
 |  | Y Mwyaf o'r John Daviesus
Pwyso a mesur ysgolhaig mwyaf ei gyfnod
Dydd Iau, Mehefin 14, 2001
| John Davies o Fallwyd gan Ceri Davies. Llên y Llenor. Gwasg Pantycelyn £5.

Sylwadau Glyn Evans.
Y mae naw John Davies yn cael eu rhestru yn y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru ond ni fyddai llawer o ddadlau mai’r mwyaf ohonynt oedd yr ysgolhaig o’r ail ganrif ar bymtheg, John Davies, Mallwyd.
Yn cael ei gysylltu ag enwau mawr byd llên Cymru fel William Morgan, cyfieithydd y Beibl, Edmwnd Prys a William Salesbury dywedir mewn llyfr sydd newydd ei gyhoeddi mai John Davies "fel ysgolhaig pur" oedd o bosibl "y mwyaf ohonynt oll a’i hyfedredd yn yr ieithoedd clasurol a’r ieithoedd dwyreiniol (yn arbennig yr Hebraeg) ynghyd â’i feistrolaeth gwbl arbennig ar draddodiad llenyddol y Gymraeg, yn creu cyfuniad unigryw."
Ceri Davies, darllenydd yn Adran y Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe, biau’r geiriau a hynny mewn cyfrol am John Davies o Fallwyd yn y gyfres Llên y Llenor.
Bwrlwm o edmygedd Y mae y gyfrol yn byrlymu o edmygedd o’r ysgolhaig y bu ei gyfraniad yn un mor wiw yn ystod cyfnod diweddar y dadeni Dysg.
Wedi ei eni yn 1567 yr oedd John Davies mewn cysylltiad agos â William Morgan, cyfieithydd y Beibl, ac yn un o’i gynorthwywyr.
Mae’n cael ei adnabod fel John Davies Mallwyd oherwydd iddo gael ei benodi yn rheithor yno yn 1604 ond nid am ei waith fel rheithor y mae’n cael ei gofio.
Ef a wnaeth y rhan fwyaf o’r gwaith o ddiwygio iaith y Beibl Cymraeg cyn cyhoeddi argraffiad 1620 ohono yn dilyn cyfieithiad cyntaf Morgan.
Cyfraniad hynod Yr oedd ganddo law yng nghyfieithiad y Llyfr Gweddi Gyffredin hefyd ac yn ogystal â chyhoeddi Gramadeg Cymraeg Lladin cyhoeddodd eiriadur Cymraeg Lladin a’r cyfieithiad cyntaf o waith yr Ieseuwr Robert Parsons, Llyfr y Resolusion.
Yn Llen y Llenor y mae Ceri Davies nid yn unig yn dilyn ond yn pwyso a mesur yn feirniadol ei gyfraniad hynod i lên Cymru ac i Gristnogaeth.
Daw i’r casgliad; "Arwyddai marwolaeth John Davies ( Mai 15, 1644) ddiwedd pennod yn hanes llên yng Nghymru. Gyda’i ymadawiad ef daeth i ben y traddodiad hwnnw o ddysg gytbwys ac o ysgolheictod amlweddog a ysbrydolwyd gan ddelfrydau’r Dadeni ac a gymhwyswyd gyntaf at sefyllfa Cymru …"
Hynny yw, y ddau beth a’i gyrrai oedd ei sêl Gristnogol a’i frwdfrydedd ysol dros y Gymraeg.
Ysgolhaig mwyaf "Ef o’i fyfyrgell yn rheithordy Mallwyd, oedd ysgolhaig mwyaf cyfnod olaf y Dadeni Dysg yng Nghymru. Costrelodd, a sianelodd yn effeithiol, ffrydiau’r ddysg a dorrodd ar Gymru drwy lafur John Prys a William Salesbury, genhedlaeth a rhagor o’i flaen."
Mae Ceri Davies yn ei osod yn ei gyd-destun hanesyddol trwy ein hatgoffa ei fod yn perthyn "i’r to cyntaf o Gymry a gâi wrando, o’u plentyndod, ar ffurfwasanaethau’r eglwys wladol, ar y salmau a llithiau’r Testament newydd, yn cael eu darllen yn eu mamiaith."
Anodd i ni heddiw werthfawrogi yn llawn y fath fraint a gwefr ond gallwn ddychmygu - a dychmygu hefyd, o ddarllen y gyfrol hon, effaith hynny ar John Davies a’i debyg.
Y cefndir crefyddol cyfoethog hwn ac addysg drwyadl yn yr ieithoedd clasurol, Groeg a Lladin, yn Ysgol Rhuthun, a’i harweiniodd i ddweud yn ei Ramadeg:
"Ac yn wir ni ellir credu o gwbl y byddai Duw wedi ewyllysio i’r iaith hon (y Gymraeg) gael ei chadw hyd yr amserau diwethaf hyn, a hynny ar ôl cynifer o laddfeydd ar y genedl . . . heblaw ei fod ef wedi ordeinio fod ei Enw i gael galw arno yn yr iaith hon, a’i fawrion weithredoedd i gael eu cyhoeddi ynddi."
A dyna meddai Ceri Davies, yr argyhoeddiad "a barai fod ymboeni ynglyn â’r Gymraeg a’i gramadeg yn bwysig" iddo.
Llunio geiriadur "Yn y blynyddoedd ar ôl 1621 troes Davies ei sylw’n arbennig at gyfoethogi a chyfundrefnu ei gasgliad o eiriau Cymraeg a gwneud geiriadur llawn ohono," meddai Ceri Davies gan gydweled â’r athro Caerwyn Williams a ddywedodd i Davies drwy hynny osod geiriaduraeth y Gymraeg "ar seiliau cadarn."
Sylfeini, meddai, na welwyd nemor ehangu . . . nac adeiladu gwirioneddol arnynt hyd yr ugeinfed ganrif.
Ym meddwl John Davies nid oedd amheuaeth o gwbl ynglyn ag "urddas diamheuol" y Gymraeg ac y mae Ceri Davies yn fawr ei edmygedd nid yn unig o’i lafur oes "yn ymboeni am urddas y Gymraeg" ond hefyd o’i feistrolaeth "ryfeddol o lwyr" ar adnoddau’r Gymraeg, ei hidiomau a’i geirfa.
|  | 
|