
 |  | Cystal â'r gwreiddiol
Cyfieithiad cyflawn a theilwng o gerddi Dafydd Gwilym gan yr ysgolhaig Gwyn Thomas
Dydd Iau, Medi 27, 2001
| Dafydd ap Gwilym His Poems, Cyfieithiad gan Gwyn Thomas

Adolygiad Catrin Gerallt
Rhyw, affaires, gwyr sy’n ferw o eiddigedd a merched priod sy’n llygadu eu cyn-gariadon yn bryfoclyd. Na - nid pennod ddiweddara Eastenders neu Brookside - ond rhai o themâu dramatig y bardd rhyfeddol hwnnw o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, Dafydd ap Gwilym.
Mae ei gerddi’n fwrlwm o ddisgrifiadau lliwgar, o hiwmor drygionus ac o brofiadau carwriaethol hynod gythryblus. Mae ehangder ei gynfas yn drawiadol - o ffars Trafferth Mewn Tafarn lle daw criw o Saeson (Drisais mewn gwely drewsawr) ar ei ôl wedi iddo faglu ar ei ffordd i wely merch, i ddwyster a thynerwch y cerddi am Morfudd a Dyddgu.
Cyfleu'r ffresni a'r emosiwn Camp Gwyn Thomas yn y cyfieithiad cyflawn hwn - yw ei fod wedi llwyddo i gyfleu ffresni ac emosiwn y cerddi canoloesol trwy gyfrwng cyfieithiadau clir sydd hefyd yn gerddi caboledig - tipyn o gamp o ystyried cyfoeth y farddoniaeth wreiddiol.
Mae cerdd Dafydd ap Gwilym i’r Wylan yn ymgorffori teimladau unrhyw un sydd wedi dyheu am gariad coll;
"Yr wylan deg ar lanw dioer Unlliw ag eiry neu wenlloer Dilwch yw dy degwch di Darn fel haul, dyrnfol heli"
ac mae’r cyfieithiad er mor driw i’r gwreiddiol yn delynegol;
"Ah gull on the tide, a beauty: surely Of the hue of snow or the white moon, Of fairness unblemished, A patch like the sun, a sea gauntlet"
Cyfieithu'r gynghanedd Yn ei ragymadrodd, esbonia Gwyn Thomas nad yw wedi cadw’n gaeth at fedr ac odl y cywyddau gwreiddiol, yn wir, meddai, oherwydd y gwahaniaeth sylfaenol rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, amhosib mewn gwirionedd, yw cyfieithu cynghanedd;
"(Cynghanedd) ..... cannot be translated or when it is.....sounds childish or comical, and succeeds in doing nothing but trivializing what is often superb poetry"
Eto mae atseiniau o’r gwreiddiol mewn sawl man, fel yn y defnydd o fedr i gyfleu bwrlwm Trafferth Mewn Tafarn;
"The ostler roused all at the inn- And now the tale was very grim! They frowned their way around me Searching and seeking about me;"
("Codi o’r ostler niferoedd I gyd a chwedl dybryd oedd. Gygus oeddynt i’m gogylch Yn chwilio i’m ceisio i’m cylch")
neu yn nhinc y cytseiniaid yn y gerdd brydferth "Merch ac Aderyn"
"By the relic it would be a pleasant task To kiss a maid whose word was constant And, after our good while To look through the mantle of my glorious girl At peaks that are lust’s pennies..."
("Crefft digrif oedd, myn y crair, Cusanu dyn cysonair, Ac edrych gwedy’n gwiwdraul Rhôm ein hun, rhwymynnau haul Drwy fantell fy niellwraig Drumiau, ceiniogau cynhaig")
Cyfleu'r cyfeiriadau Yn ogystal ag ymdopi ag arddull y cerddi gwreiddiol, pen tost ychwanegol i unrhyw gyfieithydd yw cyfleu cyfoeth yr holl gyfeiriadau sydd yng ngherddi Dafydd ap Gwilym
Mae ei farddoniaeth yn dilyn traddodiad beirdd yr Uchelwyr gyda’u harfer o ganmol eu noddwyr a’u teuluoedd.
Ond roedd Cymru’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn fwy cosmopolitan na hynny! Mae yma gyfeiriadau mwy egsotig - at draddodiad y troubadwriaid o Languedoc yn Ne Orllewin Ffrainc a’u caneuon am filwyr dewr yn hiraethu am ferched y tu hwnt i’w gafael; mae na gyfeiriadau at y bardd Lladin, Ofydd a’i ddisgrifiadau telynegol o fyd natur - cyfeiriadau sy’n atseinio yn y cyfieithiad;
"Leaves of green-barked hazels would clothe me Good times for me-they come with May! Omniscient God, omnipotent, He Would ordain with Mary the coming of May"
(Deilgyll gwyrddrisg a’m gwisgai Da fyd ym yw dyfod Mai Duw ddoeth gadarn a farnai A Mair i gynnal y Mai.)
Elfen mwy amrwd Mae yma elfen mwy amrwd sy’n tarddu o draddodiad y beirdd crwydrol - sêr roc y byd canoloesol oedd yn byw’n galed, yn slotian ac yn hel merched a thrafferth ar hyd y ffordd; mae’r Canterbury Tales yn cyfleu naws y traddodiad hwn - ac fe gawn flas ohono gan Dafydd ap Gwilym yn Trafferth Mewn Tafarn.
Athrylith Dafydd ap Gwilym yw bod ffresni ei brofiadau ei hun yn treiddio drwy’r cyfan.
Er ei fod yn dilyn traddodiadau cyfoes, fe allwn gredu mai Dafydd ei hun sydd wedi cael y drafferth mewn tafarn, fe allwn gydymdeimlo gyda’i gariad angerddol tuag at Morfudd; mae ei apêl hiraethus at Yr Wylan, a’i gân o fawl i i fis Mai yn ein cyffwrdd i gyd.
Cerddi gafaelgar Mae cyfieithiad caboledig Gwyn Thomas yn gampwaith sy’n trosglwyddo holl gyfoeth Dafydd ap Gwilym trwy gyfrwng cerddi gafaelgar fydd yn apelio nid yn unig at y di-Gymraeg ond at y llu o Gymry Cymraeg sydd yn teimlo bod Cymraeg Canoloesol y gwreiddiol yn rhwystr.
Diolch i ddoniau barddol ac ysgolheigaidd y cyfieithydd, mae personoliaeth afiaethus Dafydd ap Gwilym, ei gariadon, ei elynion a’r holl gymeriadau lliwgar fu’n caru yn ymladd ac yn chwerthin saith canrif yn ôl, bellach yn fyw i genhedlaeth newydd. |  | 
|