
 |  | Profiad gwr mewn galar
Nofel fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith Eisteddfdod Genedlaethol Dinbych 2001
Dydd Iau, Medi 20, 2001
| Trwy'r Tywyllwch, Elfyn Pritchard. Cyfrol y Fedal Ryddiaith 2001.

Adolygiad Llion Iwan
Fel dyddiadur taith y crëwyd y gyfrol hon yn wreiddiol. Daeth yn agos i’r brig yn Llanelli 2000, gan goncro’r copa ar ei ail gynnig yn Ninbych 2001.
Fel llawer o lyfrau buddugol y Fedal Ryddiaith yn ddiweddar, marwolaeth ydi’r testun, yma y daith o ddelio gyda marwolaeth. Ac yn wir mae’n daith a hanner, taith a’m cyflwynodd i i’r cymeriad mwyaf atgas dwi erioed wedi darllen amdano mewn ffuglen.
Anghenfil o ddyn Mae’r awdur i’w ganmol am hynny, am lwyddo i bortreadu anghenfil o ddyn hunandosturiol nad yw’n llawn llathan.
Yn gryno, Rhys ydi’r prif gymeriad, gwr wedi ysgaru a’i unig ferch, Gwennol, ydi cannwyll ei lygaid. Ond fe gaiff hi ei lladd mewn damwain car a dilynwn hanes y tad wrth iddo ymdopi â hynny.
Yn fuan sylweddolwn nad gwr cyffredin mewn galar ydi hwn, ond yn hytrach dyn ag atgasedd yn ei gorddi.
Pan sonia am ei gyn wraig mae’n dweud ei fod yn falch iddo ei hadnabod pan oedd ei chorff yn ifanc a nwydus.
Fe adawodd hi o am wr arall, ond ymfalchïa Rhys yn y ffaith mai hwnnw fu’n gorfod gofalu amdani tra bu’n araf farw o gancr. Modd hynod o od i wr feddwl am gyn bartner, mewn termau rhywiol yn unig.
Mae’n canfod fod ei ferch yn hoyw, ac o fewn dim mae wedi rhoi’r bai ar hynny yn dwt ar sgwyddau’r ffaith iddi orfod byw yn swn cweryla ei rhieni tra’n ei harddegau.
Disgrifio hyd syrffed A bob tro y sonia am Gwennol, mae yn disgrifio ei phrydferthwch a’i thlysni, hyd syrffed, hyd yn oed am rywun sydd wedi colli rhywun agos.
Mae’r Gymraeg yn aml yn farddonol tu hwnt, yn brydferth o farddonol ar brydiau. "Chwibanu am y berth a mi y mae awel finiog fy ngholled innau." Gall drin geiriau yn gelfydd iawn.
Cawn rannau sy’n llawn deialog, ac i mi, y rhain yw’r cryfaf gan eu bod yn dod â’r golygfeydd yn fyw, yn llawer gwell na’r cyfnodau hir yna lle mai’r unig lais y clywn ydi un hanner gwallgof Rhys.
Sefyllfaoedd a sgyrsiau difyr Daw’r digwyddiadau yn gymaint gwell a llawn bywyd pan gawn ddeialog, ac mae’r awdur yn gallu creu sefyllfaoedd a sgyrsiau difyr.
O bosib fe fuaswn yn cymharu cymeriad Rhys ag Alf Garnet, yr hen wr chwerw o east end Llundain sy’n casáu pobl hoyw, tramorwyr ac unrhyw un sy’n wahanol iddo fo. Gan anghofio mai fo ydi’r un trist yn y pen draw.
A dyna ydi camp yr awdur buddugol hwn, sef portreadu gwr sydd yn ymylu ar fod yn anghenfil ond sydd eto yn ennyn ein tosturi.
|  | 
|