ramantus ac am frwydro cyson. Mae’r papur nawr yn wynebu brwydr eto.
Bydd yn drist os daw’r papur i ben ym mlwyddyn dathlu ei canrif a hanner, a blwyddyn cyhoeddi’r gyfrol ardderchog hon yn hanes y papur.
Erthygl arall am Y Drych
|  | 
|