
 |  | Cyfrol sâl
Cerddi gwael sy'n siwr o godi calon plant ac oedolion
Dydd Iau, Mehefin 7, 2001
| Tabledi Gwneud-chi-wenu. Detholiad o gerddi wedi eu golygu gan Myrddin ap Dafydd.
 Adolygiad Katie Jones
Dyma gasgliad arall o farddoniaeth yn y gyfres boblogaidd o Lyfrau Lloerig gan Gwasg Carreg Gwalch.
Golygydd y gyfrol yw Myrddin ap Dafydd ac mae’r cerddi yn y llyfr hwn i gyd ar yr un thema, salwch.
Ond peidiwch â digalonni, da chwi, gan fod yma ddôs o farddoniaeth sy'n llawn hiwmor yn ogystal â heintiau.
Ymhlith y cyfranwyr mae beirdd fel Nesta Wyn Jones, Carys Jones, Tudur Dylan Jones, Margiad Roberts a’r golygydd ei hun, Myrddin ap Dafydd.
Doniol ac annwyl Mae’r cerddi’n ddoniol, yn ddiniwed ac yn annwyl.
Darluniwyd y llyfr gan y cartwnydd poblogaidd, Siôn Morris, ac mae ei luniau bywiog yn adlewyrchu naws a hwyl y cerddi.
Llyfr i blant yw hwn ac mae cyfrolau o’i fath yn ffordd ardderchog o gyflwyno barddoniaeth i glustiau bychain, ifainc.
Flynyddoedd yn ôl, cerddi A.A.Milne yn y gyfres When We Were Very Young oeddwn i yn eu darllen a chael fy hudo gan y geiriau a’r delweddau hyfryd.
Nid oes gwell ffordd o ddysgu sgiliau barddoni, a rhythm, na’r fformat hwylus yma.
Er mai cyfrol sy wedi ei hanelu at blant yw hon bydd pawb yn cael mwynhad o’i darllen.
Yn sicr, mi gefais I - wedi’r cyfan mae pawb yn sƒl o dro i dro ac yn dioddef o ambell Benmaenmawr.
Rhywbeth at ddant pawb yw’r llyfr hwn felly.
Plygwch drosodd syr . . . Yn ddigon rhyfedd, mi ddechreuais i ddarllen y llyfr mewn meddygfa - a chas gennyf fynd i’r fan honno.
Byddaf yn dioddef o symptomau fel coesau’n crynu a’r bol yn aflonydd oherwydd fod arna'i ofn. Nid ofn y doctor na’r nyrsys a’u nodwyddau mawrion, tewion, ond ofn y dderbynwraig.
Felly, croesawais gerdd Valmai Williams a’i chyngor doeth ynglyn â’r Lle i’w Osgoi.
Os am gadw’n iach, da chi, Cadwch draw o’r syr-jy-ri. Does dim lles mewn ‘ista ‘nghanol Jyrms peryglus criw o bobl Sydd yn tagu ac yn tisian Ac yn chwythu trwyn a snwffian; Cadwch draw o’r syr-jy-ri Os am gadw’n iach, da chi.
Er mai salwch yw thema’r cerddi hyn, mae gan y beirdd gryn amrywiaeth o fewn y pwnc fel damweiniau, salwch, teithio, nerfau cyn llwyfan eisteddfod a gwenwyn bwyd.
Fy hoff gerdd yn y gyfrol yw Pwy? lle mae Selwyn Griffiths yn cyfuno diniweidrwydd cwestiynau plant ƒ hiwmor mewn ffordd hynod o effeithiol.
Rwy’n nabod Ses drws nesa, A Sel a Nel a Nia, Ond plis dywedwch wrtha i - Pwy ydi Dei a Ria?
Ceir sawl disgrifiad o arwyddion afiechydon a dyma un enghraifft fanwl gan Margiad Roberts yn ei cherdd Salwch.
Dwi’n gwla, dwi’n giami, dwi’m hannar da. Mae ‘mhen i’n y Sahara a ‘nhraed i ‘Ngwlad yr Ia.
Mae sawl cerdd am bobl sy’n smalio bod yn giami yn gyson er mwyn peidio â mynd i’r ysgol. Nid damwain, ’rwy’n siwr, yw’r ffordd mae rhai cerddi wedi cael eu hysgrifennu gan ei gwneud yn anodd dehongli pwy yw’r adroddwr - athro neu ddisgybl?
Mae’r gyfrol yma’n cynnwys Rysait Aros Adra felly os yr ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth i greu cwynion newydd, mi gewch sawl symptom gwreiddiol.
Ffisig gorau Er yr holl chwerthin gydol y llyfr mae ambell gerdd ddwys ac ’rwyf am orffen yr adolygiad trwy ddyfynnu cerdd hyfryd y golygydd, Myrddin ap Dafydd, Cƒn Gwella
Gad i mi weld lle ti’n brifo, Gad i mi deimlo dy wres, Gad i mi glywed dy gwyno, Gad i mi eistedd yn nes; Gad i mi ddanfon dy ddolur ymhell, Gad i mi’i chwythu yn well.
Ga i mi sibrwd breuddwydion, Gad i mi gynnal dy ben, Dy ddal di at fy nghalon A dangos bod seren wen; Gad i mi yrru dy boen di ymhell, Gad i mi’i chwythu yn well." Gad i mi yrru dy boen di ymhell, Gad i mi’i chwythu yn well.
Casgliad arall o gerddi doniol a darllenadwy yn y gyfres o Farddoniaeth Loerig sy’n gwneud imi gredu mai ffisig geiriol yw’r gorau yn wir.
|  | 
|