
 |  | Bwlio, cariad a chreulondeb y byd modern
Cyfrol o gerddi i blant a phobl ifanc sy'n cynnwys lluniau lliwgar
Dydd Iau, Hydref 18, 2001
| Poeth, golygwyd gan Non ap Emlyn Cyhoeddwyd gan Y Lolfa

Adolygiad Beryl Llywelyn-Jones
Yn y gyfrol hon ceir bron i gant o gerddi ar gyfer pobl ifanc gyda thrawsdoriad o themâu, yn sôn am wahanol agweddau o fywyd unigolion yn eu harddegau.
Ceir cerddi gan feirdd adnabyddus yng Nghymru yn ogystal â rhai gan bobl ifanc.
Cymherir y gyfrol â Sbectol Inc gan fod gan y ddwy gyfrol eirfa ar waelod pob tudalen ac felly wedi eu hanelu at ddysgwyr.
Dywed Garmon Gruffudd o wasg y Lolfa;
"Bydd yr eirfa yn ei gwneud hi'n haws i ddysgwyr ddeall y cerddi ond dwi'n credu bydd y llyfr yn llwyddo hefyd fel cyflwyniad i farddoniaeth Gymraeg i siaradwyr Cymraeg rhugl".
Cyfrol fydd yn tynnu sylw Yn sicr, bydd y gyfrol hon yn llwyddo'n gyfan gwbl i dynnu sylw pobl ifanc, dysgwyr ac oedolion.
Dywed Lolfa, cyhoeddwyr y gyfrol, yn eu datganiad i'r wasg mai cyfrol i "annog pobl ifanc i werthfawrogi barddoniaeth Gymraeg" yw Poeth.
Yn hyn o beth mae'r gyfrol yn llwyddo o'r eiliad y gwelwch y clawr lliwgar a'r lluniau diddorol ar y tudalennau i gyd-fynd â phob un o'r cerddi.
Mae'r lluniau yn rhoi crynhoad gweledol o'r hyn sydd yn y cerddi. Dyma waith trawiadol nifer o artistiaid yng Nghymru a'r dylunydd Marian Delyth.
Nid yn unig ceir lluniau i ddangos cynnwys y cerddi ond hefyd mae nifer fawr o'r cerddi'n rhoi darlun lliwgar o'r hyn maent yn ei ddisgrifio.
Mae'r gerdd Cerdd tân gwyllt gan Kathy Griffiths yn enghraifft sy'n rhoi disgrifiad cyffrous a lliwgar o noson tân gwyllt;
Fflamau yn tasgu i bob man, Yr awyr fel sbloets lliwgar wedi ei beintio gan blentyn bach Cysgodion yn cropian ar hyd y llawr, Y tân fel nadredd lliwgar wedi cordeddu yn ei gilydd,
Wynebu problemau Wrth ddarllen rhai o'r cerddi dwys gwelir rhai o'r problemau y mae pobl ifanc yn gorfod eu hwynebu. Mae rhai o'r cerddi'n syml ac effeithiol ond hefyd yn drist iawn.
Mae Gwynne Williams yn y gerdd Nhad yn sôn am deulu'n gwahanu. Mae'r gerdd yn syml ac effeithiol tu hwnt wrth ddisgrifio amser swper yn y ty;
Mae pedair o gadeiriau O hyd o gylch y bwrdd Ond does ond tri yn eistedd - Mae Nhad 'di mynd i ffwrdd.
Thema arall bwysig a grybwyllir yw bwlio. Mae cerddi sy'n delio â'r thema hon fel Edrych mewn drych gan Non Evans a Fo a Fi gan Robat Powell yn llwyddo. Mae Edrych mewn drych yn dangos y dioddef a'r unigrwydd a ddaw i rai sy'n cael ei bwlio tra mae Fo a Fi yn dangos unigolyn yn gorchfygu ei ofnau ac yn herio'r bwli.
Mae'r gerdd Euogrwydd gan Gwynne Williams yn sôn am euogrwydd plentyn wrth iddo ddweud celwydd wrth bobl sydd o'i gwmpas ond yn y pennill olaf cawn wybod y rheswm y tu ôl i hyn;
Euogrwydd ydy dweud wrth bawb bod Dad yn dod yn ôl a bod Mam a fi yn hapus.
Creulondeb y byd modern Mae rhai o'r cerddi'n disgrifio'r creulondeb sydd yn y byd heddiw. Sonnir am bynciau tywyll fel Sbwriel, llygredd, creulondeb i anifeiliaid a bywyd y digartref a lladrata.
