
 |  | Achos sy'n staen ar gyfiawnder
Llyfr gan newyddiadurwr yn sôn am achos cynllwynio yn 1983.
Dydd Iau, Hydref 18, 2001
| Achos y Bomiau Bach, gol Lyn Ebenezer Gwasg Carreg Gwalch, £3.99

Adolygiad Glyn Evans
Ar ddalen gyntaf y llyfr yma am achos cynllwynio yn ôl yn 1983 y mae’r awdur, Ioan Roberts, yn holi pa hawl oedd ganddo ef fel gohebydd yn y llys i edrych ymlaen gymaint at ei ddiwrnod gwaith yn ystod naw wythnos yr achos.A dyfodol wyth o bobol a’u teuluoedd gymaint yn y fantol.
Mae’n debyg y dylwn inna hefyd holi faint o hawl oedd gen i i ddisgwyl mwynhad o lyfr yn trafod yr holl fusnes hyll.
Ond mi gefais i.
Mae’r llyfr hwn yn gafael o’i ddalen gyntaf.
Wedi dweud hynny, mae’n debyg y dylwn i gyhoeddi diddordeb.Mi fuo Ioan a minnau yn cydweithio am rai blynyddoedd yn ohebwyr ar Y Cymro ac mi rydan ni’n ffrindia.
Dawn arbennig Ond dydi hynny ddim yn fy ngwneud i’n rhagfarnllyd a daw yn amlwg o’r cychwyn cyntaf i unrhyw un fod gan Ioan ddawn arbennig ar gyfer sgrifennu'r math yma o lyfr.
Mae’r arddull yn llyfn, yn rhugl ac yn llifo o ddalen i ddalen fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan newyddiadurwr da.
Er ond yn gyfrol fer, cant a phedwar o dudalennau, y mae hon yn gyfrol bwysig achos ei bod hi'n darlunio sut y gallodd yr awdurdodau ddefnyddio deddf gwlad i danseilio hanfod canolog y system gyfreithiol - nad ydych chi’n mynd ati i gosbi neb nes ei gael yn euog a’ch bod chi’n ddi-euog nes y gellir profi’n wahanol.
Yn yr achos hwn yr oedd gynno chi griw o bobol mewn llys oherwydd pethau roeddan nhw’n eu credu a’u dweud yn hytrach na beth roeddan nhw wedi ei wneud.
Ar ben hynny, mi dreuliodd pobol ddieuog fisoedd yng ngharchar cyn hyd yn oed gyrraedd y llys a oedd i wrando ar yr achos yn eu herbyn.
Testun dadlau cyfreithiol "Byddai rhywun yn disgwyl i bennod am fywyd mewn carchar ddod ar ôl disgrifiad o’r achos llys oedd wedi anfon pobl yno. Yn y drefn arall y digwyddodd pethau yn yr achos hwn, ac mae’r cyfnodau hir a dreuliodd y diffinyddion dan glo cyn cyrraedd llys yn dal yn destun dadlau cyfreithiol ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach," meddai Ioan Roberts.
"Roedd y rhai a gafwyd yn ddieuog wedi bod yn y carchar am hyd at naw mis a hanner cyn cael mechniaeth, ac un a gafwyd yn euog o rai troseddau wedi bod dan glo am un mis ar hugain cyn cael ei ddedfrydu," ychweanega.
Yr oedd yr achos hwn yn staen ar gyfiawnder. Does dim amheuaeth am hynny a daw hynny yn eglur iawn yn y llyfr hwn.
Plismyn anonest Meddai’r Athro Phil Thomas o Brifysgol Caerdydd yn y llyfr: "Yn anffodus i’r bobl ifanc yn yr achos fe aethon nhw i afael plismyn anonest oedd yn teimlo y byddai dal unrhyw un yn gwneud y tro."
Ac mae’r holl gwestiwn o gyhuddo pobl o gynllwynio hefyd - mi gawsom ni lawer o hynny yn erbyn Cymry yn ystod y chwech, saith ac wythdegau oherwydd ei fod yn gyhuddiad mor gyfleus o safbwynt y meini prawf o safbwynt yr erlyniad.
Blwyddyn ar ôl yr achos hwn pasiwyd y ddeddf Police and Criminal Evidence a’i gwnaeth yn orfodol i recordio cyfweliadau gyda’r heddlu - byddai eu hachos hwy wedi bod yn un tra gwahanol pe byddai’r ddeddf honno ar y llyfrau ynghynt.
Mae’r pwynt yn cael ei wneud mai un peth a arbedodd rai o’r diffinyddion oedd i’w hachos gael ei wrando gerbron rheithwyr.
Brawychus, felly, yw meddwl fod yr hawl hwnnw dan fygythiad ar hyn o bryd!
|  | 
|