
 |  | Arweinlyfr i fro'r Eisteddfod
Cyfrol yn olrhain hanes Sir Ddinbych
Dydd Iau, Awst 2, 2001
| Sir Ddinbych. Cyfres Broydd Cymru 11. E Gwynn Matthews. Gwasg Carreg Gwalch. £4.50.

Gall fod o gysur i Eisteddfodwyr wybod mai yn Sir Ddinbych "y darganfuwyd yr olion cynharaf o bresenoldeb dyn yng Nghymru."
Gyda’r wybodaeth drawiadol yna y mae E. Gwynn Matthews yn agor y gyfrol ddiweddaraf yng Nghyfres Broydd Cymru a gyhoeddir gan Wasg Carreg Gwalch i gydfynd â’n gwyliau cenedlaethol.
Mae 11 o gyfrolau yn y gyfres erbyn hyn yn ymwneud â broydd yn amrywio o Fro Colwyn y gogledd i Ddinefwr yn y de.
Yr arfer yw eu cyhoeddi ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol. Gwell, yn fy marn i, fyddai eu cyhoeddi o leiaf flwyddyn yn hytrach na mis ynghynt fel bo ymwelwyr â’r Brifwyl yn gallu manteisio i’r eithaf arnyn nhw.
Arweinlyfr hanesyddol Mae pwyslais cyfrol E. Gwynn Matthews ar yr hanesyddol yn hytrach na’r cyfoes ac fel arweinlyfr hanesyddol i’r sir y mae yn fwy na boddhaol gyda phenodau ar ddaearyddiaeth, archeoleg a hanes cynnar; cestyll; ffynhonnau a chroesau; eglwysi; plastai; seintiau; chwedlau; trefi.
Cwta ddwy ddalen sydd yna ar "Sir Ddinbych Heddiw" ac nid yw’r bennod ar ddiwylliant a hamdden ond namyn rhestr efo rhifau ffôn.
I gloi, mae rhestr o lyfrau eraill i’w darllen sy’n cynnwys dwy gyfrol ragorol y diweddar Frank Price Jones, Crwydro Dwyrain Sir Ddinbych a Chrwydro Gorllewin Sir Ddinbych sy’n siwr o fod yn gyfrolau anodd cael gafael arnyn nhw erbyn hyn fel y gweddill o’r gyfres crwydro Cymru ragorol honno.
Angen gwybodaeth gyfoes Gan fod y gyfres bresennol yn amlwg wedi ei chyhoeddi i gyd-daro ag ymweliad Eisteddfodwyr â’r fro byddai gwybodaeth gyfoes am bethau fel lleoedd bwyta, gwestai a lleoedd aros, siopau; trafnidiaeth a’r holl baraffenalia ymweliadol arall o fudd arbennig.
Fodd bynnag, o fewn ei chyfyngiadau y mae Sir Ddinbych yn cyfleu yn llwyddiannus iawn gyda’i rhestrau, ei chyfres o fapiau a chasgliad o luniau naws sir sy’n hynod gyfoethog ei hanes a’i diwylliant a’i thraddodiadau.
Fe sylwir fod rhai pethau ar goll. Er enghraifft er bod plasty Lleweni - dafliad carreg o Faes y Brifwyl - ar y map o blastai nid oes cyfeiriad ato yn y testun.
Methais a gweld hefyd gyfeiriad at Dr Pierce a ddaeth i amlygrwydd yn sgil ymosodiad y Pla Gwyn ar Ddinbych ac a gododd gofgolofn mor drawiadol iddo’i hun mewn gardd yng ngwaelod y dref.
|  | 
|