
 |  | Tri Llyfr i'r Plant
Stori fywiog a dau lyfr syml ar ffurf rhigwm
Dydd Iau, Awst 2, 2001
| Sbwriel Sbango gan Tony Bonning a Sally Hobson, Addasiad gan Gordon Jones, Gwasg Gomer, £4.50.
 a Rownd a rownd ein gardd ni a Ble, o ble? gan John Prater, addasiad Gordon Jones, Gwasg Gomer, £3.50

Adolygiad gan Anna-Marie
Mae arwr y llyfr hwn yn gymeriad go wahanol i'r arfer. Cadno bach direidus a hwyliog yw Sbango sy'n hoffi aros yn effro drwy'r nos i hela, ac yna'n cysgu'n hwyr y bore wedyn tra mae ei ffau fel digs myfyriwr (hy angen ei dwtio yn ofnadwy).
Un bore fe gaiff dipyn o fraw wrth i Yncl Em sgwennu i ddweud ei fod yn dod i aros. Fe nharodd i ei bod yn rhyfedd bod llythyrau yn dal yn boblogaidd mewn llyfrau plant tra bod plant mewn gwirionedd yn hollol gyfarwydd â'r ffon a'r e-bost hefyd i raddau, sef y ffyrdd mae oedolion yn cysylltu â'i gilydd.
Taflu sbwriel Wedi llythyr Yncl Em mae'n rhaid i Sbango dwtio'r ffau ac mae'n taflu'r sbwriel i dwll y tu allan. Ond mae'r twll yn gartref i Moli Mochyn Daear a does dim croeso i'r sbwriel yn ystafell fyw Moli.
Yn dilyn hyn wrth gwrs mae Moli yn symud y sbwriel i dwll arall (ie,cartref anifail arall) ac mae'n mynd mewn cylchoedd cyn glanio wrth draed Yncl Em, sydd ar ei ffordd i ffau Sbango. Ac ydi, mae Yncl Em yn ei gasglu a mynd â fo i'r ffau.
Stori fywiog Mae'n stori fywiog gyda lluniau gwych ac mae yma hefyd neges fach sy'n ein hatgoffa fod gennym gyfrifoldeb dros ein hamgylchedd.
Roedd y llyfr wrth fodd y ferch, Magi, sydd ddim yn ddyflwydd eto ac mi fyddai croeso i Sbango ddod i'n ty ni unrhyw dro eto - dim ond ei fod yn glanhau ar ei ôl ynde!
Dau lyfr syml Dau lyfr syml ar gyfer y plant lleiaf yw Rownd a rownd ein gardd ni a Ble o ble? gyda'r un cymeriad, sef Tedi Bach.
Mae'r 'stori' ar ffurf rhigwm - un frawddeg dros ddwy dudalen - ond mae hyn yn cael ei golli wrth i chi aros i edrych ar y lluniau a sgwrsio ynglyn â'r hyn mae Tedi yn ei wneud.
Does dim byd cyffrous iawn yn digwydd i Tedi Bach yn y llyfrau hyn.
Yn Rownd a rownd ein gardd ni - fersiwn Gymraeg o rigwm Saesneg boblogaidd - mae Tedi Bach yn chwarae efo'i fam yn yr ardd, ac yna'n dringo'r grisiau i'w wely, ac yn Ble, o ble mae'n chwarae cuddio y tu ôl i'r soffa.
Lluniau tebyg i'w gilydd Mae'r lluniau yn fendigedig ond braidd yn debyg i'w gilydd - doedd gan Magi ddim llawer i'w ddweud wrth Tedi Bach ar ôl holl gyffro llyfr Sbango, ond efallai ei fod wedi anelu at blant 'fengach na 20 mis.
Mae'n anodd dweud - efallai fel y daw yn hyn a dysgu'r rhigymau y bydd y llyfrau yma wrth ei bodd. Tan hynny dydw i ddim yn gweld y ddau lyfr yma yn cystadlu gyda rhai o lyfrau eraill diweddar Gwasg Gomer sydd yn ein ty ni.
|  | 
|