
 |  | Bwli yn boen yn y bol
Nofel fuddugol Medal Lenyddiaeth Gwyl yr Urdd 2001.
Dydd Iau, Mehefin 21, 2001
| Bwli gan Owain Siôn. Gwasg Gomer £3.95 Nofel fuddugol Medal Lenyddiaeth Gwyl yr Urdd 2001.
 Adolygiad gan Catrin Jones
Nofel ar ffurf dyddiadur yw Bwli ac ynddi cawn hanes Dylan, myfyriwr ar ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caer Banwy.
Dyma nofel hawdd i’w darllen sy’n darlunio bywyd myfyriwr mewn neuadd breswyl Gymraeg i’r dim.
Yn nechrau’r nofel mae Dylan yn dipyn o foi ac mae’n adrodd ei hanes yn meddwi gyda’i ffrindiau ac yn mwynhau bywyd coleg i’r eithaf.
Ond y tu ôl i hyn i gyd mae yma gymeriad sensitif iawn.
Datgelu gwir gymeriad Dim ond yn raddol y datgelir gwir gymeriad Dylan i ni ac mae fel petai’n dod i gyffesu fwyfwy yn ei ddyddiadur wrth iddo orfod wynebu problemau bywyd.
I ddechrau does dim yn ei boeni ond pethau arwynebol, problemau fel: "gysgodd Gwenno a fi yn yr un gwely eto neithiwr, ond ddaru na’m byd ddigwydd am y pedwerydd tro ar y trot", a thraethodau Cymraeg diflas.
Ond fel yr â’r nofel yn ei blaen mae’i broblemau yn dwysáu a hynny’n bennaf am fod bachgen newydd, Stifyn, yn dod i fyw i’r neuadd.
Mae Stifyn yn atgof poenus o orffennol Dylan gan yr arferai ei fwlio pan oedd yn iau.
Mae byw o dan yr un to â’r bwli yn newid personoliaeth Dylan yn llwyr gan ei wneud yn ddihyder a chwerw.
Bwli arall O ganlyniad mae ‘bwli’ arall yn gwthio’i hun yn ôl i’w fywyd sef y clefyd seicolegol creulon hwnnw, bwlemia.
Fel arfer fe gysylltir y cyflwr hwnnw â merched oherwydd y pwyslais cynyddol sydd yn y wasg a’r cyfryngau ar ddelwedd.
Ond mae Dylan yn ein gorfodi i sylweddoli y gall y pwysau i edrych yn berffaith effeithio’n seicolegol ar fechgyn yn ogystal.
Yn sicr mae’n rhaid canmol yr awdur am ei ymdriniaeth o’r pwnc sensitif hwn.
Mae’n llwyddo i ddarlunio’n gelfydd y ffordd y mae’r salwch yn ei feddiannu’n raddol fel na all ddianc o’i grafangau erbyn y diwedd.
Darlun byw Mae’n llwyddo i greu darlun byw i ni o’r hyn sy’n mynd trwy feddwl Dylan ac felly gallwn uniaethu â’i boen.
I ddechrau "cyw iâr ‘di cael ei brosesu a’i wasgu at ei gilydd ar ffurf coes cyw iâr" sy’n ei gymell i wthio’i fysedd i lawr ei wddf: "y peth cynta nes i ar ôl dwad ‘nôl o swper oedd mynd i’r toilet i fod yn sâl. Dim sâl naturiol tro’ma, ond gneud fy hun yn sâl."
Yn raddol daw’r weithred yn un gyson a daw’n rhan annatod o’i fywyd: "Mi ffeindish i’n hun yn sbio ar fy adlewyrchiad i yn nwr gwaelod y toilet. A’r cwbwl o’n i’n weld oedd lwmp o lard....oedd dau o mysedd i ym mhen draw fy ngheg i heb feddwl bron...."
Mae’r problemau’n dwysáu pan yw tad Dylan yn "gollwng y bomshell mwya erioed, mwy na Hiroshima a Nagasaki, ar ein ty ni amser swper".
Creadur ynysig Wedi hyn fe aiff Dylan yn greadur ynysig iawn ac mae’r clefyd yn cloi ei grafangau’n dynnach amdano.
Ond yng nghanol y gwewyr mae yma hiwmor ffres ac ar sawl achlysur mae disgrifio gonest yr awdur yn dod â gwên i’r wyneb a cheir yma hefyd ambell feirniadaeth gynnil o’r Gymru Gymraeg.
Dyma awdur addawol sydd wedi llwyddo i roi gwedd newydd ar bwnc dyrys sy’n dod yn fwy cyffredin yn y byd cyfoes.
Holi awdur
|  | 
|