
 |  | Popeth yn flewog neu'n sleimi
Cyfrol o gerddi boncyrs o brysur i blant gan Mihangel Morgan
Dydd Iau, Hydref 25, 2001
| Creision Hud gan Mihangel Morgan. Y Lolfa. £3.95.
 Adolygiad Elen Rhys
Ry’m yn dod i ddisgwyl yr annisgwyl yng ngwaith Mihangel Morgan a dyw’r gyfrol hon ddim yn eithriad.
Dychymyg byw a ffraethineb Er nad ydym yn gyfarwydd â Mihangel fel awdur i blant, mae ei ddychymyg byw a’i ffraethineb ffres yn ddelfrydol ar gyfer y cyfrwng hwn.
Mae byd y Creision Hud yn un gwallgo a gwirion.
Mae popeth yn odli a phob dim un ai’n flewog neu’n sleimi. Dyma gyfrol llawn o luniau digri, geiriau rhyfedd a chreaduriaid anhygoel. Gwyliwch eich clustiau, dyma un ar bymtheg o gerddi llawn SNAP, CRACL a PHOP!
Wedi colli’ch hosan, eich allweddi neu’r ‘betingalw’ sy’n newid rhaglenni? Gwyliwch ‘ych hun - y Fflwmbiau sydd ar fai. Pwy? Wel, creaduriaid bach blewog, ysgafndroed a chwim sy’n cymryd bob dim sy’n mynd ar goll!
‘ Fflwmiau bach sy’n b’yta’n sanau Yn dwyn un o bob maneg Ac yn cuddio stampiau......
Byw lan lofft A phwy sy’n byw yn eich atig lan lofft? Neb llai na Hwmffra’r Hwmffragwmffa. Creadur chwe choes, gyda llais gwichlyd a dwylo fel toes.
Mae Hwmffra’r Hwmffragwmffa Yn byw lan lofft Mae’i olwg yn wyllt Ond mae’i flew yn sofft..... ...Ac fel pob Hwmffragwmffa Nid yw Hwmffra’n fawr Ffordd lan mae’n ddewr Ac yn drist wrth ddod lawr.
Oes, mae gan pob Hwmffragwmffa ffrindiau - y Crilion ( cochion, cneifion, creifion, crop) , yr Ychafil ( nid yw’n licio’r t’wllwch, nid yw’n licio moch, nid yw’n licio golau dydd na’r lliwiau glas a choch) , y Crafangafangeiddiwr (bwystfil eitha’ sionc sy’n bwyta bechgyn ysgol ac yn cerdded linc-di-lonc) , y Gwibwe Ofnus (sy’n gorwedd yn ei wely ym meddwl am bopeth gall fynd o’i le), y Chwyrngrilyn ( di-drwyn ond chwyrnwr heb ei ail), y Chwilbat a llawer mwy.
Dewis y chwilbat Ond petawn i yn gorfod bod yn ffrind i un o’r gwallgoenfilod yma, b’aswn i a fy nith fach yn ddi-os yn dewis Y Chwlibat:
O, Chwlibat, Chwlibat, Chwlibat chwap Ble mae dy gynffon a ble mae dy gap? " Mae fy nghap ar fy nhrwyn lle dylsai fe fod A’m cynffon mewn siwtces - ‘co, dyma fe’n dod"
Ydy, mae’r Chwlibat yn siarad llawer iawn o sens. A dweud y gwir, mae’r creaduriaid ‘ma i gyd yn siarad sens - wel, mwy o sens na chi neu fi!
Ac os ydych chi’n ddigon dewr, mi allwch chi gyd ddysgu dipyn gan y cyfeillion clyfar yma!!
Felly llyfwch y llyfr, sglaffiwch y synau a bwytewch y bwystfilod!
Cyfrol flasus sy’n boncyrs o brysur!! Tonic o chwerthin am £3.95!
|  | 
|