Mae Deg o elyrch gwynion gan Robin Llwyd ab Owain yn sôn am elyrch, sef symbol o brydferthwch, yn cael eu lladd bob yn ddau oherwydd llygredd.
Yn y gerdd Hawl? mae Gwilym Morus yn gofyn Pwy roddodd yr hawl i ddyn lofruddio anifail am sbort?
Yn y gyfrol ceir cerddi traddodiadol a rhamantus ond mae'r fersiwn modern ohonynt yn dangos elfen dywyll a chreulon o'r byd cyfoes.
Un ohonynt yw Ar Lan y Môr. Yma ceir fersiwn modern o'r gerdd draddodiadol gan Mihangel Morgan;
Ar lan y môr, mae tuniau rhydlyd Ar lan y môr, mae sbwriel hefyd, Ar lan y môr, mae bagiau plastig, Ac olew du ar garreg lithrig.
Yn yr un modd, ceir Heno, heno, hen blant bach. Yn y fersiwn modern gan Gwyn Thomas, fodd bynnag, sonnir am;
Dau gwb deg oed yn torri i mewn i dy hen wraig.
Cerddi syml i ddifyrru plant Er bod nifer o gerddi difrifol yn y gyfrol mae rhai sy'n ddoniol iawn. Mae'r cerddi hyn yn syml a difyr ac fe fyddant yn sicr o ddifyrru plant ac oedolion o bob oed. Ceir un gan Carys Jones o'r enw Bwyd Od sy'n sôn am fwydydd tramor;
Bydd Dad yn iwsio chopstickspren I fwyta chow mein porc. Bydd bwyd 'di mynd ar hyd y llawr cyn iddo godi'i fforc!
Doniol iawn hefyd yw englynion Geraint Lovgreen a Myrddin ap Dafydd am chwaraeon. Sonia Geraint Lovgreen am y;
dyn bach yn byw yn Hong Kong oedd yn hoff iawn o chwarae ping-pong
Roedd yn ei chwarae heb fat na phêl ac yn ei chwarae fo'n rong.
Mae englyn Myrddin ap Dafydd yn sôn am 'hogyn o bentre bach Plwmp' yn cael amser anffodus wrth 'seiclo' ac yn diweddu hefo 'lwmp'.
Cerddi doniol am yr ysgol Mae nifer o gerddi doniol am yr ysgol, Jo Nainti (Gwynne Williams), esgusodion i beidio gwneud gwaith cartref, Seibr Ofod (Aled Lewis Evans), 'syniad gwefreiddiol' disgybl 'i godi pres yn y ffair' yn Cais y Prifathro gan Elen Howells a phenderfyniadau'r Diwrnod Cyntaf gan Elin ap Hywel.
Mae'r gyfrol yn rhoi sylw i nifer o bynciau sy'n effeithio pobl ifanc. Un ohonynt yw'r Nadolig.
Mae cerdd ddoniol Fflur Enlli Scott yn sôn am y Nadolig fel 'Diwrnod gorau'r flwyddyn!' tra mae cerddi fel Diffodd y golau gan Aled Lewis Evans yn sôn am fwriad Duw 'pan dorrodd o'r cyflenwad trydan Noswyl Nadolig'.
Mae 'fel petai'r gwir Nadolig yn ceisio cael cyfle i rannu'i genadwri' drwy arbed y 'gwerthu' a'r pethau eraill sy'n gwbl amherthnasol i'w wir ystyr.
Pwnc pwysig arall a sonnir amdano yw Cariad.
Cerddi'n sôn am gariad Ceir dwy gerdd gan Gwion Hallam. Un doniol o'r enw Snog sy'n sôn am fachgen a 'aiff am rywbeth … ond Gog!' ac un mwy difrifol o'r enw Dim ond serch.
Mae'r gerdd Cariad gan Grahame Davies, fodd bynnag, yn sôn am gariad addfwyn a thyner a geir a'r 'mwya i gyd o gariad ti'n roi, mwy i gyd ti'n gael.'
Oherwydd bod bron i gant o gerddi yn y gyfrol, mae llawer gormod ohonynt i roi barn a'r bob un.
Yn wir, mae'n ddifyr ac adloniadol iawn gydag apêl at bob oedran a gyda'r lluniau lliwgar a'r farddoniaeth o safon, byddaf yn sicr yn cynghori unrhyw un i'w brynu.
|  | 
|