
 |  | Ei thaflu o'r capel efo'i bwgan brain!
Cofio awdures o Ben Llyn oedd yn enwog am ei nofelau hanes i blant
Dydd Iau, Mehefin 21, 2001
| Gosod carreg goffa i Elizabeth Watkin Jones, awdur nofelau hanes, yn Nefyn.
Mae mudiad ‘Cyfeillion Llyn’ ar y cyd â Chyngor Cymdeithas Nefyn wedi gosod carreg i goffàu’r awdures boblogaidd Elizabeth Watkin Jones, yn ei hen gartref, Y Garth, yn Nefyn ym Mhen Llyn.
Merch i gapten llong oedd Elizabeth ac mae’n disgrifio yn ei gwaith sut y boddodd ei thad, y Capten Henry Parry, pan olchodd ton dros y cwch wrth iddo ddod tua’r lan yn harbwr Iquique yn Ne America.
Ar ôl colli ei thad yn ifanc magwyd Elizabeth yn Nhy’n Llan, Nefyn, sydd gyferbyn ag eglwys y plwyf ac yno y bu heb frawd na chwaer a rhannai ei hamser rhwng ty ei mam a thy ei nain a’i thaid.
Cyfaddefodd ei hun ei bod yn ferch wedi ei difetha.
Merch ddrygionus Ond gallai fod yn ferch ddrygionus hefyd fel y dengys hanesyn amdani yn y capel; lle rowliodd gêp ei nain am ambarél ei thaid tra roedd y pregethwr yn gweddïo er mawr syndod i’r rhai nad oedden nhw wedi plygu eu pen yn lllwyr.
Am ei rhyfyg cafodd y berfformwriag ei hyrddio o’r capel allan i’r ffordd fawr gan ei thaid a’i nain oedd yn flin iawn!
Cafwyd llawer o’i hanes yn yr ysgol gan ei ffrind, Sera Trenholme a ddywedodd i’r ddwy fod yn ddigon drwg i gael eu dal yn ôl yn nosbarth tri a cholli’r arholiad.
Roedd Elizabeth wedi cael gafael ar lyfrau Saesneg - dyna oedd iaith yr ysgol gyda fawr didm ar gael yn y Gymraeg i fodloni ei hawydd am stori gyffrous.
Ond roedd yna ddigon o straeon tylwyth teg a straeon môr ar lafar gan hen drigolion y dreflan yn Nefyn ac nid oes amheuaeth na ddylanwadodd y rheini arni.
Roedd llongwyr Nefyn yn hwylio’r byd, a Begw Ifan , "yn i chap o lês du am ei phen, a broits fawr yn cau’r siol wlanen fach dros ei hysgwydd", wrth ei bodd yn sôn am Jac Lantarn, y fôr forwyn, a’r tylwyth teg wrth y plant. (Lois).
Bodloni ysfa Ar y llaw arall, bodlonai ysfa i fod yn athrawes trwy adrodd straeon wrth ddelw, a fu ar flaen un o longau hwyliau ei thaid, yn ngardd ei nain.
Yr un mor ddiddorol, efallai, oedd y gansen oedd ganddi’n barod i wneud yn siwr fod y ddelw’n gwrando.
Trodd y ddelw i fod yn blant go iawn pan aeth Elizabeth i Ysgol y Foelgron, ym Mynytho, yn 14 oed i baratoi i fynd yn athrawes.
Yn 25 oed roedd y ferch fu’n perfformio gyda’r bwgan brain yn y capel yn Nefyn yn llywydd Cymdeithas Ddrama Coleg Y Coleg Normal, Bangor.
Ei chryfderau addysgol yn y coleg oedd Cymraeg a Hanes ac wedi rhai blynyddoedd yn dysgu yn y de, fe briododd brifathro ysgol Nefyn a dychwelyd i’w chynefin.
Nofelau i blant Yno y cafodd yr ysbrydoliaeth a’r amser i ysgrifennu saith o nofelau hanesyddol i blant, pump ohonynt yn ymwneud naill ai â’r werin wladwriaeth neu’r Rhyfel Cartref.
Mae ei nofel fwyaf poblogaidd, Luned Bengoch, wedi ei hargraffu bedair gwaith.
Wedi bron i 40 mlynedd cafodd y nofel ei diweddaru gan Hugh D. Jones, nai’r awdur, ac fe gafodd y diweddariad hwnnw ei ail argraffu o fewn dwy flynedd.
Diweddarwyd tair nofel arall hefyd, Lois, Y Dryslwyn ac Y Cwlwm Cêl.
Bu ei nofelau hefyd yn gyfresi radio i blant bar adeg pan oedd Awr y Plant yn ei hanterth.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Plant y Mynachdy, ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, ac yna ar ddiwedd y rhyfel cyhoeddwyd ei hail nofel, Luned Bengoch.
Yna cyhoeddwyd Lowri yn y casgliad o Storiau Ias a Chyffro, a’r un flwyddyn cyhoeddwyd Esyllt, nofel wedi ei gosod yn hen faenor Nefyn.
Tymor pwysig Gallwn weld yn ei gwaith fod tymor y flwyddyn rhwng calan gaeaf a’r Nadolig yn golygu llawer iddi - daw hyn yn amlwg iawn yn ei nofel olaf sef Lois.
Enillodd Lois y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Colwyn.
Ym Mae Colwyn hefyd ar fur yr Amlosgfa nodir y gaeaf ar garreg coffa i ‘r ddau, Elizabeth Watkin Jones, a fu fel mam i Lenyddiaeth plant Cymru am dros chwarter canrif, ac i’w gwr John Watkin Jones, a fu fel tad i blant Nefyn.
Trefnodd John Watkin Jones fod model o goron aur yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn i’r Prif Lenor yn Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru, er cof am ei briod.
Ac yn awr y mae carreg goffa, diolch i Gyfeillion Llyn, ar fur hen gartref awdur a daniodd dychymyg miloedd o ddarllenwyr ifanc Cymraeg a a ddaeth a bri a safon i’r nofel hanes yn y Gymraeg.
|  | 
|