
 |  | Sawl hen rebel penderfynol
Cyfrol o erthyglau yn trafod rhai o lenorion enwocaf Sir Benfro yn ystod yr Ugeinfed Ganrif.
Dydd Iau, Medi 27, 2001
| Gwyr Llên Sir Benfroyn yr Ugeinfed Ganrif, gol Eirwyn George Gwasg Gwynedd, £8.95

Adolygiad Gwyn Griffiths
Mae’r Sir Benfro Gymraeg yn fro ddiwylliedig, ac eang ei diwylliant. Mae gwytnwch ei Chymreictod yn nodedig o gofio nad rhywbeth diweddar yw Seisnigrwydd godre’r sir. Mae’n mynd yn ôl wyth canrif ac y mae’r ffin ieithyddol wedi aros bron yn ddigyfnewid dros y canrifoedd.
Gan dde Saesneg y sir yr oedd y grym gweinyddol a nes i ad-drefnu llywodraeth leol yn y 70au glymu Sir Benfro wrth Geredigion a Sir Gaerfyrddin nid oedd y Gymraeg yn cael ei dysgu dim ond mewn nifer fach iawn o ysgolion godre’r sir.
Mae nifer o’r beirdd - ac wrth sôn am feirdd mae rhywun yn meddwl am bron bob un a bortreadir yn Gwyr Llên Sir Benfro yn yr Ugeinfed Ganrif - yn dod o gyffiniau Crymych, â phentre bach Tegryn yn gynhyrchiol iawn.
Eto mae yma amryw sy’n dod o ardaloedd y ffin â’r enwocaf i gyd, Waldo Williams, wedi ei eni, a threulio blynyddoedd ei blentyndod i’r de o’r Landsker.
Daw’r cyn-Archdderwydd James Nicholas o Dy Ddewi, ac fe anwyd a magwyd golygydd y gyfrol - y Prifardd Eirwyn George - yn Tufton, lai na dwy filltir o’r ffin ieithyddol.
Ymlyniad at yr iaith Mae yn y fro ryw ymlyniad penderfynol at yr iaith. Dyna’r cyn-Archdderwydd Trefin (Edgar Phillips). Doedd dim Cymraeg ar aelwyd ei blentyndod nac yn Ysgol Gynradd Trefin yn y cyfnod hwnnw. Er ymddengys bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio fel cosb.
Cafodd ddewis o’r gansen neu ddysgu Cywydd y Farn Fawr Goronwy Owen. Dewisodd Trefin ddysgu’r cywydd, ac ymddengys i hynny fod yn ysbrydoliaeth iddo.
Bu farw ei fam ac ail-briododd ei dad â dynes wrth-Gymreig o Fryste a symudodd y teulu i fyw i Gaerdydd. Roedd ei dad a’i lysfam yn barod iawn i brynu llyfrau Saesneg iddo, ond ddim yn ymwneud â’r Gymraeg.
Ond yr oedd Trefin yn hoff o ddarllen Cymraeg a phan aeth i Ysgol Sloper Road yng Nghaerdydd cafodd gefnogaeth ac anogaeth John Rowland - y gwr o Dregaron a ddaeth wedyn yn bennaeth y Bwrdd Iechyd. Cafodd ei gyflwyno i weithiau Daniel Owen a Cheiriog a byddai’n benthyg llyfrau Cymraeg o Lyfrgell y Dref Caerdydd a’u darllen yn y gwely.
Cafodd ei anfon yn ôl i Drefin yn brentis teiliwr at ei ewythr pan oedd yn 14 a daeth yn rhan o gymdeithas o lên-garwyr lleol oedd yn cyfarfod yn ei weithdy - ac aeth rhagddo i ddysgu’r cynganeddion.
Cyfuniad pwysig Mae nifer o’r rhai a bortreadir yn y gyfrol yn gyfuniad o heddychwyr, cadarn, gwrthryfelgar.
Hon yw’r fro a lwyddodd i wrthsefyll bwriad y Swyddfa Ryfel i feddiannu 16,000 o erwau’r Preseli yn faes tanio i’r Fyddin. Fe wyddom ond yn rhy dda beth ddigwyddodd i’r Epynt lle llwyddodd y Swyddfa Ryfel gyda’u bwriad. Ac fe wyddom am yr addewidion a dorrwyd.
