
 |  | Cadeirio Mónica ym Mhatagonia
Cyhoeddi cerdd Cadair y Wladfa yn Llais Llên
Dydd Iau, Hydref 25, 2001
| Fel ag yng Nghymru ychydig fisoedd yn ôl merch oedd bardd cadeiriol Eisteddfod y Wladfa ym Mhatagonia eleni.
Ond er nad ydi gweld merch yn cael ei chadeirio yn beth anghyffredin yn y Wladfa dyma’r tro cyntaf i Mónica Jones de Jones gael yr anrhydedd.
Yn ferch o’r Wladfa treuliodd Monica gyfnod yn byw yng Nghymru ac y mae’n briod â brodor o Ddyffryn Conwy, Gwyn Jones, sydd, gyda Mónica, yn cadw Gwesty Tywi ar Stryd Michael D. Jones yn y Gaiman.
Y mae hi’n ddisgynnydd o’r gwladfawyr cynnar.
Y mae gan Monica ferch yn ei harddegau, Geraldine, sydd hefyd yn barddoni, a chanddi hi a Gwyn fab pedair oed, Macsen, sy’n cael ei fagu yn siarad Cymraeg.
Cerdd fer yn adlewyrchu menter herfeiddiol yr arloeswyr cynnar yw ‘r un a enillodd y Gadair i Mónica ac yn arwydd o’i hymlyniad angerddol hi i’w gwreiddiau Cymreig.
Yr oedd dathlu nid yn unig yn y Gaiman yn dilyn buddugoliaeth Monica yn Eisteddfod y Wladfa dros y Sul ond yng Nghymru hefyd gan fod nifer o ymwelwyr â’r Wladfa wedi aros yng Ngwesty Tywi.
Yn wir, ar furiau’r gwesty y mae cerddi gan Twm Morys ac Iwan Llwyd.
Dyma’r gerdd fuddugol:
Breuddwydion Rhyddid Cyffro yn y mynyddoedd.
Distawrwydd crynedig yn yr anialwch. A llais o'r môr yn uno breuddwydion rhyddid.
Ceffylau yn carlamu i Fod Iwan.* Atsain y copaon yn rhagfynegi'r ffarwél, yn llifo`n nant o ddagrau i lenwi'r llynnoedd.
Yn disgwyl - llais Camwy yn ymddolennu'r wyrth.
Dirnad y tafodau dieithr mae hen greigiau'r bwthyn. Ffárwel i leisiau'r rhieni, a breuddwyd y dyfodol dilyffethair a chynhaeaf yr hau yn llenwi'r gân â gobaith. A suo canu'r mamau yn ffarwelio am byth â'u hannwyl blant.
Dwylo yn wylo gweddïo bloeddio canmol cysuro..
Fel colomennod mewn hediad dirgel; cryfder yr enaid yn codi'r gobaith a llais Abraham** yn anialwch y paith.
Dyrnaid o'r hil Geltaidd yn glanio yng ngwlad yr addewid!
*Bod Iwan:Cartref y Parchedig Michael D. Jones (Arweinydd y Wladfa), yn y Bala. ** Abraham Mathews oedd un o bregethwr cyntaf y Gwladfawyr.
|  | 
|