
 |  | 'Wnaiff y Cymry ddim siarad Cymraeg 'da fi'
Cwyn Americanes sy'n dysgu Cymraeg
Dydd Iau, Mehefin 14, 2001
|
You Don’t Speak Welsh! gan Sandi Thomas. £5.95. Cyhoeddwyd gan Dinas. Dyddiad cyhoeddi Mehefin 18
Ceir sylwadau llym a digon beirniadol o’r Cymry Cymraeg mewn llyfr sydd newydd ei gyhoeddi am y profiad o ddysgu Cymraeg ar gwrs Wlpan, You Don’t Speak Welsh!
Yn ôl yr awdur, Sandi Thomas, mae agwedd y Cymry Cymraeg at ddysgwyr yn anghredadwy:
"Os ydyn nhw am i’r Gymraeg barhau, pam eu bod yn gwrthod siarad yr iaith gyda dysgwyr?"
Profiadau pleserus a phoenus Ategir y teimlad rhwystredig yma sawl tro yn y gyfrol, sy’n gofnod o’r profiadau pleserus a phoenus o ddysgu Cymraeg ar gwrs Wlpan yn Aberystwyth:
"Why must the most frightening, the most intimidating part of learning Welsh be the fear of speaking it in public?"
Ceir darlun gwahanol o Gymru a’i diwylliant o safbwynt Americanes yn y gyfrol, yn ogystal â’r problemau enbyd mae rhywun yn ei gael wrth ddysgu’r iaith.
"Bydd unrhyw ddysgwr yn gallu uniaethu gyda phroblemau’r awdur gyda threiglo ac ynganu: ("There must be a better word for library than "thluhvurhrgethl") a bydd y gyfrol yn sicr yn ddefnyddiol a phwrpasol i athrawon a thiwtoriaid," meddai llefarydd o Wasg Y Lolfa, y cyhoeddwyr.
Cariad at Gymru Yn ogystal â beirniadu’r Cymry mae Sandi Thomas, sy’n Americanes o Galiffornia, yn datgan ei chariad at Gymru a’r iaith Gymraeg:
"Dysgu Cymraeg yw un o’r pethau gorau dwi erioed wedi wneud – mae e wedi agor byd newydd i fi, a dwi yn gobeithio bod yn rhugl yn y Gymraeg a symud i fyw i Gymru rhyw ddydd."
Dywedodd Lefi Gruffudd ar ran Y Lolfa fod y gyfrol yn rhoi golwg ffresh o Gymru a’r Gymraeg.
"Golwg rhywun o’r tu allan sy’n rhyfeddu at bopeth – bydd yn agoriad llygad i’r Cymry Cymraeg sy bob amser yn cymryd pethau mor ganiataol."
|  | 
|