Mae yma sawl hen rebel penderfynol - T. E. Nicholas, Waldo, y Canon Dewi Thomas, James Nicholas …
Mae yma hiwmor a digrifwch, hefyd - Waldo, Llwyd Williams, W. R. Evans … A sôn am y mynych gywydda ac englyna yn y seren honno yn ffurfafen newyddiaduraeth leol Cymru, y Narberth, Whitland and Clynderwen News.
Adnabyddiaeth bersonol Nodwedd hyfryd o’r gyfrol yw fod Eirwyn George yn dod â’i adnabyddiaeth bersonol i bron bob un o’r portreadau llenyddol hyn. Nid fod hynny’n mygu beirniadaeth.
Mae’n adnabod yn bersonol bron bob un o’r gwyr a bortreadir ac os nad yw’n cofio Evan Rees (y cyn-Archdderwydd Dyfed), a anwyd yn 1850 ac a fu farw yn 1923, yr oedd wedi cerdded law yn llaw â’i dad a gweld Bwlch Wil, rhwng Cas-mael a Llanychâr, lle ganed bardd cadair Ffair y Byd, Chicago gydag awdl o 3,000 o linellau!
Diddorol sylwi ar ysgogiad yr eisteddfodau - mawr a bach - i ysgogi awen y beirdd.
Yn fwy diweddar gwelwyd Ymryson y Beirdd ac wedyn Talwrn y Beirdd, yn cyflawni swyddogaeth debyg. Mae yma nifer dda a fu’n amlwg yn y naill neu’r llall o gyfresi ymryson y BBC - Tomi Evans, D. Gwyn Evans, W. R. Evans, Llywelyn Phillips, James Nicholas, Reg Smart, Wyn Owens, Eirwyn George, Idwal Lloyd. Tebyg bod yna eraill. Roedd Waldo yn ddeifiol a sydyn ym myd yr awen barod - yr anhawster oedd ei berswadio i gymryd rhan.
Ar nodyn mwy difrifol ceir darn diddorol - a gwerthfawr greda i - ar grefft yr emynydd yn y portread o W. Rhys Nicholas, awdur Tydi a wnaeth y wyrth …
Traddodiad byw Mor fyw oedd y traddodiad canu caeth yn y gwahanol ardaloedd yn y sir. Cyfeiriais at Edgar Phillips yn cael ei ysbrydoli gan y criw llengar yng ngweithdy ei ewythr, y teiliwr yn Nhrefin.
Athro cynganeddion D. J. Davies oedd William, brawd hynaf T. E. Nicholas, ym Mhentregalar.
Wrth draed Owen Davies, teiliwr y Glog, y dysgodd Tomi Evans a D.Gwyn Evans y cynganeddion.
Mae’r ardal, hefyd, yn arbennig o safbwynt ei thafodiaith. Dywedodd rhywun wrthyf yn ddiweddar fod gogledd Sir Benfro yn un o’r ardaloedd hynny lle nad yw’r trigolion yn "hyderus" o’u tafodiaith. Yn wahanol, meddai, i bobol Gwynedd a Cheredigion.
Tafodiaith arbennig Ar ôl darllen y gyfrol hon, nid wyf mor siwr. Gwnaeth W. R. Evans ei orau gan gynnwys awdlau tafodieithol a anfonodd i’r Eisteddfod Genedlaethol. Trueni na fuasai wedi ennill.
Gwyr a aned yn y sir ddewisodd Eirwyn George i’w cynnwys yn y gyfrol. Mae Dyfed yma, naw mis cyntaf ei fywyd yn unig y bu ef byw yn y sir.
Er bod rhywun yn meddwl am Dewi Emrys fel un o Sir Benfro ac uwchben Pwllderi y mae’r garreg sy’n ei goffàu, yn y Cei Newydd, ger Aberaeron, y ganwyd ef. Felly ni chafodd ei gynnwys.
Syndod, hwyrach, nad yw Dilwyn Miles yma. Hwyrach na fu ei gyfraniad mewn llenyddiaeth greadigol yn gymaint â hynny.
Mae hon yn gyfrol sy'n gymaint o bortread o ardal ag o'i beirdd a'i llenorion.
Fe ddylwn ddweud, hefyd, ei bod yn gyfrol fach hardd iawn. Fe ddylai werthu’n dda o fewn y sir ond mae’n haeddu sylw Cymru gyfan.
Mae Eirwyn George i’w longyfarch am gyfres o erthyglau bywiog, cynhyrfus yn fynych - ac un ddadlennol amdano ef ei hun.
|  | 
|