
 |  | Taith i'r Aifft mewn peiriant amser
Llyfr newydd i blant yn y gyfres Byd o Beryglon
Dydd Iau, Medi 13, 2001
| Plygu Amser. Gary Paulsen (addasiad Esyllt Nest Roberts), Gwasg Carreg Gwalch, £2.99.
 Adolygiad Meirion Puw Rees
Dyma’r trydydd llyfr yng nghyfres Byd o Beryglon gan Gary Paulsen wedi ei addasu gan Esyllt Nest Roberts.
‘Rydych chithau’n camu i fyd o beryglon wrth agor y llyfr hwn.’ Dyna mae’r awdur yn ei ddweud yn ei lythyr at y darllenwr ar ddechrau’r llyfr.
Mae’n cymharu cyffro cystadlu mewn ras cwn-tynnu-sled ar draws Alaska â chyffro’r llyfr ac yn sôn sut mae’n ceisio ‘dal yr ysbryd hwnnw’ yn ei straeon. Nid ydym yn cael ein siomi.
Dyma grynodeb o’r stori i chi gael blas ohoni.
Peiriant plygu amser Mae Jac Brown a Sam Griffin wedi llwyddo mewn prawf gwyddonol ac wedi cael eu dewis i fynd i Washington i gyfarfod ‘rhai o wyddonwyr gorau’r wlad’. Wrth fynd o gwmpas y labordai mae’r ddau yn dod ar draws peiriant plygu amser Dr Craniwm.
Mae Sam yn gwisgo helmed y peiriant ond wrth ei dynnu oddi ar ei ben yn pwyso botwm trwy ddamwain. Yn sydyn mae’r ddau yn glanio yn oes Tutankhamen, pharo oedd yn llywodraethu yn yr Aifft yn y flwyddyn 1360 cyn Crist!
Mae’r daith annisgwyl yma yn troi yn antur gyffrous wrth iddynt ddarganfod cynllun yr is-raglyw Horemheb i ladd Tutankhamen. Ond, a ddylai Jac a Sam helpu’r pharo a newid hanes, neu geisio gorfodi'r peiriant plygu amser i’w dychwelyd i Washington a’r flwyddyn 2001?
Ar bigau'r drain Mae’r awdur yn llwyddo i gadw’r darllenwr ar bigau’r drain o’r cychwyn cyntaf.
Ar ddechrau’r llyfr mae Jac a Sam yn sefyll yr arholiadau ond nid ydym yn cael gwybod yn iawn beth yw eu pwrpas na pham mae angen disgyblion ysgol i fynd i gyfarfod y gwyddonwyr.
Mae Jac yn gofyn i Mrs Olsen, ysgrifenyddes ei ysgol yn Los Angeles, ‘Beth yn union ydi’r profion yma, felly?’ ac mae hi’n ateb, ‘Morwyn fach ydw i. Y cyfan wn i ydi bod y disgyblion sy’n sgorio’n ddigon uchel yn cael mynd i Washington D.C. i gyfarfod pobl bwysig iawn.’
Sam mewn trafferth Hefyd pan yw Sam yn chwarae â’r peiriant plygu amser yn y labordy, reit ar ddiwedd Pennod 5, mae mewn trafferth, ‘Camodd Jac yn ei ôl er mwyn i Sam gael digon o le i dynnu’r ddyfais oddi ar ei ben. Ond wrth iddo symud, pwysodd yn ôl yn ddamweiniol a tharo botwm y peiriant amser. "Arswyd y byd! Beth sy’n digwydd?" Estynodd Sam am fraich Jac. "Diffodd y peth yna, wir. Rydw i’n....diflannu!"’
Mae’n rhaid darllen y bennod nesaf i gael gwybod i le mae Sam yn mynd.
Digon o hiwmor Mae yna hiwmor yn y llyfr hefyd. Pan yw’r gwyddonwyr yn sôn am yr helmed sy’n perthyn i’r peiriant plygu amser, mae nhw’n egluro mai Dr Craniwm sydd wedi dyfeisio'r peiriant.
Mae defnyddio’r enw Craniwm, sef gair arall am benglog yn fan hyn yn ddoniol, yn enwedig gan fod y gwyddonwyr yma i fod yn bobl ‘beniog’ iawn.
Hefyd yn nes ymlaen yn y llyfr pan yw Jac a Sam yn yr Aifft mae’r pharo Tutankhamen wedi cymryd at y ddau ac yn fodlon gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud.
Pan yw Sam yn cynghori’r pharo i drin y caethweision yn fwy teg, mae Horemheb yn gwylltio ‘Roedd Horemheb yn wyllt fel cacwn erbyn hyn. "Peidiwch â gwrando ar y dieithriaid hyn, eich mawrhydi. Fe fyddai eu syniadau estron yn dinistrio’r Aifft."’
Eifftwyr yn chwarae pêl fasged Mae’r ffrae yn mynd o ddrwg i waeth ac i arbed eu hunain mae Jac yn gosod her i’r Rhaglyw; chwarae pêl fasged! Mae’r syniad o hen Eifftwyr yn chwarae pêl fasged yn ddoniol iawn.
Mi fyswn i wedi licio gwell disgrifiadau o wlad yr Aifft yn y llyfr e.e. pan yw’r awdur yn disgrifio lloft y ddau yn yr Aifft fel stafell ‘go lew’ hefo ‘creadur druan yn debyg iawn i grocodeil yn gafael mewn ffôn’. Hefyd hoffwn petai’r awdur wedi datblygu stori Jac a Sam yno.
Ond, mi nes i fwynhau‘r llyfr yn fawr a mi fyswn i yn cynghori i rywun rhwng 8 – 13 i’w ddarllen.
|  | 
|