
 |  | Mynd i nôl hysbyseb a dwad yn ôl efo gwraig!
Cyfrol i goffau'r bardd a'r newyddiadurwr Mathonwy Hughes.
Dydd Iau, Medi 13, 2001
| Cofio Mathonwy. Amryw gyfraniadau. Gwasg Gwynedd, £3.95.
 Adolygiad Glyn Evans
Anodd credu am fardd, iddo warafun iddo’i hun ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ond dyna’r gwir am Fathonwy Hughes a enillodd gadair Eisteddfod Aberdâr yn 1956 gyda’i awdl Y Wraig.
Ddim o ddifri Ond yn y llyfryn, Cofio Mathonwy, sydd newydd ei gyhoeddi datgelir nad oedd Mathonwy ei hun yn hapus gyda’r canlyniad am nad oedd yn ystyried ei ymgais yn un o ddifrif.
Meddai Derwyn Jones am y digwyddiad;
"Yn wir, nid oedd yn hapus o gwbl iddo ennill . . . Dyma’r flwyddyn y priododd ef a Mair ac yn rhannol i’w phrofocio hi ac i gael hwyl gyda’r beirniaid y lluniodd yr awdl."
Ychwanega nad oedd y bardd yn fodlon i’w hailargraffu mewn cyfrol ar ôl hynny.
"Dichon fod ynddi rai pethau rhy sathredig, ond mae’r grefft yn dda, y gerdd yn wir ddoniol, ac yn llawer gwell na llawer o awdlau awdlaidd, marwanedig," meddai Derwyn Jones.
Torri tir newydd Fodd bynnag gwelodd un o’r beirniaid, yn arbennig, T. H. Parry-Williams, rinweddau go bendant yn yr awdl ac y mae Peredur Lynch yn dyfynnu o’i feirniadaeth ef i atgyfnerthu ei bwynt ei hun fod awdl Mathonwy yn Aberdâr yn un "a dorrodd dir newydd yn hanes yr awdl eisteddfodol."
"Cyfeiliornus," meddai Peredur Lynch yw’r syniad, ymhlith rhai, fod yr awdl yn un "wan".
Yn wyneb gwahaniaeth barn o’r fath byddai cynnwys yr awdl wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr i’r gyfrol fach hon. Yn sicr, mae lle iddi gan nad yw’r gyfrol oll ond 63 tudalen.
Priodas ryfedd Fel mae’n digwydd, cadeiriwyd Mathonwy o fewn wythnosau i briodi.
Olwen Roberts, merch cyfaill mwyaf Mathonwy, y diweddar Gwilym R. Jones, golygydd Y Faner, sy’n dwyn i gof amgylchiadau rhyfedd y briodas honno.
"Er eu bod yn aelodau gweddol selog yn y Capel Mawr (Dinbych) penderfynu priodi yn Swyddfa’r Cofrestrydd yn Rhuthun wnaethon nhw a’r ddau yn cyrraedd yno ar fysys Crosville gwahanol. Yncl Math ar y bws deg a Mair yn dilyn ymhen rhyw hanner awr wedyn, jyst rhag ofn i rywun eu gweld efo’i gilydd a gollwng y gath o’r cwd. "
Bachwyd dau oddi ar y stryd yn dystion.
Gwneud esgus "Yn ôl a ddywedodd fy nhad, yr esgus . . . dros fynd i Ruthun y diwrnod arbennig hwnnw oedd bod dyn busnes go amlwg o’r dre wedi addo rhoi hysbyseb go sylweddol yn Y Faner.
"‘Fedrwch chi gredu’r peth?’ meddai nhad, ‘mynd yno i nôl hysbyseb a dwad yn ôl hefo gwraig! Dim ond Math alla wneud hynny!’"
Y mae Olwen Roberts yn sôn hefyd am gariad arall oedd gan Fathonwy cyn cyfarfod y ferch a briododd a’u hymddygiad caruaidd a swsus slei yn y lobi!
Golwg wahanol Heb amheuaeth cyfraniad Olwen Roberts yw’r difyrraf yn y gyfrol ac yn rhoi golwg ‘wahanol’ ar Brifardd a is-olygydd Y Faner i ddarllenwyr nad oeddynt yn ei nabod.
Cowlaid o atgofion personol sydd yma yn hytrach nag ymdriniaeth o gyfraniad Mathonwy Hughes fel bardd a newyddiadurwr er bod pennod Peredur Lynch yn gwneud rhywfaint o iawn am hynny gan osod y bardd yng nghyd-destun ei gyfnod o ran arddull, dylanwadau a chynnwys.
Y cyfranwyr eraill yw Derwyn Jones, Dafydd Owen, R. M. (Bobi) Owen, John Glyn Jones (cerdd ben-blwydd) a Wil Huw Pritchard, ei weinidog.
Dim ffurf i'r gyfrol Er yn gyfrol ddigon difyr a diddan does yna ddim llawer o ffurf iddi heb na golygydd, cyflwyniad na rhagair i egluro pam y’i cyhoeddir yr union adeg hon.
Mae rhywun yn cymryd fod a wnelo ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Dinbych rywbeth a’r amseriad.
Yn sicr byddai rhywfaint o nodiadau bywgraffyddol wedi bod yn fuddiol ar gyfer darllenwyr nad ydynt, yn ymwybodol o gyfraniad a gwaith y gwrthrych.
Sylw awgrymog Y mae ambell i bwynt y byddai golygydd, pe byddai un, wedi gofyn i’r cyfrannwr ymhelaethu arno megis y sylw awgrymog gan Bobi Owen:
"Gweithiodd Gwilym R. a Mathonwy, a llu o rai eraill, am gyflog pitw iawn yng Ngwasg Gee - llafur cariad oedd eu hysbrydoliaeth ac er bod Mathonwy yn barod iawn i gydnabod gallu llenyddol a dyfalbarhad Kate Roberts (perchen y Wasg gyda’i gwr) yn wyneb llawer o anawsterau, doedd ganddo fawr i ddweud amdani fel unigolyn."
Go brin mai y fi yw’r unig un a hoffai gael gwybod mwy am y wedd hon i "frenhines" ein llên ac anhoffter rhywun fel Mathonwy ohoni!
Mae casgliad da o luniau yn y canol gan gynnwys un gwych o’r Mathonwy ifanc gyda’i fam a’i nain.
Dyn a chymeriad hwyliog A’r casgliad sicr y down iddo yw fod hwn yn ddyn ac yn gymeriad hwyliog y byddai wedi bod yn fraint ei adnabod gyda’i " wên lydan, lydan, a’i rhoddai ymysg pobol glên y byd ’ma" chwedl Olwen Roberts sy’n ei gofio hefyd fel gyrrwr lloerig ac fel malwr larymau tân!
Ond un a oedd "yn dalp o foneddigeiddrwydd ac yn gariad o ddyn."
|  | 
|