
 |  | Swyn geiriau a chyfaredd lluniau
Dau yn wynebu taith fawr bywyd
Dydd Iau, Gorffennaf 12, 2001
| ‘Rhaid i ti fyned y daith honno dy hun’ gan Aled Jones Williams. Gwasg Pantycelyn. £4.95.
Adolygiad Glyn Evans
Er mai cyfrol denau, 71 tudalen, yw hon y mae’n gyforiog o sgrifennu trawiadol.
Mor drawiadol y gellid maddau i rywun am amau fod y sgrifennu weithiau mor glyfar o ran arddull ag i fod yn ymhonus - ond dydi hynny ddim yn gywir gan fod yma sgrifennu teimladwy o’r galon.
Morgan Llwyd - y Piwritan llengar o’r ail ganrif ar bymtheg - biau geiriau’r teitl a’r daith y cyfeiriai ati yw honno y mae’n rhaid i bob un ohonom ei chymryd ar ddiwedd ein dyddiau daearol, o’r byd hwn.
A gwneud hynny ar ein pen ein hunain.
Ond er bod y daith yn un cwbwl bersonol y mae yn effeithio ar eraill o’n cwmpas.
Y mae dwy daith - dwy farwolaeth - yn y llyfr hwn.
Marwolaeth tad y storïwr (yr awdur ei hun, yn sicr gan fod yma nifer o gyffyrddiadau y mae’n rhaid iddynt fod wedi eu seilio ar brofiadau personol) mewn ysbyty a hefyd farwolaeth gwr ifanc a aeth i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mewn nodiadau ar glawr y llyfr dywed Yr Athro Gwyn Thomas: "Y mae camp arbennig iawn ar yr ysgrifennu. Rhaid mynd yn ôl at Kate Roberts neu Caradog Prichard i gael safon i’w chymharu ag un yr ysgrifennu a geir yma."
Canmoliaeth yn wir gan fardd arall sydd yn feistr y cyffyrddiadau geiriol.
Rwy’n dweud bardd arall achos y mae hon yn gyfrol farddonol. Ond nid barddonllyd.
Gadael argraff Erbyn gorffen darllen yr oedd gennyf sawl croes ar ochr dalen i dynnu sylw at droadau ymadrodd a adawodd argraff ac a enynnodd edmygedd.
Mae’n gyforiog ohonynt.
Mae ganddo glust arbennig i swyn geiriau a hwythau yn fwy na’u hystyron iddo:
"Y tro hwnnw ’raethon ni i Lundan, Nhad. I chi ga’l gweld arbenigwr. Sbesialist, medda pawb wrtha chi. A’r enw yn gwneud swn fel eroplên ryfal o Fali yn rhigo’r aer. Sbesialist."
Mae ganddo ddarluniau trosiadol sy’n mynd â gwynt rhywun fel yr un cignoeth - os maddeuer y gair yn y cyd-destun - hwn:
"Y stribyn cnawd yma yn plethu i’r dillad gwely oedd . . . fu . . . ydy? Nhad? . . . Nhad! Fel asgwrn tsiopan wedi’i chnoi a’i chnoi gin hen gi a’i gadal wrth ochor dysbin. Sbwrial cnawd. Cnawd fel cadach llawr yn slwtsh ar stepan drws. Cnawd fel sgid gachu ar ban toilet. Hen-sach-dan-drws-o-gnawd-i-stopio-drafft."
Cymaint o drosiadau i gyd yn ychwanegu at y darlun meddyliol o’r truan ar ei wely.
Camp ynddi ei hun Y mae ei ddyfeisgarwch trosiadol yn gamp ynddi ei hun megis yr arch a welodd plentyn mewn eglwys yn "debyg o gefn ’reglwys i dda-da barlishygyr o siop gemist Arthur Williams."
Edmygais yn arbennig y dull hwn o wneud i drosiadau weddu i’r cymeriadau.
Dyma ddarlun arall drwy lygaid plentyn eto:
""Mae’r hydref yn y coed fel agor bocs o greons."
Ac un arall: "Ar y ffordd adra gwelaf y nos yn tywallt drwy’r awyr inc-o-botel-wedi-ei-throi-drosodd-ar-ddamwain" - er rwy’n credu y byddai wedi bod yn well gorffen gyda’r gair botel.
A dydio ddim yn syndod fod y sgrifennu weithiau yn rhoi’r argraff o ymdrechu’n rhy galed i greu argraff a bod yn glyfar:
"O’n cwmpas ni glywch chi swn isel miserere’r gwynt? Ac yn y pellter y môr requiem yn llonydd fel bwrdd gwag."
ac
"Briga’r coed fel llofnod doctor ar bresgripsiwn yr awyr."
ac
"ei dagrau’n troi’r geiriau’n gleisiau bychain ar groen y papur."
Rhwng taro a methu Mae’r llinell rhwng taro a methu yn un denau iawn ond byddwn yn gwneud cam dybryd a’r gyfrol drwy roi’r argraff mai rhyw ymarferiad mewn sgrifennu trawiadol yw hon gan fod yma straeon sy’n cyffwrdd a "dyfnion bethau" gwaelodol a sylfaenol bywyd.
Y syndod yw i’r awdur lwyddo i ddweud cymaint mewn lle mor gyfyng.
Personol Y mae hefyd yn gyfrol bersonol iawn fel mae’r wyneb ddalen yn awgrymu gyda’i geiriau: Er cof am y ddau; Robert Edward Williams 26 Mawrth 1917.
Robert Edward Williams 25 Mawrth 1917 - 1997.
Tad yr awdur yw yr ail a’i dad yntau y cyntaf gyda’r dyddiadau yn dweud yn gynnil stori drist eu marw a’u geni.
Awdur sy'n ddramodydd Mae’r hanes yn cychwyn ar Awst 25, 1997, gyda geiriau’r sgwrs gyntaf wrth osod y cefndir yn ein hatgoffa fod yr awdur yn ddramodydd sydd wedi hen arfer cyfleu pethau trwy ddeialog:
"Sut mae o metron?" "Cwla." "Sa well i mi ddwad adra?" "Ma’ hynny i fyny i chi. Ond sincio mae o."
Gyda’r sgwrs honno yn cael ei dilyn yn syth wedyn heb doriad:
"Sut ma’ Dad, Mam?" "Mae o’n o lew, sti. Dal yn’i wely. Ond ma’ metron yn deud ‘wrach geith o godi fory. . ."
Ac o ran adeiladwaith mae plethiad y ddwy farwolaeth yn gelfydd gywrain gan wneud y gyfrol fechan yn un llawer iawn mwy na nifer ei dalennau.
Ewch i Holi Awdur
|  | 
|