
 |  | Y newydd ar draul yr hen
Cyfrol ffres o bregethau'n pwysleisio'r presennol newydd
Dydd Iau, Awst 16, 2001
| O Sgrepan Teithiwr Cyfrol o bregethau Gwilym H.Jones Gwasg Pantycelyn, £6.50.
Adolygiad gan John Stevenson
Bwriad gwreiddiol Gwilym H.Jones oedd cael 'casgliad preifat' ar gyfer ei blant - y tri ohonyn nhw erbyn hyn ar wasgar a heb glywed pregethau'u tad.
Wedi dewis pymtheg pregeth, penderfynodd Dr Jones eu rhyddhau ar gyfer cynulleidfa ehangach.
Cwestiwn amlwg, wrth gwrs, yw faint o ddiddordeb, yn yr oes sydd ohoni, sydd mewn cyfrol o bregethau - pa mor nodedig bynnag yw'r awdur.
Canrif a mwy yn ôl, wrth gwrs bu galw cyson am gyfrolau o'r fath gan garedigion. Y cennad mwyaf di sôn amdano yn aml yn cyhoeddi cyfrolau swmpus dan y teitl 'Bywyd a Gwaith y Parchedig Hwn-a Hwn'.
Casglu llwch Fe'i cyhoeddwyd yn amlach na'i gilydd wedi marwolaeth y cennad a'u Tynged oedd casglu llwch y tu ôl i ddrws gwydr a'r gas-llyfrau mewn festri capel sydd erbyn hyn wedi hen gau ei ddrysau.
Cwestiwn arall a hwnnw, o bosib, yn gwestiwn llai amlwg ond yn llawn mor ddilys yw gofyn a ddylid cyhoeddi pregethau ar gyfer rhai na chafodd eu clywed yn y lle cyntaf.
Mae yna ddeng mlynedd ar hugain er enghraifft ers cyhoeddi'r gyfrol Rhwydwaith Duw.
Wrth gyflwyno'r gyfrol o bregethau a homilïau Gweinidog Capel y Bedyddwyr Cymraeg yn Castle Street, Llundain dywed ei olynydd, Hugh Mathews fod pregethau wedi eu cyfansoddi i'w 'dweud a'u gwrando' ac nid fel pethau i'w darllen.
"Heb osgo, goslef, angerdd a phersonoliaeth y pregethwr y tu ôl i'r geiriau, y mae rhywbeth o angenrheidrwydd yn mynd ar goll" meddai.
Camarweiniol Beth am y gyfrol hon felly? Mae Gwilym H - fel mae'r awdur yn cael ei adnabod gan genedlaethau o'i gyn fyfyrwyr ym Mangor - dwtsh bach yn gamarweiniol wrth hawlio ei fod yn 'amatur' ym myd pregethu.
Wedi cyfnod o ofal eglwysig ym Môn a Dyffryn Clwyd bu'n hyfforddi darpar weinidogion ei enwad yng Ngholeg Diwinyddol Aberystwyth cyn cydio yn yr hyn ddaeth yn llafur oes yn Adran Astudiaethau Beiblaidd, Prifysgol Cymru, Bangor.
Anodd gorbwysleisio gwaith blaengar yr adran hon i'n dealltwriaeth ysgolheigaidd o'r Beibl. Heblaw am y rhai sy'n dal i ymddiddori yn y maes, ychydig erbyn hyn sy'n cofio am waith arloesol Bleddyn Jones Roberts, Margaret Thrall, Charles Whitley, Dafydd Ap Thomas a Gwilym H.Jones ei hun.
Ffresni ysgytwol Trwy ddefnyddio technegau'r ieithydd, yr anthropolegwr a'r archeolegwr, llwyddodd yr ysgolheigion hyn i ryddhau'r pwnc o lyffethair rhagdybiaethau enwadol ac i edrych ar gynnwys a chefndir y Beibl gyda rhyw ffresni ysgytwol.
Mae yna ffresni'n perthyn i'r gyfrol hon ac mae thema ganolog y casgliad i'w gweld yn y bregeth gyntaf. Dywed Dr Jones yn ddiflewyn ar dafod ym mhregeth Llanrwst (1989) 'yr hyn garwn ei wneud yw pwysleisio mai'r presennol newydd ac nid y gorffennol hen sy'n bwysig'.
Mae thema'r 'newydd' fel llinyn arian drwy'r gyfrol ond yn yr un bregeth mae Gwilym H yn ddigon hirben i ragweld natur cwyn ei feirniaid. 'Mi wn', meddai 'y bydd rhai yn dweud ar ôl y gwasanaeth yma, na soniodd y pregethwr fawr ddim am yr Efengyl nac odid dim am Iesu'.
Blas o'i darllen Darllenais y gyfrol hon fel un na fu trwy ddrws capel ers blynyddoedd. Ond hefyd fel un sy'n ymddiddori'n fawr yn ein treftadaeth Anghydffurfiol fel Cymry Cymraeg. Cefais flas o'i darllen.
Roeddwn ar adegau braidd yn anghyfforddus gyda'r sôn parhaus am werth y newydd ar draul yr hen.
Oes na werth cnoi cil ar yr hyn ddywedodd Walter John yn y casgliad pregethau a nodais ar gychwyn yr adolygiad. 'Ni wn' meddai Walter John 'beth oedd y rheswm dros osod dyddiad ei godi ar ffrynt pob capel ymron ond mae'n dda ei fod yno....Peidiwch â thorri'ch cyswllt â'r cwmwl tystion mor ddi seremoni."
|  | 
|