
 |  | Llyfr difyr sydd werth pob dimai
Casgliad o ysgrifau rhoi cipolwg ar fywyd trigolion bro'r Bedol ddiwedd y 19eg ganrif.
Dydd Iau, Hydref 4, 2001
| Pobol sy'n Cyfri, Hafina Clwyd Gwasg Carreg Gwalch, £10
a hanner
Adolygiad Dafydd Mei
Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen rhyw lawer i ddarllen y llyfr hwn. Mae o'n lyfr tew ac mae'n sôn am ardal nad oes gen gysylltiad o gwbwl â hi (neu dyna oeddwn i'n ei gredu).
Casgliad o ysgrifau - wedi'u hymhelaethu - a ymddangosodd gyntaf ym mhapur bro'r Bedol ydy'r rhain a sôn am ardaloedd yn nalgylch y papur hwnnw y mae'r llyfr.
Fel ymhob llyfr o'r fath mae yma restrau o enwau a dyddiadau a llefydd, ond dydy'r rhestrau yma ddim yn fwrn.
Dilyn sawl sgwarnog Dilyna'r awdur nifer o sgwarnogod ond nid â'n rhy bell ar eu holau ac mae'n dychwelyd yn daclus i gario mlaen â'r stori.
Wrth gwrs mae'r bobol a enwir yn y llyfr o ddiddordeb mawr i bobol yr ardal, ond mae rhai enwau'n gyfarwydd i bobol drwy Gymru - Llwyd o'r Bryn a Gerallt Lloyd Owen (eu hynafiaid wedi bod o flaen eu 'gwell' adeg Rhyfel y Degwm), Mici Plwm, Dylan Iorwerth, Arglwydd Crughywel a Gruff Rhys a Guto Pryce o'r Super Furry Animals. Ac ymysg y rhai sydd ganddyn nhw gysylltiad trwy briodas â'r ardal mae Tecwyn Ifan, Kevin Davies Radio Cymru a Jenny Ogwen.
Wrth gwrs mae yna sawl cyfeiriad at weinidogion a blaenoriaid; ond mae yma hefyd sôn am rai llai 'parchus'.
Rhai fel Richard Roberts, Pant Tywyll, "a hoffai lymaid yn awr ac yn y man ac os digwyddai yfed mwy na'i arfer taflai ei het i'r ty yn gyntaf. Os byddai'r het yn cael aros yn y ty gwyddai Richard y câi fynd i mewn ond os byddai'n dod yn ôl fel bwmerang gwyddai ei fod mewn helynt a'i fam fel draenog".
Nifer o straeon difyr Ac yn wir mae nifer o straeon bach difyr drwy'r llyfr. Honno am Edward Phillips, Glanllyn, a eisteddodd "o dan goeden ar lechwedd Penarth un diwrnod yn y gwanwyn pan ganodd y gog uwch ei ben. Penderfynodd agor chwarel yn yr union fan ac erbyn 1870 yr oedd hi wedi agor a chynifer â thri chant yn gweithio ynddi".
A beth am hon? Mary Ann Thomas - ei thaid Thomas Coslett Thomas o Lanfihangel Glyn Myfyr - a agorodd y gwesty cyntaf yn Y Gaiman, Patagonia. Un a fu'n aros yno oedd Butch Cassidy a "adawodd ferlen yn anrheg am ei fod wedi mwynhau'r bara brith gymaint"!
Trueni na fyddai mynegai i'r llyfr gan fod yma gymaint o wybodaeth. Ac i rai fel fi - sydd ddim yn adnabod yr ardal mor dda â hynny - mi fuasai map yn help garw.
Trueni hefyd na fyddai gan bob ardal rhywun mor ddiwyd a gwybodus â Hafina Clwyd.
Ydy mae o'n lyfr tew, ac yn werth pob dimai o'r ddecpunt. Ac oes, mae yna gyfeiriad at un o'm hynafiaid i yn y llyfr hefyd.....
|  | 
|