
 |  | Oes y gaseg a'r capel
Atgofion am fywyd cefn gwlad a hen ffordd o fyw sydd wedi diflannu
Dydd Iau, Medi 6, 2001
| Llawer Haf yn yr Hafod gan Tegwyn Jones. GwasgCarreg Gwalch£4.95

Adolygiad: Catrin Elen Jones
‘Atgofion ffermwr o Uwchaled’ yw is-deitl y llyfr yma ac addas iawn ydy o, a dweud y gwir.
Byddai’n anodd disgrifio’r gyfrol â geiriau gwell. Anodd gwybod beth arall sydd i’w ddweud - mae’r oll yn y teitl.
Nid nofel yw hon sy’n rhoi cyfle i mi barablu ‘mlaen am is-blot dwys na chymeriadu lliwgar ond atgofion bywyd ffarm rhwng 1934 a’r 90au yn bur ac yn syml. A dyna oll.
Iaith loyw, lân a deallus O ran ansawdd ysgrifennu, gwelwn yn y gyfrol iaith loyw, lân a deallus ac er i’r awdur gwblhau ei addysg yn bedair ar ddeg oed, mae’n amlwg i’r cymdeithasau cynganeddu a’r eisteddfodau lu y bu iddo eu mynychu roi graen ar ei iaith sydd yn estron i nifer o’n nofelau cyfoes.
Yn wir, deallaf pam fod yr awdur yn gresynu dyfodiad y teledu achos drwy ei atgofion gwelwn fod y dyddiau pan oedd yn rhaid cymdeithasu i gael eich diddanu yn creu cymunedau clos, cynnes, a diwylliedig.
Pwysig yn hanesyddol Gyda’r byd ffermio ‘traddodiadol’ dan rhyw fygythiad newydd o ddydd i ddydd, gallai’r gyfrol hon fod yn un bwysig o safbwynt hanesyddol.
Ynddi mae cipolwg ar fyd a fu. Byd nas cawn yn ei ôl. Byd lle mae bywyd yn syml, yn galed, ag yn llawer mwy apelgar na’n hoes hectig, oeraidd, ni.
Gallaf warantu y bydd darllen am gyfnod pan oedd y capel a’r gaseg yn ganolbwynt i fywydau’r cymunedau yn peri i unrhyw un ddyheu am ddychweliad y ffordd honno o fyw.
Hawdd neidio dalen! Ond, i’r rhai nad ydynt yn hanesyddwyr selog - y rhai sy’n blysio cynnwrf a’r cyfle i ddadansoddi celfyddyd ysgrifenedig o fewn cyfrolau - efallai mai braidd yn ddiflas y gwelwch y llyfr hwn.
Achos er bod yr iaith yn wych, mae’n hawdd iawn cael eich hun yn neidio dalen neu ddwy pan fo’r awdur yn rhestru prisiau gwartheg a pheiriannau fferm a ’ballu.
Yn fy marn i, byddai wedi bod yn rheitiach iddo, ac yn brafiach i ninnau, ddyfynnu’r hyn a ysgrifennodd yn ei ddyddiaduron am gymeriadau lleol a ffrindiau direidus o’r ysgol yn hytrach na thraethu am grantiau amaethyddol a chyflwr y farchnad dda byw.
Gan mai cyfrol fer yw hon a bod yr iaith yn wir bleser i’w ddarllen, gresyn mawr na fu i Tegwyn Jones sôn ychydig mwy am ei deulu a’i ffrindiau.
Angen mwy o'r personol Efallai mai sentiment merch sy’n gwneud imi ddyheu am glywed am y sbri a gafodd yn blentyn, neu’r cynnwrf o ganlyn ond credaf, yn wir, y byddai atgofion personol yn gwneud y gyfrol yn waith llenyddol o safon yn hytrach nag yn llyfr hanesyddol ei apêl yn unig.
Ond, wedi dweud hynny, saif y llyfr fel y mae ac yn hynny o beth, mae’n llyfr braf a diddorol sydd yn bleser i’w ddarllen er gwaethaf prinder dwyster personol.
|  | 
|